Robert Edwards
| Robert Edwards | |
|---|---|
| Ganwyd | Robert Geoffrey Edwards 27 Medi 1925 Batley |
| Bu farw | 10 Ebrill 2013 o clefyd Caergrawnt |
| Man preswyl | Manceinion, Leeds |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | meddyg, ffisiolegydd, biolegydd, ymchwilydd |
| Cyflogwr | |
| Priod | Ruth Fowler Edwards |
| Gwobr/au | Marchog Faglor, CBE, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Gwobr Ymchwil Feddygol Glinigol Lasker-DeBakey, Gwobr Nobel mewn Ffisioleg neu Feddygaeth, Gwobr y Brenin Faisal mewn Meddygaeth, Darlith Gwobrwyo Adolygiad Blynyddol, Gwobr Aur Eardley Holland, doethor anrhydeddus Prifysgol Valencia, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Brwsel |
Ffisiolegydd o Loegr ac arloeswr mewn meddygaeth atgenhedlu, a ffrwythloni in-vitro (IVF) oedd Robert Geoffrey Edwards (27 Medi 1925 – 10 Ebrill 2013)[1]. Astudiodd ar gyfer ei radd cyntaf ym Mhrifysgol Bangor, Cymru.
Ynghyd â'r obstetrydd a'r gynaecolegydd Patrick Steptoe[2] a'r nyrs a'r embryolegydd Jean Purdy, llwyddodd Edwards i arloesi'r weithred o genhedlu trwy IVF, a arweiniodd at enedigaeth Louise Brown ar 25 Gorffennaf 1978. Sefydlodd y tri yma y rhaglen IVF gyntaf ar gyfer cleifion anffrwythlon a hyfforddi gwyddonwyr eraill yn eu technegau. Edwards oedd prif olygydd (a phrif sefydlwr) y cylchgrawn Human Reproduction yn 1986.[3] Yn 2010, dyfarnwyd Gwobr Nobel mewn Ffisioleg neu Feddygaeth iddo "am ddatblygu ffrwythloni in vitro".[4][5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Williamson, Marcus (10 Ebrill 2013). Sir Robert Edwards: Co-pioneer of the IVF technique whose work led to the first test-tube baby. The Independent. Adalwyd ar 11 Ebrill 2013.
- ↑ Edwards, R. G. (1996). "Patrick Christopher Steptoe, C. B. E. 9 June 1913 – 22 Mawrth 1988". Biographical Memoirs of Fellows of the Royal Society 42: 435–52. doi:10.1098/rsbm.1996.0027. PMID 11619339.
- ↑ Fraser L. R. (2000). "In Appreciation of Professor R. G. Edwards, Founding Editor of the Human Reproduction Journals". MHR: Basic Science of Reproductive Medicine 6 (5): 3. doi:10.1093/molehr/6.5.3. PMID 10775640.
- ↑ "Robert G. Edwards – Facts - NobelPrize.org". Nobelprize.org. 4 October 2010. Cyrchwyd 4 October 2010.
- ↑ Multiple sources: