Rigoberta Menchú Tum

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Rigoberta Menchú tum)
Rigoberta Menchú Tum
GanwydRigoberta Menchú Tum Edit this on Wikidata
9 Ionawr 1959 Edit this on Wikidata
Laj Chimel Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gwatemala Gwatemala
Galwedigaethgwleidydd, ysgrifennwr, hunangofiannydd, amddiffynnwr hawliau dynol Edit this on Wikidata
SwyddUNESCO Goodwill Ambassador Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolWinaq Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Heddwch Nobel, Gwobr Tywysoges Asturias am Gydweithredu Rhyngwladol, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Zaragoza, Doethuriaeth Anrhydeddus Prifysgol Las Palmas, Gran Canaria, honorary doctor of the University of Tromsø, honorary doctorate of the Autonomous University of Madrid, honorary doctorate of Seville University, UNESCO Prize for Peace Education Edit this on Wikidata

Awdures o Gwatemala yw Rigoberta Menchú Tum (ganwyd 9 Ionawr 1959) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel gwleidydd, hunangofiannydd ac ymgyrchydd K'iche' dros hawliau dynol. Mae Menchú wedi rhoi ei bywyd i fynnu cyhoeddusrwydd i hawliau ffeministiaid cynhenid Gwatemala yn ystod ac ar ôl Rhyfel Cartref Gwatemala (1960–1996), ac i hyrwyddo hawliau brodorol dinasyddion y wlad. Bu'n aelod o Encuentro por Guatemala a Frente Amplio.[1] Yn 1995, priododd Ángel Canil, hefyd o Gwatemala, ac mae ganddynt fab o'r enw Mash Nahual J’a ("Ysbryd y Dŵr").

Derbyniodd Wobr Heddwch Nobel yn 1992 a Gwobr Tywysog Asturias ym 1998, yn ogystal â gwobrau pwysig eraill. Hi yw testun y bywgraffiad I, Rigoberta Menchú (1983) ac awdur y gwaith hunangofiannol, Crossing Borders (1998), ymhlith gweithiau eraill. Mae Menchú yn Llysgennad Ewyllys Da UNESCO. Mae hi hefyd wedi dod yn ffigwr amlwg mewn pleidiau gwleidyddol cynhenid ac wedi bod yn ymgeisydd ar gyfer Arlywyddiaeth Guatemala yn 2007 a eilwaith yn 2011.

Magwraeth a theulu[golygu | golygu cod]

Fe'i ganed yn Laj Chimel, Quiché ar 9 Ionawr 1959.[2][3][4][5]

Ganwyd Rigoberta Menchú i deulu cynhenid tlawd o dras Q'iche 'Maya a hynny yn Laj Chimel, ardal wledig yn nhalaith El Quiché yng ngogledd Gwatemala. Derbyniodd Menchú addysg ysgol gynradd a chanolig fel myfyriwr mewn sawl ysgol breswyl Gatholig.

Yn 1979-80 honnir fod ei brawd, Patrocinio, a'i mam, Juana, eu herwgipio, eu harteithio a'u llofruddio gan fyddin Gwatemala. Bu farw ei thad, Vicente, pan losgwyd Llysgenhadaeth Sbaen yn 1980, a ddigwyddodd ar ôl i milwyr gerila trefol gymryd gwystlon ac ymosodwyd arnynt gan luoedd diogelwch y llywodraeth. Ym mis Ionawr 2015, dyfarnodd llys yn Guatemala ymchwilydd yr heddlu yn aeog am ei rôl yn yr ymosodiad ar y llysgenhadaeth, lle bu farw tad Menchú.[6]

Gwobr Nobel Rigoberta Menchú Tum, a gedwir yn saff yn Museo del Templo Mayor yn Ninas Mecsico.

Yn 1981 ffodd yn alltud i Mecsico lle cafodd loches gan esgob Catholig yn Chiapas. Y flwyddyn wedyn lleisiodd fywgraffiad, Me llamo Rigoberta Menchú y así me nació la conciencia (Fy enw yw Rigoberta Menchú, a dyma sut y ganwyd fy nghydwybod), a ysgrifennwyd gan yr anthropolegydd o Fenwswela, Elizabeth Burgos; daeth y llyfr hwn a hi i enwogrwydd byd-eang.

