Robert Peary
| Robert Peary | |
|---|---|
| Ganwyd | 6 Mai 1856 Cresson |
| Bu farw | 20 Chwefror 1920 Washington |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | fforiwr, swyddog milwrol, ymchwilydd, awdur ffuglen wyddonol, casglwr botanegol |
| Tad | Charles Nutter Peary |
| Mam | Mary Webster Wiley Peary |
| Priod | Josephine Diebitsch Peary |
| Plant | Marie Ahnighito Peary, Robert Peary Jr. |
| Gwobr/au | Medal y Noddwr, Grande Médaille d'Or des Explorations, Gwobra Cullum mewn Daearyddiaeth, Charles P. Daly Medal, Medal Hubbard, Uwch Swyddog y Lleng Anrhydedd, Medal Livingstone |
| llofnod | |
Fforiwr o'r Unol Daleithiau oedd Robert Edwin Peary, Sr. (6 Mai 1856 – 20 Chwefror 1920). Roedd wedi penderfynu yn ifanc iawn y byddai yn cyrraedd Pegwn y Gogledd, ac fe wnaeth baratoi yn ofalus gogyfer â'i ymgyrch i gyrraedd y Pegwn. Methiant serch hynny fu ei ymgais gyntaf er iddo lwyddo i gyrraedd lledred 87° 6'G y cyntaf i wneud.
Ar ôl dwy flynedd o baratoi sefydlodd ei bencadlys ger Cape Columbia yn Chwefror 1908 ac erbyn 28 Mawrth roeddent wedi cyrraedd y man y cyrhaeddodd Peary ar ei ymgais gyntaf. Erbyn 1 Ebrill roedd gan Peary 150 milltir i gyrraedd y Pegwn. Ar 6 Ebrill 1909 gwnaeth ef a'i dîm gyrraedd Pegwn y Gogledd.
Ar ôl cyrraedd nôl i Labrador anfonodd Peary neges i Efrog Newydd yn dweud am ei lwyddiant. Roedd neges fodd bynnag wedi cyrraedd o Norwy dri diwrnod cyn hynny yn dweud fod anturiaethwr arall o'r enw Frederick A. Cook wedi cyrraedd y Pegwn yn Ebrill 1908 ynghynt.
Bu dadlau brwd pwy gyrhaeddodd y Pegwn gyntaf. Erbyn heddiw, y gred gyffredinol yw mai twyll oedd haeriad Cook, ac na fu'n agos i'r Pegwn.