Neidio i'r cynnwys

Robin Eiddior

Oddi ar Wicipedia
Robin Eiddior
GanwydRobert Eiddior Roberts
1967
Pen-y-groes, Caernarfon
Alma materYsgol Dyffryn Nantlle
Galwedigaethactor a canwr
Cysylltir gydaY Weithred
PriodBuddug Povey

Actor a chanwr Cymraeg o Ben-y-groes yw Robin Eiddior (ganwyd 1967) neu Robert Eiddior Roberts yn ôl ei enw bedydd.[1] Portreadodd nifer o gymeriadau amrywiol mewn ffilmiau a dramâu ar S4C gan gynnwys y brif ran yn y ffilm Y Weithred, lle bu'n portreadu Owen (Now Gwynys) Williams. Pan yn fachgen ifanc, cafodd gyfle i actio yn y ffilmiau Aderyn Papur (1984) a Stormydd Awst (1988). Gwelwyd ef hefyd yn y cyfresi Traed Mewn Cyffion, Lleifior ac yn fwy diweddar fel "Rhys" yn Rownd a Rownd.

Robin Eiddior yn y grŵp Maraca

Wedi'i fagu ym Mhen-y-groes, Gwynedd, mynychodd Robin Ysgol Dyffryn Nantlle. Gadawodd yr ysgol yn 16 oed, a mynd yn syth i actio gyda Chwmni Red Rooster, yn y ffilm Aderyn Papur ym 1984.[2]

Yn y 1980au, Robin oedd prif leisydd y band Cymraeg Maraca, a ryddhaodd 1 sengl, I Uffern ac yn Ôl ac albwm o'r enw Yr Ha' Bach.[3] Ym 1987, canodd y gân 'Aros' yng nghystadleuaeth Cân i Gymru. Rhwng 1999 a 2002, ef oedd prif leisydd y grŵp Ap Ted a'r Apostolion.[4]

Yn 2018, bu stori yn y papurau newydd ei fod wedi'i ddal yn yfed a gyrru yng Nghaernarfon.[1] Roedd yn byw yn Y Groeslon ar y pryd, ac wedi gyrru ei gar i siop Tesco yng Nghaernarfon, pan nododd staff y siop bod arogl alcohol ar ei wynt.[1]

Mae'n briod â'r actores Buddug Povey.

Cynyrchiadau

[golygu | golygu cod]

(detholiad)

Theatr

[golygu | golygu cod]

Ffilm, Teledu a Radio

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 Crump, Eryl (2018-04-10). "Actor caught drink-driving after Tesco Caernarfon staff smelt alcohol during morning shop". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-10-17.
  2. Rhaglen Golff. Cwmni Theatr Gwynedd. 1993.
  3. "Maraca (2)". Discogs (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-10-17.
  4. "Robin Eiddior". Wici Y Cyfryngau Cymraeg. Cyrchwyd 2025-10-17.