Yn 1984 saethwyd ei brawd Victor, gan fyddin Gwatemala, wedi iddynt ei ddal; honnir ei fod yn ceisio dianc o'u gafael.

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • I, Rigoberta Menchú (1983)[7]
  • Crossing Borders (1998)[8]
  • Daughter of the Maya (1999)[9]
  • The Girl from Chimel (2005)[10]
  • The Honey Jar (2006)[11]
  • K'aslemalil-Vivir. El caminar de Rigoberta Menchú Tum en el Tiempo (2012)[12][13]

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Glwb Rhufain, Menter Merched Nobel am rai blynyddoedd. [14][15]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Heddwch Nobel (1992), Gwobr Tywysoges Asturias am Gydweithredu Rhyngwladol (1998, 1987), Doethor Anrhydeddus Prifysgol Zaragoza (1995), Doethuriaeth Anrhydeddus Prifysgol Las Palmas, Gran Canaria (2001), honorary doctor of the University of Tromsø, honorary doctorate of the Autonomous University of Madrid, honorary doctorate of Seville University, UNESCO Prize for Peace Education (1990)[16][17][18][19] .


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Nobel Peace Laureate Rigoberta Menchu to give UNESCO Human Rights Lecture". US Fed News Service. 2012.
  2. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11915557m. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Rhyw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11915557m. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Dyddiad geni: "Rigoberta Menchú". "Rigoberta Menchú". "Rigoberta Menchu 0976". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  5. Grwp ethnig: https://www.bibliotecanacional.gob.cl/noticias/rigoberta-menchu-0.
  6. Grandin, Greg. "Rigoberta Menchú Vindicated". The Nation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-09. Cyrchwyd 27 Tachwedd 2017.
  7. Menchú, Rigoberta (2013). "I, Rigoberta Menchú an Indian Woman in Guatemala". The Literature of Propaganda. https://proxy.library.georgetown.edu/login?url=https://search.credoreference.com/content/entry/galelp/i_rigoberta_menchu_an_indian_woman_in_guatemala/0.
  8. Menchú, Rigoberta (1998). Crossing borders. Wright, Ann, 1943-. London: Verso. ISBN 1859848931. OCLC 39458909.
  9. Menchú, Rigoberta (1999). Enkelin der Maya : Autobiografie. Lamuv. ISBN 3889775551. OCLC 175122620.
  10. Menchú, Rigoberta (2005). The girl from Chimel. Groundwood Books. ISBN 0888996667. OCLC 57697284.
  11. Menchú, Rigoberta (2006). The honey jar. Liano, Dante., Unger, David., Domi. Toronto: Groundwood Books. ISBN 9780888996701. OCLC 61427375.
  12. Menchú, Rigoberta. K'aslemalil, vivir : el caminar de Rigoberta Menchú Tum en el tiempo. ISBN 9786070271700. OCLC 955326314.
  13. "Guatemalteca Rigoberta Menchú celebra 56 años con libro autobiográfico". Notimex. 2015.
  14. Aelodaeth: https://nobelwomensinitiative.org/laureate/. dyddiad cyrchiad: 9 Mawrth 2019.
  15. Anrhydeddau: http://www.nobelprize.org/nobel_prizes/peace/laureates/1992/tum-facts.html. https://www.nobelprize.org/nobel_prizes/about/amounts/. https://www.ulpgc.es/rectorado/doctores-honoris-causa-ulpgc. https://web.archive.org/web/20130811215013/http://www.unesco.org/new/en/social-and-human-sciences/events/prizes-and-celebrations/unesco-prizes/prize-for-peace-education/laureates/.
  16. http://www.nobelprize.org/nobel_prizes/peace/laureates/1992/tum-facts.html.
  17. https://www.nobelprize.org/nobel_prizes/about/amounts/.
  18. https://www.ulpgc.es/rectorado/doctores-honoris-causa-ulpgc.
  19. https://web.archive.org/web/20130811215013/http://www.unesco.org/new/en/social-and-human-sciences/events/prizes-and-celebrations/unesco-prizes/prize-for-peace-education/laureates/.