Robert III, brenin yr Alban
Robert III, brenin yr Alban | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
c. 1330s ![]() Scone Palace ![]() |
Bu farw |
4 Ebrill 1406 ![]() Achos: trawiad ar y galon ![]() Rothesay Castle ![]() |
Dinasyddiaeth |
Teyrnas yr Alban ![]() |
Galwedigaeth |
gwleidydd ![]() |
Swydd |
monarch of Scotland ![]() |
Tad |
Robert II ![]() |
Mam |
Elizabeth Mure ![]() |
Priod |
Anabella Drummond ![]() |
Plant |
David Stewart, Duke of Rothesay, Iago I, Margaret Stewart, James Stewart of Kilbride, Sir John Stewart, Lady Elizabeth Stewart, Egidia Stewart, Lady Mary Stewart, Robert Stewart ![]() |
Llinach |
House of Stuart ![]() |
Brenin yr Alban o 1390 hyd ei farwolaeth oedd Robert III, brenin yr Alban (14 Awst 1337 – 4 Ebrill 1406).
Cafodd ei eni fel John Stewart; roedd yn fab hynaf i Robert II ac Elizabeth Mure. Priododd Anabella Drummond yn 1367. Tua 1387 dioddefodd anafiad difrifol o ganlyniad i gic gan geffyl, a bu'n dioddef yr effeithiau am y gweddill o'i oes. Daeth yn frenin yr Alban ar farwolaeth ei dad yn 1390. Yn 1399, o ganlyniad i anabledd Robert, daeth ei fab hynaf, David Stewart, Dug Rothesay, yn llywodraethwr y deyrnas. Wedi ffrae rhwng Dug Rothesay a'i ewythr, Robert, dug Albany, bu farw Rothesay ym mis Mawrth 1402, dan amgylchiadau amheus.
Penderfynodd Robert III yrru ei fab arall, James, i Ffrainc er mwyn diogelwch, ond pan oedd ar y ffordd yno yn 1406, cipiwyd ei long gan y Saeson, a chadwyd James yn garcharor brenin Lloegr am 18 mlynedd. ywedir i Robert farw o dorcalon wedi cael y newyddion. Olynwyd ef gan James fel Iago I, brenin yr Alban, ond aeth blynyddoedd heibio cyn iddo gael ei ryddhau i'w goroni.
Rhagflaenydd: Robert II |
Brenin yr Alban 1390 - 1406 |
Olynydd: Iago I |