Ricky Valance

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ricky Valance
Enw
(ar enedigaeth)
David Spencer
Ganwyd (1936-04-10)10 Ebrill 1936
Ynysddu, Sir Fynwy
Bu farw 12 Mehefin 2020(2020-06-12) (84 oed)[1]
Math o Gerddoriaeth Pop
Gwaith Canwr
Cyfnod perfformio 1950au hwyr–2020
Label Columbia, Decca, Crystal
Gwefan www.rickyvalance.com

Canwr Cymreig oedd Ricky Valance (10 Ebrill 193612 Mehefin 2020).[2][3] Roedd yn fwyaf enwog am ei sengl aeth i rif un yn y siartiau gyda'r gân "Tell Laura I Love Her", a werthodd dros filiwn o gopïau yn 1960.[4]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd David Spencer yn Ynys-ddu ger Wattsville, Sir Fynwy, yr hynaf o saith plentyn.[4] Ymunodd a'r RAF pan oedd yn 17.[4]

Dechreuodd ei yrfa gerddorol pan adawodd y lluoedd arfog.[4] Dechreuodd berfformio mewn clybiau lleol am gwpl o flynyddoedd cyn iddo gael ei ddarganfod gan gynrychiolydd A&R o EMI, a fe'i rhoddwyd gyda'r cynhyrchydd recordiau Norrie Paramor a fe'i harwyddwyd i label Columba ar EMI.[5]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Erbyn 1960 roedd yn defnyddio'r enw Ricky Valance. Roedd wedi penderfynu ar yr enw cyntaf, a gwelodd hyfforddwr ceffylau ar y teledu o'r enw Colonel Valance.[6]

Yn y sesiwn recordio cyntaf, cafodd Valance gyfle i recordio'r gân boblogaidd Americanaidd, Tell Laura I Love Her".[5] Aeth i frig y siartiau yn Medi 1960, drwy gael ei chwarae yn gyson ar Radio Luxembourg.[5][7]

Fe roedd y BBC yn gwrthod chwarae caneuon trychineb arddegau fel Tell Laura I Love Her. Ni chafodd llawer o recordiau Americanaidd tebyg ei ryddhau o gwbl yn Y Deyrnas Unedig.[8]

Rhif un yn y siartiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Ni chafodd fersiwn wreiddiol Ray Peterson o "Tell Laura I Love Her", a chyd-ysgrifennwyd gyda Jeff Barry, ei ryddhau yn Y Deyrnas Unedig, oherwydd bod Recordiau Decca yn teimlo ei fod yn ddi-chwaeth.[8] Yn dilyn hyn trefnodd EMI i Valance recordio'r gân.[4] Ac felly y daeth Valance i fod y Cymro gwrywaidd cyntaf i gyrraedd y brig - gan mai Shirley Bassey oedd y Gymraes gyntaf.

Ar ôl mynd i frig Siart Senglau y DU, fe ymddangosodd Valance ar gystadleuaeth A Song For Europe 1961, gan obeithio cynrychioli gwledydd Prydain yng Nghystadleuaeth Eurovision. Daeth ei gân, "Why Can't We?", yn drydydd allan o naw cynnig; a'r enillydd oedd "Are You Sure?" berfformiwyd gan the Allisons.

Fe ryddhawyd senglau pellach yn cynnwys "Movin' Away", "Jimmy's Girl" a "Six Boys".[4] Gwerthwyd dros 100,000 copi o "Jimmy´s Girl", ac fe aeth "Moving Away" i rif un yn Awstralia a Scandinavia, gan werthu dros 150,000 o gopïau. Am nad oedd yn gallu atgynhyrchu ei lwyddiant cychwynnol yn siart y DU, mae'n aros felly yn seren wîb.

Gyrfa hwyrach[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 2001, recordiodd albwm One of the Best yn Nashville, Tennessee.

Daeth nôl i wledydd Prydain yn 2015 ac roedd yn gobeithio ail-gysylltu gyda'i wreiddiau Cymreig gan ystyried trefnu taith o gwmpas Cymru.[9] Mewn cyngerdd Dydd Gŵyl Dewi yng Nghanolfan y Mileniwm yn 2015, derbyniodd wobr am fod y Cymro gwrywaidd cyntaf i cael Rhif Un yn y siartiau a canodd yno ar y noson.

