Robert John Thomas
Robert John Thomas | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 23 Ebrill 1873 ![]() Bootle ![]() |
Bu farw | 27 Medi 1951 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, diwydiannwr ![]() |
Swydd | Aelod o 34ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 33ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 32ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig ![]() |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol ![]() |
Tad | William Thomas ![]() |
Priod | Marie Rose Burrows ![]() |
Plant | Aubrey Ena Thomas, William Eustace Rhuddlad Thomas, Robert Freeman Thomas, Margaret Rosemary Thomas ![]() |
Roedd Syr Robert John Thomas (23 Ebrill 1873 - 27 Medi 1951) yn berchennog llongau ac yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol [1].
Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]
Ganwyd Syr Robert John Thomas yn Bootle, Swydd Gaerhirfryn, yn fab i William a Catherine Thomas.[2] Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Bootle, Athrofa Lerpwl a Choleg Tettenhall. Er iddo gael ei eni a'i magu yn Lloegr yr oedd yn Gymro Cymraeg iaith gyntaf.
Dechreuodd weithio fel brocer yswiriant i longau ym musnes y teulu yn Lerpwl ac yn ddiweddarach daeth yn un o warantwyr cwmni yswiriant Lloyds Llundain
Bywyd gwleidyddol[golygu | golygu cod]
Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Wrecsam o 1918 i 1922, penderfynodd ymgeisio am Ynys Môn yn etholiad 1922 ond methodd i gipio'r sedd oddi wrth yr AS Llafur y Brigadydd-Gadfridog Syr Owen Thomas, pan fu farw Syr Owen ym 1923 ymgeisiodd Syr Robert am yr ail dro gan lwyddo i gipio'r sedd i'r Rhyddfrydwyr. Parhaodd yn AS hyd 1929 pan ymddiswyddodd oherwydd bod ei busnes mewn trafferthion, gan fethdalu ym 1930 (nid oes hawl gan fethdalwr i fod yn Aelod Seneddol).
Ar ôl cael ei ryddhau o'i fethdaliad safodd yn llwyddiannus fel Cynghorydd ar Gyngor Sir Fôn.
Gwaith cyhoeddus[golygu | golygu cod]
Gwasanaethodd Syr Robert fel Uchel Siryf Môn ym 1912.
Roedd yn un o sylfaenwyr Cronfa Goffa Arwyr Cymru gan roi £20,000 o'i arian personol i'r achos a gwasanaethu fel ysgrifennydd mygedol yr achos. Fe sylfaenodd Cartref Gofal Lady Thomas yng Nghaergybi cartref i roi gofal i filwyr a morwyr anabl. Roedd yn aelod o gyngor Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, ac am bymtheng mlynedd fe fu yn drysorydd anrhydeddus Cymdeithas Eisteddfod Môn. Fe'i dyrchafwyd yn Farwnig ym 1918.[3].
Bywyd Personol[golygu | golygu cod]
Priododd Marie Rose Burrows ym 1905 a chawsant bump o blant. Bu farw ar Medi 27, 1951 yn ei gartref yng Nghaergybi
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ http://wbo.llgc.org.uk/cy/c4-THOM-JOH-1873.html
- ↑ "LLANGEFNI - Y Clorianydd". David Williams. 1917-01-10. Cyrchwyd 2021-09-18.
- ↑ Mosley, Charles, gol. Burke's Peerage, Baronetage & Knightage, 107th edition 2003
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: 'sedd newydd' |
Aelod Seneddol dros Wrecsam 1918 – 1922 |
Olynydd: Robert Richards |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: Syr Owen Thomas |
Aelod Seneddol dros Ynys Môn 1923 – 1929 |
Olynydd: Megan Lloyd George |