Gwennol y glennydd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Riparia riparia)
Gwennol y glennydd
Riparia riparia

,

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Hirundinidae
Genws: Riparia[*]
Rhywogaeth: Riparia riparia
Enw deuenwol
Riparia riparia



Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Gwennol y glennydd (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: gwenoliaid y glennydd) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Riparia riparia; yr enw Saesneg arno yw Sand martin. Mae'n perthyn i deulu'r Gwenoliaid (Lladin: Hirundinidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae hefyd i'w ganfod yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn R. riparia, sef enw'r rhywogaeth.[2]

Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yng Ngogledd America, Asia, Ewrop ac Affrica. Mae'n aderyn mudol, gyda'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n treulio'r gaeaf yn nwyrain a de Affrica, de Asia a De America. Mae Gwennol y Glennydd yn aderyn cyffredin yng Nghymru, ac mae'n un o'r adar mudol cyntaf i ddychwelyd yn y gwanwyn.

Mae'r aderyn tua 12 cm o hyd ac mae ganddo blu brown ar y cefn a gwyn ar ei fol, gyda brown ar draws y fron. Fel rheol mae nifer ohonyn nhw'n nythu gyda'i gilydd, mewn tyllau mewn clogwyni o dywod neu raean.

Teulu[golygu | golygu cod]

Mae'r gwennol y glennydd yn perthyn i deulu'r Gwenoliaid (Lladin: Hirundinidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Q28812972 Pygochelidon melanoleuca
Q55112153 Pygochelidon cyanoleuca
Gwennol Hirundo rustica
Gwennol Angola Hirundo angolensis
Gwennol adeinfraith Hirundo leucosoma
Gwennol afon Affrica Pseudochelidon eurystomina
Gwennol gynffonwen Hirundo megaensis
Gwennol lostfain Hirundo smithii
Gwennol ludlwyd Orochelidon murina
Gwennol y Dwyrain Hirundo tahitica
Gwennol yddfbinc Orochelidon flavipes
Gwennol yddfwen y De Hirundo albigularis
Gwennol yr Andes Orochelidon andecola
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cofnodion unigol[golygu | golygu cod]

  • Trefedigaeth o 44 twll-nyth yn y clai clog ar ben Bwlch Rhwyddfor yn chwarel Bwlch Llyn Bach[3] Welish i erioed rhai wedyn (DB). Datblygodd 1976 yn haf eithriadol o boeth a sych.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Safonwyd yr enw Gwennol y glennydd gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.