Robert David Roberts
Robert David Roberts | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 3 Hydref 1820 ![]() Dinorwig ![]() |
Bu farw | 15 Mai 1893 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl ![]() |
Gweinidog o Ddinorwig oedd Robert David Roberts (3 Tachwedd 1820 – 15 Mai 1893).
Cefndir[golygu | golygu cod]
Ni chafodd fawr o addysg pan yn blentyn, nac ychwaith addysg athrofaol wedi dechrau ohono bregethu. Bedyddiwyd ef yn 12 oed a dechreuoddodd bregethu yn 1839. Aeth am gyfnod byr yn genhadwr dros gyfarfod misol Arfon i hen faes Christmas Evans yn Llyn, ond dychwelodd i Sardis lle yr ordeiniwyd ef a'r ‘Hen Gloddiwr’ i gyflawn waith y weinidogaeth yn 1844. Cydweinidogaethai'r ddau i'r eglwysi cylchynol am rai blynyddoedd. Symudodd R. D. Roberts i Bontllyfni a Llanaelhaearn yn nechrau 1848, ond cyn diwedd y flwyddyn honno yr oedd wedi ymsefydlu yn Llanfachraeth a Llanddeusant, Môn. Symudodd drachefn i Tabernacl, Merthyr, yn 1854, ac i Soar, Llwynhendy, yn 1862 ac fel ‘Roberts Llwynhendy’ yr aeth yn enwog. Bu yno am chwarter canrif cyn ymddeol yn 1887.[1]
Ffynonellau[golygu | golygu cod]
- J. Rhys Morgan (‘Lleurwg’), Cofiant y diweddar Barch. R. D. Roberts, Llwynhendy : gyda darlun a dwy o'i brif *bregethau;
- D. Hopkin, Cofiant y Parchedig Robert David Roberts;
- ‘Atgofion yr Hen Gloddiwr,’ yn Y Greal sef Cylchgrawn Misol at wasanaeth y Bedyddwyr, 1879;
- ‘Atgofion R. D. Roberts,’ yn Y Greal sef Cylchgrawn Misol at wasanaeth y Bedyddwyr, 1889-92;
- Seren Gomer, Gorffennaf 1893;
- Y Geninen, Hydref 1893;
- Cymru (O.M.E.), vii, 141;
- Baptist Handbook, 1894;
- Hanes y Bedyddwyr yn Nghymru (1893–1907), iv, 327.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "ROBERTS, ROBERT DAVID (1820 - 1893), Baptist minister | Dictionary of Welsh Biography". biography.wales. Cyrchwyd 2019-01-25.