Rolant o Fôn
| Rolant o Fôn | |
|---|---|
| Ffugenw | "Rolant Rhosgofer" |
| Ganwyd | Rowland Hugh Jones 26 Chwefror 1909 Rhostrehwfa, Ynys Môn |
| Bu farw | 8 Rhagfyr 1962 Rhostrehwfa |
| Galwedigaeth | cyfreithiwr a phrifardd |
| Cysylltir gyda | ennill Y Gadair ddwywaith |
Enw barddol y "bardd-gyfreithiwr" a'r Prifardd [dwbl] o Rostrehwfa, Ynys Môn, Rowland Hugh Jones oedd Rolant o Fôn (26 Chwefror 1909 – 8 Rhagfyr 1962).[1][2] Enillodd y Gadair ddwywaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn Eisteddfod Hen Golwyn 1941 ac yn Eisteddfod Dolgellau 1949.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Penrallt.[3]
Yn ôl y Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, daeth yn amlwg fel bardd ifanc mewn eisteddfodau lleol, cyn ennill y Gadair ddwywaith am ei Awdlau Hydref ac Y Graig.[2] Enillodd ei Gadair gyntaf yn Eisteddfod Brynsiencyn, pan yn llanc 19 oed.[3] Enillodd Gadair Eisteddfod Powys yn ogystal.[3]
Wedi gadael yr Ysgol Sir, bu'n glerc am gyfnod ym modurdy T. R. Jones, ac yna i Swyddfa R. Gordon Roberts "i gymhwyso'i hun i fod yn gyfreithiwr".[3]
Disgrifiwyd ef fel "cyfreithiwr ffraeth", a threuliodd ei oes yn ei swydd yn gweithio o Amlwch ac wedyn Llangefni.[2][3]
Bu'n golygu colofn farddol i Herald Môn am gyfnod, a bu'n beirniadu'r Awdl yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ef oedd sylfaenydd Clwb Gwerin, Llangefni.[3]
Yr oedd yn "feistr ar y cynganeddion ac arbrofodd ar gyfuno'r mesurau".[2]
Priododd Jennie Lloyd Williams (1920 – 2015) ym 1941, a cawsant 2 ferch, ac 1 mab.[1]
Bu farw ar 8 Rhagfyr 1962 yn Ysbyty Môn ac Arfon yn 53 oed.[1][3]
Cafwyd cofiant "diddorol" iddo gan Emlyn Richards o'r enw Rolant o Fôn y Bardd-Gyfreithiwr ym 1999 gan Wasg Gwynedd.
Cyhoeddwyd Cywydd Coffa iddo gan y Parch W. T. Gruffydd yn Y Clorianydd [10 Mehefin 1964]. Dyma rannau ohoni:
"Aeth Rolant, fab athrylith,
I'r glyn fel plentyn o'n plith!
Cymrawd im, y Cymro da
Hyfwyn o Rostrehwfa.
O'i gychwyn, febyn-di-fam
Dôi argoel dawn di-wyrgam.
Diau fod nwyf Llew Llwyfo,
Awen dirf, yn ei waed o.
Dyled y llanc i'w deulu,
Crefydd a darfelydd fu.
Ŵr llys, i'r Ynys ymrôdd;
Hyd rengau ei sêr dringodd,
Yn ei swyddfa, os addfwyn
A chall y trin gwall neu gŵyn,
Y gŵr tenau gwineuwallt
Ar ein twyll âi'n feirniad hallt.
Nithiwr iawn ar rawn o'r us,
Y dyddiwr anrhydeddus."
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]- Y Brenin a Cherddi Eraill (1957)
- Yr Anwylyd (1963) gol. Huw Ll. Williams