Riesa
| Math | tref ardal mawr, bwrdeistref trefol yr Almaen |
|---|---|
| Poblogaeth | 29,127 |
| Pennaeth llywodraeth | Marco Müller, Gerti Töpfer |
| Gefeilldref/i | |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 58.91 km² |
| Uwch y môr | 109 metr |
| Gerllaw | Afon Elbe |
| Yn ffinio gyda | Stauchitz, Hirschstein |
| Cyfesurynnau | 51.3081°N 13.2939°E |
| Cod post | 01587, 01589, 01591 |
| Pennaeth y Llywodraeth | Marco Müller, Gerti Töpfer |
![]() | |
Mae Riesa (Sorbeg: Ryzawa) yn dref yn ardal Meißen yn Sacsoni, yr Almaen. Fe'i lleolir ar Afon Elbe, tua 25 milltir i'r gogledd-orllewin o Dresden.
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae'r enw Riesa yn deillio o'r gair Slafaidd Riezowe. Mae'r enw hwn, wedi'i gyfieithu fel "Rezoa", yn ymddangos gyntaf ym mis Hydref 1119 mewn dogfen gan y Pab Callixtus II.
Gosodwyd llinell bŵer 110 kV gyntaf Ewrop rhwng Riesa a Lauchhammer ym 1912.[1][2] Rhwng 1952 a 1994, Riesa oedd prif dref y dosbarth (Almaeneg: Kreise; Saesneg: district).
Yn ystod yr 1980au, Riesa oedd pencadlys Grŵp o Luoedd Sofietaidd yn y 9fed Adran Tanciau'r Almaen.
Ar yr 11eg o Ionawr 2025 cynhaliodd y blaid asgell dde eithafol AfD eu cynhadledd blaid ffederal yn Riesa. Protestiodd tua 12,000 o bobl yn erbyn y gynhadledd a rhwystro mynedfeydd i'r dref.
Hanes poblogaeth
[golygu | golygu cod]Tyfodd y dref o ddechrau'r 20fed ganrif oherwydd diwydiannu. Gostyngodd y boblogaeth ar ôl Ailuno'r Almaen ym 1989. Cafodd y gweithfeydd dur lleol ei leihau a gostyngodd y boblogaeth o 52,000 i 31,000.
Atyniadau
[golygu | golygu cod]Mae gan Riesa cerflun haearn bwrw wedi ei siapio mewn i foncyff derw, o'r enw Elbquelle, sy'n golygu ffynhonnell yr Elbe, gan Jörg Immendorff. Cafodd ei godi ym 1999 ac mae'n pwyso 234 tunnell ac yn 25m o daldra. Dyma'r cerflun haearn fwyaf yn Ewrop. [3]Mae pobl leol yn galw'r cerflun lawer o enwau eraill, yn fwyaf nodedig "Rostige Eiche", sy'n golygu'r "Dderwen Rhydlyd".

Yn Riesa mae dwy eglwys nodedig. Adeiladwyd y minstr St. Marien ym 1261 fel ychwanegiad at Abaty Benedictaid.[4] O dan yr Eglwys yn y crypt gallwch weld pergyrff sy'n dyddio i'r 17eg ganrif.[5] Cwblhawyd Eglwys y Trinitatis ym 1897.[6]
Mae mynwent ar Poppitzer Landstraße ar gyfer menywod a dynion Sofietaidd a gafodd eu halltudio i'r Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd a ddaeth yn ddioddefwyr llafur gorfodol yn y gweithfeydd dur. Ar y safle claddu mae yna gerflun Lenin gan y cerflunydd Sofietaidd Nikolai Tomsky, a gafodd ei symud o Sgwâr Neuadd y Dref heddiw ym 1990.[7]
Diwylliant
[golygu | golygu cod]Mae Riesa yn adnabyddus yn lleol am ei basta, sy'n cael ei gynhyrchu yn Teigwaren Riesa GmbH.[8] Symbol arall o Riesa yw'r Riesaer Zündhölzer, y matsis sy'n cael ei gynhyrchu yno'n draddodiadol.[9]
Mae cynhyrchu dur yn Riesa hefyd yn adnabyddus gyda'r cwmni dur Eidaleg, grwp Feralpi, yn berchen a'r gwaith dur Elbe-Stahlwerke ers 1992.[10]
Chwaraeon
[golygu | golygu cod]Mae Riesa yn gartref i glwb pêl-droed, BSG Stahl Riesa. Maen nhw'n cystadlu yn y Landesliga Sachsen, chweched haen pêl-droed yr Almaen.
Mae Riesa yn adnabyddus yn lleol am y SACHSENarena, neuadd fawr a gynhaliodd Bencampwriaeth Reslo Sumo Ewrop ym mis Hydref 2003 a Phencampwriaeth Reslo Sumo'r Byd ym mis Hydref 2004. Ers 2015, mae hefyd wedi bod yn gartref i'r International Darts Open, un o'r nifer o ddigwyddiadau ar Daith Ewropeaidd y Professional Darts Corporation. Yn 2023 fe wnaeth Gerwyn Price ennill y daith flynyddol yn Riesa.[11]
Gefeilldrefi
[golygu | golygu cod]Mae Riesa wedi'i gefeillio â:[12]
Głogów, Gwlad Pwyl
Lonato del Garda, Yr Eidal
Mannheim, Yr Almaen
Rotherham, Lloegr
Sandy, Utah, Unol Daleithiau America
Villerupt, Ffrainc
Wuzhong (Suzhou), Tsieina
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Geschichte VOLLer Spannung". Stadtwerke Riesa (yn Almaeneg). Cyrchwyd 2025-07-13.
- ↑ Schmidt, Hans-Jürgen (2011). Bergbau- und Industriegeschichte – Die erste 110-kV-Anlage Europas. Traditionsverein Braunkohle Lauchhammer e. V. Lauchhammer.
- ↑ "Stadt Riesa: Elbquelle Immendorff". riesa.de. Cyrchwyd 2025-07-13.
- ↑ Riesa, Ev-Luth Kirchgemeinde. "Ev.-Luth. Kirchgemeinde Riesa - Klosterkirche" (yn Almaeneg). Cyrchwyd 2025-07-13.
- ↑ (PDF) Crypt Burials from the Cloister Church of Riesa (Germany) -Changes of Funerary Customs, Body Treatment, and Attitudes to Death
- ↑ Riesa, Ev-Luth Kirchgemeinde. "Ev.-Luth. Kirchgemeinde Riesa - Trinitatiskirche" (yn Almaeneg). Cyrchwyd 2025-07-13.
- ↑ "Lenin bleibt". LENIN IS STILL AROUND (yn Almaeneg). 2015-11-15. Cyrchwyd 2025-07-13.
- ↑ "Teigwaren Riesa". Teigwaren Riesa (yn Almaeneg). Cyrchwyd 2025-07-13.
- ↑ "Zündholzriesa | Werbemittel". Zündholzriesa (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-07-13.
- ↑ "Ein neues Walzwerk für FERALPI STAHL". Feralpi Group (yn Almaeneg). Cyrchwyd 2025-07-13.
- ↑ Mansfield, Mark (2023-04-03). "Gerwyn Price retains International Darts Open by beating Michael van Gerwen". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-07-13.
- ↑ "Partnerstädte". riesa.de (yn Almaeneg). Riesa. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-06-02. Cyrchwyd 2021-03-15.
