Richard Trefor (1558 - 1638)

Oddi ar Wicipedia
Richard Trefor
Beddrod Richard Trevor (1558 - 1638) yn Eglwys yr Holl Seintiau, Gresffordd ger Wrecsam.
Ganwyd1558 Edit this on Wikidata
Yr Orsedd Edit this on Wikidata
Bu farw1638 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, vice-admiral, tirfeddiannwr, Member of the 1597-98 Parliament Edit this on Wikidata
TadSion Trefor Edit this on Wikidata
MamMary Bruges Edit this on Wikidata
PriodCatherin Puleston Edit this on Wikidata
PlantDorothy Trevor Edit this on Wikidata

Tirfeddiannwr pwerus, gwleidydd a milwr oedd Syr Richard Trefor (15581638), Trefalun (neu 'Drefalyn'), Maelor, (Sir Ddinbych yn y cyfnod hwnnw). Ef oedd mab hynaf Sion Trefor (m. 1589); ef hefyd oedd etifedd Ystâd Trefalun pan fu farw ei dad yn 1589. Fel gweddill ei frodyr, ei noddwr oedd Howard o Effingham (sef Charles Howard, Iarll 1af Nottingham), yr arglwydd-lyngesydd, a'i gwnaeth ef yn is-lyngesydd yng Ngogledd Cymru yn 1596.[1] Heriai uwchafiaeth teulu Salusbury Lleweni a theulu Almer (Dorset).

Priododd Catrin, merch Roesier Puleston o Emral a chawsant bedair o ferched. Oherwydd hynny, trosglwyddwyd Ystad Trefalun i'w nai, y Piwritan Syr John Trevor (1596–1673).

Bu'n gwasanaethu yn Iwerddon rhwng 1595-8, lle gwnaed ef yn farchog ac yn arglwydd-ddirprwy ar 8 Mai 1597; bu'n Weinyddwr militaraidd yr ynys ac yn gapten y milwyr hynny a godid yn Sir Ddinbych. Yn 1602 gwnaed ef yn aelod o Gyngor Cymru a'r Gororau. Rhwng 1596 a 1626 roedd yn Is-Lyngesydd Gogledd Cymru.

Cyflwynwyd ef i'r Senedd yn 1597 gan Howard o Effingham - dros un o'i fwrdeisdrefi, yn dâl am wasanaeth a roes Trefor fel dirprwy-raglaw yn Sir Ddinbych (1596) yn codi milwyr ar gyfer ymgyrch Howard ac Essex ar Cadiz. Capteiniaid eraill Essex oedd yr uchelwyr John Salusbury, Rhug a John Lloyd, Bodidris. Bu i fab John Lloyd ac un o ferched Trefor briodi ei gilydd. Yn 1598 arweiniodd lu Gogledd Cymru i Gaer yn barod i'w hanfon i Iwerddon ond cyrhaeddodd Gaer heb y nifer cyflawn a ofynwyd amdano o sir Ddinbych; y rheswm dros y diffyg yn y niferoedd oedd iddo wrthod derbyn y milwyr newydd a gasglwyd ynghyd gan bleidwyr teulu Lleweni. Ceisiodd aelodau teulu Llewenni atal Trefor rhag codi milwyr yn Sir Ddinbych i ymladd dros Essex yn Iwerddon. Bu ysgarmes waedlyd yn Rhuthyn yn 1600 rhwng y ddwy ochor, y ddau deulu. Yn 1601 casglodd Trevor gynorthwywyr lleol gyda'r bwriad o geisio am y tro olaf ennill sedd seneddol y sir, ond methiant fu'r ymdrech ond plaid Llewenni a orfu.

Cymerwyd y swydd o ddirprwy-raglaw oddi wrtho a throdd at ymgyfreithio yn Llys Ystafell y Seren mewn achosion yn ymwneud â'r gwaith codi milwyr yn 1596 a 1600 ac etholiad 1601. Dychwelodd i Iwerddon lle bu rhwng 1603-6, yn bennaeth 50 o wŷr traed ac wedi hynny, 25 o wŷr meirch yng ngwarchodlu Newry.[2]

Treforiaid Trefalun[golygu | golygu cod]

Ceir sawl aelod dylanwadol iawn o'r teulu gan gynnwys (yn nhrefn dyddiad marw):

  • Richard Trefor (m. 1614), aelod o Doctors’ Commons (18 Chwefror 1598), a barnwr yn llys y llynges, i John Trevor ( Coote, Civilians, 65; McClure, Letters of J. Chamberlain, i, 544-5).[3]
  • Syr John Trefor I (m. 1630), gweinydd y llynges a gwleidydd.
  • Syr Sackville Trefor (c.1565-1633), morwr.
  • John Trevor (g. c. 1652).
  • Syr Thomas Trefor (1572 - 1656), barnwr.
  • Syr John Trevor (1596–1673), seneddwr.
  • Syr John Trefor III (1626 - 1672), ysgrifennydd y wladwriaeth.
  • Syr Thomas Trefor (1612 - 1676), cyfrifydd y Duchy of Lancaster.
  • Richard Trefor (m. 1676), hynafiaethydd .
  • Thomas Trefor (1658 - 1750), y barwn Trefor (o Drefalun) 1af, a barnwr.
  • Richard Trefor (1707 - 1771), esgob Tyddewi a Durham.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Y Bywgraffiadur Arlein; Gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  2. Yn ôl y Bywgraffiadur Cymraeg Arlein, bu'n "bennaeth 50 o wŷr traed, ac, wedi hynny, 25 o wŷr meirch yng ngwarchodlu Newry". Ond, ar ei feddrod yn Eglwys yr Holl Saint, Greffordd, dywedir iddo fod yn "bennaeth ar 100 o wŷr traed ac wedi hynny, 50 o wŷr meirch".
  3. (Coote, Civilians, 65; McClure, Letters of J. Chamberlain, i, 544-5).