Yn 2017 ryddhaodd ei gân olaf cyn ymddeol. Cyhoeddwyd "Welcome Home" i godi arian at Gymdeithas yr RAF ac Amgueddfa yr RAF.[6]

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Aeth Valance i fyw yn Cabo Roig ar gyrion Torrevieja, y Costa Blanca yn Sbaen, lle roedd yn dal i berfformio yn rheolaidd. Roedd ganddo dy hefyd ym Mlaenau Gwent yng Nghymru. Cafodd drawiad ar y galon yn y 2015.

Erbyn 2017 roedd yn byw gyda'i wraig yn Skegness.[6]

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Senglau DU[golygu | golygu cod y dudalen]

Columbia[golygu | golygu cod y dudalen]

  • DB4493 - "Tell Laura I Love Her" / "Once Upon a Time" (1960)
  • DB4543 - "Movin' Away" / "Lipstick on Your Lips" (1960)
  • DB4586 - "Jimmy's Girl" / "Only the Young" (1961)
  • DB4592 - "Why Can't We" / "Fisherboy" (1961)
  • DB4680 - "Bobby" / "I Want to Fall in Love" (1961)
  • DB4725 - "I Never Had a Chance" / "It's Not True" (1961)
  • DB4787 - "Try to Forget Her" / "At Times Like These" (1962)
  • DB4864 - "Don't Play No.9" / "Till the Final Curtain Falls" (1962)

Decca[golygu | golygu cod y dudalen]

  • F12129 - "Six Boys" / "A Face in the Crowd" (1965)

Crystal[golygu | golygu cod y dudalen]

  • CR7004 - "Abigail" / "My Summer Love" (1969) (as Jason Merryweather)

Tank[golygu | golygu cod y dudalen]

  • BSS313 - "Hello Mary Lou" / "Walking in the Sunshine" (1978)

Umbrella[golygu | golygu cod y dudalen]

  • UMO111 - "Daddy's Little Girl" / "Ticket to Dream" (1988)

One Media iP[golygu | golygu cod y dudalen]

  • "Welcome Home" / "Tell Laura I Love Her" (55th Anniversary Edition) (2016)[10]

Albymau DU[golygu | golygu cod y dudalen]

His Master's Voice[golygu | golygu cod y dudalen]

  • CLP1497 - The Two Sides of John Leyton (1961)
  • CLP1664 - Always Yours (1963)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Seventies star Ricky Valance passes away in Spain. Costa Blance & Costa Calida Leader (12 Mehefin 2020).
  2. The first Welshman to have a number one hit has recorded his last song , WalesOnline, 11 Mawrth 2017. Cyrchwyd ar 12 Mehefin 2020.
  3.  Tell Laura I Love Her (Ricky Valance). Jon Kutner (26 Mai 2019). Adalwyd ar 12 Mehefin 2020.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 4.5 "BBC Wales - Music - Ricky Valance". Bbc.co.uk. 2009-07-08. Cyrchwyd 2014-01-28.
  5. 5.0 5.1 5.2 "Ricky Valance Biography - Music Artist Band Biographies - Artists Bands Bio - FREE MP3 Downloads". Music.us. Cyrchwyd 2014-01-28.
  6. 6.0 6.1 6.2 Gwall Templed: Mae paramedr teitl yn orfodol.
  7. Roberts, David (2006). British Hit Singles & Albums (arg. 19th). London: Guinness World Records Limited. t. 579. ISBN 1-904994-10-5.
  8. 8.0 8.1 Rice, Jo (1982). The Guinness Book of 500 Number One Hits (arg. 1st). Enfield, Middlesex: Guinness Superlatives Ltd. t. 53. ISBN 0-85112-250-7.
  9. Sixties chart topper who made rock and roll history wants to reconnect with his Welsh roots; WalesOnline; Adalwyd 2015-12-15
  10. "Welcome Home – Single by Ricky Valance on Apple Music". iTunes Store. 1 Mawrth 2017. Cyrchwyd 17 Mawrth 2017.