Richard Parks

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Richard Parks yn 2011

Cyn-chwaraewr undeb rygbi rhyngwladol Cymru a drodd yn athletwr dygnwch eithafol a chyflwynydd teledu yw Richard David Parks (ganwyd 14 Awst 1977). Cynrychiolodd Glwb Rygbi Casnewydd, Clwb Rygbi Pontypridd, Celtic Warriors, Leeds Tykes, Perpignan a Dreigiau Gwent Casnewydd dros yrfa broffesiynol a barodd 13 blynedd. Bu raid iddo ymddeol o rygbi ym Mai 2009 oherwydd anaf i'w ysgwydd.

Blynyddoedd Cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Richard ar 14 Awst 1977 ym Mhontypridd i fam o Jamaica, Lee, a thad o Gymru, Derek Parks. Magwyd ef yng Nghasnewydd a mynychodd Ysgol Rougemont, Casnewydd ac Ysgol Trefynwy .

Dechreuodd Parks chwarae rygbi pan oedd yn ddisgybl 11 oed yn Ysgol Rougemont ac yn safle'r blaenasgellwr y bu'n chwarae trwy gydol ei flynyddoedd ysgol.

Cafodd ei ddewis i gynrychioli Ysgolion Cymru ar lefel dan 18 oed a cafodd gyfnod byr gydag ieuenctid Casnewydd cyn treulio blwyddyn yn Ne Affrica ym 1996 yn Michaelhouse, ysgol breswyl i fechgyn hŷn yn Durban. Cystadlodd am le yn y tîm cyntaf yn Michaelhouse tra'n astudio cemeg Safon Uwch er mwyn cael mynediad i Brifysgol Caerdydd i astudio Deintyddiaeth.

Tra oedd yn Ne Affrica, gwahoddwyd Parks i ymuno ag academi Natal Dan 19 ond byddai hyn wedi golygu ymrwymo i fynd i'r brifysgol yn Ne Affrica. Roedd bob amser wedi bod yn ddyhead ganddo i chwarae dros Gymru, felly dewisodd ddychwelyd i Glwb Rygbi Casnewydd, a llofnodi ei gontract proffesiynol cyntaf fel chwaraewr rygbi.

Clwb Rygbi Casnewydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ei flwyddyn gyntaf gyda Chlwb Rygbi Casnewydd (1996-97), cafodd Parks ei ddewis i chwarae i dîm saith-bob-ochr Cymru yn Tokyo, Japan. Yn ei ail flwyddyn, pan oedd yn 20 oed, cafodd ei alw i hyfforddi gyda thîm Cymru. Ar ddiwedd y tymor hwn (1997-98) enillodd Wobr Arthur Boucher fel chwaraewr mwyaf addawol y flwyddyn i'r clwb.

Yn ei drydydd tymor gyda Chlwb Rygbi Casnewydd, cafodd ei daro gydag anaf. Methodd y rhan fwyaf o'r tymor ar ôl dorri ei asgwrn cefn. Oherwydd hynny, collodd y cyfle i ennill anrhydeddau Cymreig ar lefel dan 21 oed.

Ar ôl cymryd mwy o amser i wella na'r disgwyl, rhyddhawyd Parks o'i gontract yn Clwb Rygbi Casnewydd ar ôl 62 ymddangosiad a gorffennodd y tymor yn chwarae Rygbi Prifysgolion i Cardiff Meds.

Pontypridd a chwarae dros Gymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Llofnodwyd Parks gan Glwb Rygbi Pontypridd y tymor canlynol, ac yn 2001 roedd Parks yn cynrychioli Cymru mewn rygbi saith-bob-ochr yng Nghwpan Rygbi Saith-bob-ochr y Byd 2001 yn yr Ariannin.

Enillodd Pontypridd Gwpan y Principality yn 2002 a chyrraedd rownd derfynol Tarian Parker Pen gan golli 22 - 25 i Sale Sharks.

Galwyd nifer o chwaraewyr Pontypridd, gan gynnwys Parks, i gynrychioli Cymru ar daith i Dde Affrica. Yn erbyn De Affrica yn Stadiwm y Wladwriaeth Rydd, Bloemfontein ar 8 Mehefin 2002 y daeth Parks oddi ar y fainc i ennill ei gap rhyngwladol llawn cyntaf. Ef oedd y 1001fed chwaraewr i gynrychioli Cymru.[1]

Y tymor canlynol dewiswyd Parks ar gyfer cyfres ryngwladol yr hydref, gan ennill ei ail gap yn erbyn Fiji.

Cafodd ei enwi yng ngharfan y 6 Gwlad y tymor hwnnw ond ni chafodd gyfle i chwarae.

Yn ystod haf 2003, cafodd ei ddewis yng ngharfan ragarweiniol Cwpan y Byd a chwaraeodd gemau cynhesu yn erbyn yr Alban ac Iwerddon. Fodd bynnag, ni chafodd Parks le yn y garfan a deithiodd i Awstralia i gystadlu ar gyfer Cwpan y Byd.

Rhyfelwyr Celtaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn dilyn cyflwyno'r timau rhanbarthol yng Nghymru yn 2003, arwyddodd Parks i'r Rhyfelwyr Celtaidd. Chwaraeodd yn safle'r wythwr trwy gydol tymor 2003-04 oherwydd anafiadau yn y garfan, gan orffen gydag 19 ymddangosiad.[2]

Yn dilyn tranc y rhanbarth ar ôl un tymor yn unig, ymunodd Parks â phrif hyfforddwr Cymru ar y pryd, Phil Davies, yn Leeds Tykes.

Leeds a Perpignan[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ôl dechrau anodd i dymor 2004–05 oherwydd anaf, daeth Parks yn aelod dylanwadol o garfan Leeds.[3]

Ar ddechrau 2005, roedd Leeds ar waelod Uwch Gynghrair Zurich. Er gwaethaf y bygythiad o golli eu lle yn y gynghrair, fe gyrhaeddon nhw rownd derfynol y Cwpan Powergen yn 2005, a threchu Caerfaddon 20–12 yn Twickenham i hawlio eu tlws cyntaf erioed. [4]

Ar ol ennill y cwpan, aethant ymlaen i ennill pum gem o'r bron a gorffen y tymor yn yr wythfed safle. Nid oedd y tymor canlynol mor llwyddiannus a chollodd y Tykes eu lle yn y gynghrair. Arwyddodd Parks i USA Perpignan ar gyfer tymor 2006–07. Fodd bynnag, oherwydd methiant i gael digon o amser ar y cae, dychwelodd Parks i Gymru i chwarae i Ddreigiau Casnewydd Gwent yn nhymor 2007-08.

Dreigiau Casnewydd Gwent[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhwygodd Parks ligamentau ei ben-glin yn y gem ddarbi Dydd San Steffan yn erbyn Gleision Caerdydd, gan gychwyn rhes o anafiadau a arweiniodd yn y pen draw at ei ymddeoliad o rygbi. Yn gynnar yn ei ail dymor gyda'r Dreigiau, anafodd Parks ei ysgwydd mewn tacl. Heb sylweddoli difrifoldeb yr anaf, parhaodd i chwarae a cafodd lawdriniaeth dros y Nadolig i atgyweirio ei ysgwydd. Dychwelodd ar ddechrau'r flwyddyn ond roedd problem ei ysgwydd yno o hyd. Ar y pwynt hwn, ym mis Mai 2009 ac ar ôl ceisio llawer o wahanol gyrsiau triniaeth i atgyweirio ei ysgwydd, dywedwyd wrtho fod y difrod i'w ysgwydd yn barhaol ac yn dilyn yr ail lawdriniaeth ar ei ysgwydd y flwyddyn honno, dywedwyd wrtho na ddylai chwarae rygbi mwyach. Gwnaeth 30 ymddangosiad i'r Dreigiau cyn ymddeol o rygbi ar 26 Mai 2009 yn 31 oed.

Her 737 ac Anturiaethau Eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn dilyn ei ymddeoliad o rygbi, cychwynnodd Parks her i ddringo mynydd uchaf pob un o 7 cyfandir y byd a chwblhau Her y Tri Phegwn o fewn 7 mis.

Gadawodd Parks Caerdydd ar 12 Rhagfyr 2010, sef canmlwyddiant ymadawiad Alldaith Terra Nova. Ymunodd y rhwyfwr Olympaidd Steve Williams a nyrs Marie Curie, Janet Suart, â Parks ar rannau o'i Her 737.

Cwblhaodd bob cymal o Her 737 ar y dyddiadau canlynol:

  • Cymal 1: Pegwn y De - 27 Rhagfyr 2010, 6.10 am GMT
  • Cymal 2: Mount Vinson - 8 Ionawr 2011
  • Cymal 3: Aconcagua - 5 Chwefror 2011, 5.54 pm GMT
  • Cymal 4: Kilimanjaro - 27 Chwefror 2011, 4.57 am GMT
  • Cymal 5: Pyramid Carstensz - 15 Mawrth 2011, 11.28 pm GMT
  • Cymal 6: Pegwn y Gogledd - 11 Ebrill 2011, 2.20 pm BST
  • Cymal 7: Everest - 25 Mai 2011, 2.57 am BST
  • Cymal 8: Denali - 30 Mehefin 2011, 8.08 am BST
  • Cymal 9: Elbrus - 12 Gorffennaf 2011, 8.53 am BST

Cwblhaodd ei her ar 12 Gorffennaf 2011, gan orffen fwy na phythefnos cyn y targed o 7 mis. Cwblhaodd ei Her 737 mewn 6 Mis, 11 Diwrnod, 7 Awr a 53 Munud [5] a gosododd feincnod newydd wrth ddringo'r 7 copa.

