Robert De Niro

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Robert De Niro, 2008

Actor, cyfarwyddwr, a chynhyrchydd ffilm Americanaidd yw Robert Mario De Niro, Jr. (ganwyd 17 Awst, 1943). Ystryid gan nifer fel un o'r actorion gorau a mwyaf enigmatig erioed.[1][2][3]

Fe nodir am ei actio modd a phortreadau o gymeriadau blinderus a chythryblus – yn ogystal â giangsteriaid – ac am ei gydweithrediad hir gyda'r cyfarwyddwr Martin Scorsese. Ymhlith ei rannau enwocaf yw'r Vito Corleone ifanc yn The Godfather Part II; Travis Bickle yn Taxi Driver; Jake LaMotta yn Raging Bull; Jimmy Conway yn Goodfellas; Al Capone yn The Untouchables; Noodles yn Once Upon a Time in America; Michael Vronsky yn The Deer Hunter; ac yn ddiweddarach fel Jack Byrnes yn Meet the Parents. Enillodd Gwobr yr Academi am yr Actor Gorau mewn Rhan Arweiniol yn 1980 am ei ran yn Raging Bull a Gwobr yr Academi am yr Actor Gorau mewn Rhan Gefnogol yn 1974 am ei ran yn The Godfather Part II.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. (Saesneg) Robert De Niro. TCM.com. Adalwyd ar 12 Awst, 2008.
  2. (Saesneg) De Niro voted greatest star. BBC (14 Rhagfyr, 2001). Adalwyd ar 12 Awst, 2008.
  3. (Saesneg) 100 Greatest Movie Stars. Channel 4. Adalwyd ar 12 Awst, 2008.