Richard Owen (Y Diwygiwr)
Richard Owen | |
---|---|
Ganwyd | 1839 Llangristiolus |
Bu farw | 16 Chwefror 1887 Pentraeth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl |
Diwygiwr a gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd oedd Richard Owen (1839 – 16 Chwefror 1887). Cafodd ei fagu yn Ystum Werddon, Llangristiolus, Ynys Mon. Ei fam oedd Mary Owen a'i dâd John Owen. Bu farw ei dad pan oedd yn 11 mlwydd oed a fe gollodd ei frawd hynnaf ar ôl tua blwyddyn.
Ei briod oedd Ellen Owen (née Evans) yn 1867. Am bedair blynedd roeddent yn byw yn Rhos-cefn-hir. Pentraeth — Ellen yn masnachu, ac Richard yn efengylu. Roedddent wedyn yn byw am dymor yn Llundain, ac ar ei ddychweliad yn ôl yn 1873 fe'i hordeiniwyd. Ar ôl dod yn ôl ac ymsefydlu roedd yn amlwg ei fod wedi cael dylanwad dros Gymru gyfan. Am dymor byr roedd ei gartref yn Ninbych ac wedyn yn Aberystwyth, a bu farw yn Nhycroes, Pentraeth, Môn.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Pan ddaeth yr amser iddo ymuno a'r weinidogaeth roedd gwrthdaro ymysg yr arweinwyr.[1] Fe ymunodd a Goleg y Bala yn 1863, roedd yn anodd iawn, hyd yn oed amhosib, iddo i wneud cynnydd enfawr yn ei waith gan ei fod yn efengylydd wneuthur.
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- W. Pritchard, Cofiant a Phregethau y Parch. Richard Owen, y 'Diwygiwr' (Amlwch 1889), 1889;
- Eminent Welshmen: a short biographical dictionary of Welshmen... from the earliest times to the present (1908);
- Y Traethodydd, 1888, 296-310.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "OWEN, RICHARD (1839 - 1887), 'y diwygiwr,' gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-01-17.