Robert Rees (Eos Morlais)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Robert Rees
Eos Morlais.gif
Ganwyd 5 Ebrill 1841 Edit this on Wikidata
Dowlais Edit this on Wikidata
Bu farw 5 Mehefin 1892 Edit this on Wikidata (51 oed)
Abertawe Edit this on Wikidata
Cenedl Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth canwr Edit this on Wikidata
Math o lais Tenor Edit this on Wikidata

Roedd Robert Rees (5 Ebrill 18415 Mehefin 1892) yn denor a cherddor o Gymro. Roedd yn gystadlwr brwd a llwyddiannus o amgylch yr eisteddfodau lle fabwysiadodd y ffugenw Eos Morlais. [1]

Bywyd [golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd Rees ei eni ar 5 Ebrill yn 1841 yn Dowlais, Merthyr Tudful, yn fab i Hugh a Margaret Rees. Bu farw ei dad pan oedd yn wyth mlwydd oed a'i fam yn fuan wedyn. Pan oedd yn naw dechreuodd weithio yn y pyllau glo, ond oherwydd ei dalent canu ac adrodd, cafodd wersi cerddoriaeth gan ei ewythr.[2]

Bu Rees yn canu o amgylch Cymru a Lloegr ac fe berfformiodd ar daith yng Ngogledd America. Bu farw yn ei gartref yn Abertawe ar 5 Mehefin 1892.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]