Riedones

Oddi ar Wicipedia
Rhai o lwythi'r Galiaid.      Osismii      Veneti      Coriosolites      Riedones      Namnetes
Map ehangach

Un o lwythau Celtaidd Gâl yn y cyfnod Rhufeinig a chyn hynny oedd y Riedones, Redones neu Rhedones (Groeg:Ῥήδονες, Ῥηΐδονες). Trigent yn yr ardal sy'n awr yn nwyrain Llydaw.

Yn ôl Claudius Ptolemaeus, roeddent yn byw i'r gorllewon o'r Senones ac ar hyd afon Liger (afon Loire heddiw). Eu prifddinas oedd Condate (Roazhon heddiw). Nid oedd rhai awduron clasurol eraill yn cytuno eu bod yn byw ar hyd afon Loire; yn ôl Plinius yr Hynaf roeddent yn un o bobloedd Gallia Lugdunensis.

Wedi iddo ennill brwydr ar afon Sambre yn 57 CC, gyrrodd Iŵl Cesar Publius Licinius Crassus gydag un lleng i diriogaeth y Veneti, Riedones ac eraill, ac ymostyngodd y llwythi iddo. Yn ôl Cesar, roedd eu tiriogaeth yn cyrraedd hyd yr arfordir. Yn 52 CC, gyrrodd y Riedones filwyr i geisio codi gwarchae Cesar ar Alesia.