Cododd ei Her 737 gannoedd o filoedd o bunnoedd er budd Gofal Canser Marie Curie wrth greu gwerth hysbysebu gwerth £3 miliwn i'r elusen ganser.

Ym mis Rhagfyr 2012, ceisiodd sgïo ar ei ben ei hun a heb gefnogaeth i Begwn y De o Gilfach Hercules ar arfordir yr Antarctig. Derbyniodd fwyd ychwanegol ar ei daith, ac ym mis Ionawr bu’n rhaid iddo roi'r gorau i'r ymgais gan na allai gyrraedd Pegwn y De mewn pryd ar gyfer yr awyren olaf yn ôl i Dde America. Yn dilyn hynny dychwelodd i Antarctica ar ddiwedd 2013, ac ar 4 Ionawr 2014 cwblhaodd daith i Begwn y De heb gefnogaeth a heb gymorth, gan gwmpasu 1,150   km (715 milltir) mewn 29 diwrnod, 19 awr a 24 munud.[6]

Rhaglenni dogfen teledu[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffilmiwyd Her 737 Parks ar gyfer rhaglen ddogfen BBC Cymru Wales; "Richard Parks - Conquering the World" ac fe'i darlledwyd mewn 3 rhan gan ddechrau ar ddydd Mawrth 26 Gorffennaf 2011. Mae wedi cael ei darlledu ledled y byd ers hynny. Wedi'i ffilmio gan Sports Media Services, mae'r rhaglen ddogfen yn dangos y siwrnai emosiynol ac ysbrydoledig a welodd Richard Parks yn cyrraedd 7 copa a 3 pegwn mewn 7 mis. Mae fersiwn wedi'i rhyddhau ar iTunes ers hynny.

Yn 2014, darlledwyd cyfres deledu rhwydwaith gyntaf Parks ar Channel 5. Wedi'i ffilmio gan Zig Zag Productions, mae'n dilyn blwyddyn o baratoi a chwblhau rasys dygnwch wedi hynny, ynghyd â'i sgïo unigol heb gefnogaeth i Begwn y De.

Yn 2016 cynhyrchwyd a rhyddhawyd cyfres a rhaglen ddogfen annibynnol gyda Parks, y ddwy wedi'u cynhyrchu gan One Tribe TV. Rhyddhawyd cyfres 3 rhan BBC One Wales a BBC Two, "Extreme Wales with Richard Parks", ym mis Medi. Ym mis Hydref, darlledwyd "Richard Parks on Everest", rhaglen ddogfen 60 munud ar gyfer BBC One Wales yn olhain ei gynnydd ar Brosiect Everest Cynllun.

Anrhydeddau a Gwobrau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Cwpan Powergen / Cwpan Eingl-Gymreig (2005)
    • 2012 - Ennill Codwr Arian Enwogion y Flwyddyn.
    • 2012 - Gwobr Arbennig Clwb Awduron Rygbi a ddyfarnwyd yn flaenorol i rai fel Phil Vickery, Syr Clive Woodward a Syr Ian McGeechan.
    • 2012 - 'Medal y Canghellorion' gan Brifysgol Morgannwg.
    • 2012 - Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Brifysgol Cymru.
    • 2012 - Wedi'i ddewis i gario'r Ffagl Olympaidd.
    • 2012 - Enwyd yn 100 o bobl fwyaf dylanwadol y Business Insider yng Nghymru
    • 2012 - Ochr yn ochr â phartner dylunio Her 737 Limegreentangerine, enillodd Wobr Rhagoriaeth Marchnata CIM , gan ennill Busnes Bach neu Ganolig y flwyddyn yng Ngwobrau Rhagoriaeth Marchnata CIM 2012.
    • 2013 - Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Brifysgol Caerdydd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Michael Owen being the 1000th player in the same game
  2. [1]
  3. [2]
  4. "Bath 12–20 Leeds". BBC. 16 April 2005. Cyrchwyd 14 July 2013.
  5. "Richard Parks secures record with seventh summit". BBC Sport. 12 July 2011. Cyrchwyd 12 July 2011.
  6. "Richard Parks claiming 'fastest Briton' record to reach South Pole", BBC News, 4 January 2014