Risorgimento
| Enghraifft o: | mudiad gwleidyddol, mudiad cymdeithasol, cyfnod o hanes, uno gwleidyddol |
|---|---|
| Dyddiad | 1815 |
| Dechreuwyd | 1815 |
| Daeth i ben | 1871 |
| Lleoliad | Yr Eidal |
| Gwladwriaeth | Teyrnas yr Eidal, Teyrnas Sardinia |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0g7fg |
| Thesawrws y BNCF | 18247 |
| Quora | Italian-unification |
Mudiad diwylliannol, gwleidyddol a chymdeithasol yn yr Eidal yn y 19g oedd y Risorgimento (yn llythrennol, "yr Adfywiad"). Uno'r Eidal fel gwladwriaeth oedd ei nod – nod a gyflawnodd yn y pen draw. Roedd y mudiad yn arddel delfrydau rhamantaidd, cenedlaetholgar a gwladgarol a oedd yn dyheu am ddychweliad i undod gwleidyddol a gollwyd ar ôl cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig y Gorllewin yn y 5g.
Erbyn dechrau'r 19g roedd Penrhyn yr Eidal yn glytwaith o daleithiau a oedd i raddau mwy neu lai o dan reolaeth dramor neu gan y Pab. Enillodd y mudiad dros uno momentwm ar ôl cwymp Napoleon a Chyngres Fienna (1814–15). Sefydlwyd Giovine Italia, mudiad gweriniaethol chwyldroadol, gan Giuseppe Mazzini yn 1831. Ym 1848 bu gwrthryfeloedd yn Sisili, Milan, Fenis a Thaleithiau'r Babaeth. Dilynwyd y rhain gan Ryfel Annibyniaeth Cyntaf yr Eidal (1848–9) ac Ail Ryfel Annibyniaeth yr Eidal (1859) lle chwaraeodd Giuseppe Garibaldi ran allweddol.
Cyrhaeddodd y gweithgaredd gwleidyddol a milwrol hwn ei anterth pan gyhoeddwyd Teyrnas yr Eidal ar 17 Mawrth 1861 â Vittorio Emanuele II yn frenin. Parhaodd y broses o uno pan ymgorfforwyd y Veneto yn 1866 a daeth i ben ar ôl cipio Rhufain a'r Taleithiau Pabaidd ar 20 Medi 1870.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Beales, Derek ac Eugenio Biagini, The Risorgimento and the Unification of Italy, 2il arg, (Taylor and Francis, 2014)
- Clark, Martin, The Italian Risorgimento, 2il arg. (Routledge, 2013)
- Hearder, Harry, Italy in the Age of the Risorgimento 1790–1870 (Taylor and Francis, 2014)
- Riall, Lucy, The Italian Risorgimento: State, Society, and National Unification (Routledge, 1994)