Roma yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Teulu o Roma Cymreig a'u carafán. Ffotograff gan Geoff Charles (1951).

Grŵp ethnig hanesyddol yng Nghymru sydd yn perthyn i bobloedd eraill y Roma yw'r Roma yng Nghymru, y Sipsiwn Cymreig neu'r Kale.

Mae'n debyg i'r bobl Roma fyw yng Nghymru, neu deithio drwyddi, ers y 15g. Yn ôl traddodiad, Abram Wood neu "Frenin y Sipsiwn" oedd y cyntaf ohonynt i breswylio yng Nghymru yn barhaol a hynny yn y 18g. Bu'r mwyafrif o Roma Cymreig ers hynny yn honni'r un waedoliaeth a chyfeirir atynt felly fel teulu Abram Wood. Maent yn perthyn i'r Romanichal yn Lloegr, ac mae'r hen iaith Romani Gymreig ar y cyfan yn unfath â'r Eingl-Romani.

Er iddynt parhau a'u bywyd crwydrol yn y 19g a dechrau'r 20g, cawsant eu cymhathu i ddiwylliant y Cymry mewn sawl ffordd, gan gynnwys troi at Gristnogaeth, mabwysiadu cyfenwau Cymraeg, a chymryd rhan mewn eisteddfodau. Amcangyfrifir bod rhyw 3000 o Roma yng Nghymru yn yr 21g.[1] Yn ôl Cyfrifiad 2011, mae 0.1% o boblogaeth Cymru (2,785 o bobl i gyd) yn ystyried eu hunain yn Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig o ran eu hethnigrwydd.[2]

Enw[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir yr enghraifft gynharaf o'r enw "Sipsiwn" mewn disgrifiad o'r Saeson yn y gerdd Deffynniad Ffydd Eglwys Loegr (1595) gan Morris Kyffin: "bachog kaid ai bochau kŵn / siapsach a gweflau sipswn".[3] Benthyciad o'r enw Saesneg Diweddar Cynnar gyptsion (neu ffurf debyg megis gipson) ydyw, hynny yw Egyptian oherwydd y gam-dyb ledled Ewrop taw o'r Aifft y daeth y Roma. Yng Ngogledd Cymru, rhoddai'r enwau jipsan a jipsen ar y Roma, ac yn y de galwai merch Roma yn sibwnen.[4] Câi'r enw Sipsiwn ei roi ar grwpiau nomadaidd eraill, yn enwedig y Teithwyr Gwyddelig, a gweithwyr crwydrol megis tinceriaid. Bellach mae rhywfaint o ystyr ddifrïol i'r enw,[3] ac mae sibwnen yn air sarhaus am fenyw megis slebog,[5] gan adlewyrchu'r rhagfarn yn erbyn y Roma.

Oherwydd Abram Wood a sefydlai'r gymuned Roma barhaol yng Nghymru, rhoddir yr enw teulu Abram Wood neu deulu Alabeina arnynt.

Yr enw safonol ar y Roma Cymreig yw Kale neu Kalá.

Ethnogenesis[golygu | golygu cod y dudalen]

Carreg fedd Abram Wood yn Eglwys Llangelynnin, Gwynedd.

Mae'n debyg i'r Roma gyrraedd Cymru gyntaf yn y 15g. Mae'r cofnod swyddogol cynharaf o Roma yng Nghymru yn dyddio o 1579, pryd arestiwyd Sipsiwn yn Sir Faesyfed,[1] ond dechreuodd eu gwir ethnogenesis yng nghanol y 18g. Daeth Abram Wood i Gymru tua 1730, ac yn ôl traddodiad efe y cyntaf ohonynt i breswylio yng Nghymru yn barhaol. Dywed iddo gyflwyno'r fiolin i'r Cymry, ac i'r Cymry gyflwyno'r delyn i'r Sipsiwn. Daeth ambell deulu arall o Roma i dreulio amser hir yng Nghymru, gan gynnwys yr Ingrams, y Lees, a'r Prices.[1]

Cymhathiad a dirywiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Teulu o Sipsiwn yn gwersylla ger Abertawe (1953).

Yn yr 20g bu gostyngiad yn y niferoedd a oedd yn parhau â'r bywyd crwydrol. Daeth rhagor o Roma o Ewrop i Gymru yn 1906, ond cawsant eu goruchwylio'n ofalus gan yr heddlu a'u hebrwng yn ôl i Loegr i'w halltudio. Yn 1996 cyfrifwyd 489 o garafanau, 36 ohonynt ar wersyllfannau heb awdurdod. Mae nifer fawr o Roma Cymreig wedi rhoi'r gorau i'w hen ffordd o fyw ac wedi symud i mewn i dai. Mae'r boblogaeth grwydrol yng Nghymru'r 21g yn cynnwys Teithwyr Gwyddelig ac yn y de, disgynyddion o briodasau rhwng y Kale a'r Romanichal. Mae rhai ohonynt yn parhau i deithio i Loegr a'r Alban yn eu carafanau.[1]

Diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]

Iaith[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'r dafodiaith Gymreig yn goroesi yn y gogledd hyd at 1950, ac er ei fod yn ffurf ar Romani ac felly o deulu'r ieithoedd Indo-Ariaidd, mae ganddi nifer o fenthyceiriau Cymraeg a Saesneg.

Cyfarfu Derek Tipler â charfan o Roma oedd yn medru'r iaith yn Sir Gaernarfon yn 1950. Manfri Wood yw'r siaradwr Romani rhugl a wyddys amdano yng Nghymru, a bu farw tua 1968. [1]

Cerddoriaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymhlith teulu Abram Wood bu nifer o gerddorion o fri, gan gynnwys John Roberts (Telynor Cymru). Yn ôl y delynores Nansi Richards, a gafodd ei magu ar ym Mhen-y-bont-fawr a fu'n gartref am gyfnod i deulu Abram Wood, y Sipsiwn Cymreig oedd yr olaf i ganu'r pibgorn.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Donald Kenrick, Historical Dictionary of the Gypsies (Romanies) ail argraffiad (Plymouth: Scarecrow Press, 2007), tt. 289–90
  2. "Cyfrifiad 2011: Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru, Mawrth 2011", Swyddfa Ystadegau Gwladol. Adalwyd ar 26 Medi 2018.
  3. 3.0 3.1  sipsiwn. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 26 Medi 2018.
  4. Geiriadur yr Academi, "gipsy".
  5.  sibwnen. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 26 Medi 2018.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]