Richard Evans (morwr)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cerflun o Richard (Dic) Evans, Moelfre

Ganed Richard (Dic) Evans (19 Ionawr 1905 - 13 Medi 2001) ym mhentref Moelfre yn Ynys Môn.[1] Dros gyfnod o 50 mlynedd gyda'r bad achub, bu Richard Evans ynghlwm a 179 o lawnsiadau a achubodd 281 o fywydau. Ef yw un o'r 5 person sydd wedi derbyn Medal Aur Sefydliad Brenhinol y Badau Achub, yr anrhydedd fwyaf a wobrwyir gan y corff hwnnw.[2]

Bywyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd Richard Evans ei eni a'i fagu ym mhentref Moelfre ar Ynys Mon. Yn fab i fasnachlonger, dewisodd Richard ddilon ol troed ei dad a mynd i'r proffesiwn hwnnw yn 14 oed, a chymryd rheolaeth o'r MV Colin erbyn yr oedd yn 23 oed. Yn ddiweddarach, cymerodd ofal o siop cigydd y teulu a bu'n gwasanaethu fel signalwr yn y Gwarchodlu Cartref yn ystod Yr Ail Ryfel Byd. Priododd Nansi Thomas yn 1933 a chael tri mab: David, Derek a William.[3] Yn dilyn ei ymddeoliad yn 1970, bu Evans yn codi arian gyda'r Bad Achub ac yn ymddangos ar y teledu a'r radio, gan gynnwys ymddangos ar y rhaglen This is Your Life yn 1970.[4] Bu farw yn 96 oed.[5]

Gwasanaeth gyda'r Bad Achub[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd y traddodiad o wasanaethu gyda'r Bad Achub yn mynd yn ôl sawl cenhedlaeth yn nheulu Richard Evans. Roedd un o'i gyndeidiau yn rhan o'r ymgais i achub y rhai a oedd ar y Royal Charter, pan ddrylliwyd hi oddi ar arfordir Ynys Mon yn Hydref 1859. Bu dau daid Richard ym mad achub Moelfre a phan ymunodd yn 17 oed, roedd ei dad yn aelod o'r criw a'i ewythr yn llywiwr. Bu'n ail lywiwr trwy gydol yr Ail Ryfel Byd, a chafodd ei ddyrchafu'n llywiwr ar ymddeoliad ei ewythr yn 1954. Ymunodd tri mab Richard a'r bad achub hefyd. Yn ystod 50 mlynedd o wasanaeth gyda'r Bad, bu Richard ynghlwm a 179 o lansiadau gan achub dros 200 o fywydau.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • 1940 Diolch i'r Bad ar femrwn wedi iddo achub criw o 60 o forwyr o'r  SS Geleden a oedd wedi'i tharo gan dorpedo a thirio ar Afon Menai.
  • 1943 Medal Efydd Sefydliad Brenhinol y Badau Achub am ei ran yn achub awyrennwr a oedd wedi dryllio bomiwr Whitley.
  • 1959 Medal Aur Sefydliad Brenhinol y Badau Achub am ei gyfraniad fel llywiwr y bad a achubodd griw cyfan MV Hindlea a oedd wedi dryllio ar greigiau mewn storm eithafol a mor garw.[6][7]
  • 1960 Medal Arian y Frehines am ddewrder ar y mor[8]
  • 1966 Medal Aur Sefydliad Brenhinol y Badau Achub am archub criw o'r llong Roegaidd Nafisporos[9]
  • 1969 Medal yr Ymerodraeth Brydeinig
  • Yn 1978 cafodd Evans ei urddo i'r orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd

Y Cerflun Coffa[golygu | golygu cod y dudalen]

Dadorchuddiwyd y cerflun efydd er cof am Richard (Dic) Evans ar 23 Tachwedd 2004. Mae wedi'i leoli ger gorsaf bad achub Moelfre.[10] Mae'r cerflun, a grewyd gan Sam Holland, yn 7 troedfedd o uchder ar blinth o wenithfaen.[11]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Leach, N., Moelfre Lifeboats: an illustrated history (Lichfield: Foxglove Publishing Ltd. 2015)
  • Morris, J., The Story of the Moelfre Lifeboats (Coventry: J. Morris, 2003)
  • Roberts, O., 'Lifeboatman Richard M Evans BEM of Moelfre', Cymru a'r Môr 23(2002), 30-31
  • Skidmore, I., Lifeboat VC: The Story of Coxswain Dic Evans, BEM, and his many rescues (Llundain: Pan Books, 1980)

Cyfeirnodau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Lucas, Celia (26 September 2001). "Obituary:Richard Evans". The Guardian. Cyrchwyd 2 May 2017.
  2. Davies, Jenkins, Baines et al (eds) (2008). Welsh Academy Enclyclopaedia of Wales. Cardiff: University of Wales Press. p. 272.CS1 maint: Multiple names: authors list (link) CS1 maint: Extra text: authors list (link)CS1 maint: Multiple names: authors list (link) CS1 maint: Extra text: authors list (link)
  3. "Richard Evans - Telegraph". The Telegraph. 18 September 2001. https://www.telegraph.co.uk/news/obituaries/1340835/Richard-Evans.html.
  4. "Richard Evans". BBC. 4 March 1970. Cyrchwyd 2 May 2017.
  5. "Richard Evans" (yn en-GB). 2001-09-17. ISSN 0307-1235. https://www.telegraph.co.uk/news/obituaries/1340835/Richard-Evans.html.
  6. Evans, Robin (2001). Heroes All the Remarkable Story of the Hindlea rescue of 1959. Moelfre Partnership.
  7. Aberystwyth, National Library of Wales. Casgliad Geoff Charles, 99395043302419. Wreck of the "Hindlea" on the rocks by Moelfre, a 100 years after the Royal Charter sank there.
  8. "Moelfre Lifeboat Station, Station History, 1961". RNLI. 2017. Cyrchwyd 2 May 2017.
  9. Quinn, Joanna (2 December 2016). "50 years since the Nafsiporos - Remembering a remarkable 17-medal-rescue". RNLI. Cyrchwyd 2 May 2017.
  10. "HRH unveils a memorial statue of Dic Evans, a heroic lifeboatman, during a visit to Wales". Prince of Wales & The Duchess of Cornwall. 23 November 2004. Cyrchwyd 2 May 2017.
  11. Holland, Sam. "Dic Evans Memorial Sculpture". Sam Holland. Cyrchwyd 2 May 2017.