Richard Ithamar Aaron

Oddi ar Wicipedia
Richard Ithamar Aaron
Ganwyd6 Tachwedd 1901 Edit this on Wikidata
Blaendulais Edit this on Wikidata
Bu farw29 Mawrth 1987 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
AddysgDoethur mewn Athrawiaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethathronydd, gwybodeg Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Prif ddylanwadJohn Cook Wilson, Harold Arthur Prichard, William David Ross, A. C. Ewing Edit this on Wikidata
PlantJane Aaron Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE, Cymrawd yr Academi Brydeinig Edit this on Wikidata

Roedd Richard Ithamar Aaron (6 Tachwedd 19014 Ebrill 1987) yn athronydd o Gymro, a aned ym Mlaendulais, Morgannwg.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Roedd yn fab i William Aaron, dilledydd, a'i wraig Margaret Griffith. Fe'i magwyd yn Llwyfenni, Llangyfelach, Ynystawe, a oedd yn gartref iddo rhwng 1910 a 1932, a derbyniodd ei addysg uwchradd yn ysgol ramadeg Ystalyfera. Aeth i Brifysgol Cymru, Caerdydd ym 1918 i astudio hanes ac athroniaeth. Ym 1923 fe'i hetholwyd yn gymrawd Brifysgol Cymru a alluogodd iddo fynd i Goleg Oriel Rhydychen, lle enillodd radd DPhil (1928) am draethawd hir o'r enw "Hanes a gwerth y gwahaniaeth rhwng deallusrwydd a greddf". [1]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Roedd yn Athro Athroniaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, o 1932 hyd ei ymddeoliad ym 1969. Bu hefyd yn is-gadeirydd Coleg Harlech, llywydd Cymdeithas y Meddwl a chadeirydd Cyngor Cymru. Rhwng 1938 a 1968 golygodd y cylchgrawn Efrydiau Athronyddol.[2]

Prif ffocws ei waith athronyddol oedd epistemoleg a chyffredinolion, ond mae'n fwyaf adnabyddus am ei fywgraffiad o'r athronydd John Locke.

Teulu[golygu | golygu cod]

Priododd Aaron a Rhiannon (Annie) Morgan, merch  Dr Morgan John Morgan, meddyg teulu yn Aberystwyth yng nghapel Bethel, Aberystwyth, ym 1937. Bu iddynt tair merch a ddau fab. Un o'i ferched oedd yr addysgwr Jane Aaron.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw o gymhlethdodau Clefyd Alzheimer yn ei gartref yn Aberystwyth yn 85 mlwydd oed. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth.

Llyfryddiaeth ddethol[golygu | golygu cod]

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • The Nature of Knowing (1930)
  • Hanes Athroniaeth (Caerdydd, 1932)
  • John Locke (1937)
  • The Theory of Universals (1952)
  • Knowing and the Function of Reason (1971)

Astudiaeth[golygu | golygu cod]

Jones, O. R. (1987). 'Richard Ithamar Aaron, 1901-1987.' Proceedings of the British Academy 73. Llundain: Gwasg Prifysgol Rhydychen ar ran yr Academi Brydeinig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Jones, O. (2004, September 23). Aaron, Richard Ithamar (1901–1987), philosopher. Oxford Dictionary of National Biography adalwyd 14 Mawrth 2019
  2. Stephens, Meic (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1988).