Richard Davies (AS Môn)

Oddi ar Wicipedia
Richard Davies
Ganwyd29 Tachwedd 1818 Edit this on Wikidata
Llangefni Edit this on Wikidata
Bu farw27 Hydref 1896 Edit this on Wikidata
Treborth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Gynradd Llangefni Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata

Roedd Richard Davies (29 Tachwedd 181827 Hydref 1896) yn aelod seneddol dros Sir Fôn ac yn ddiwydiannwr amlwg ar yr ynys.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Davies yn Llangefni ar 29 Tachwedd 1818, yn un o dri o feibion i Richard Davies siopwr yn Llangefni ac Ann (cynt Jones) ei wraig; cafodd ei addysg yn Ysgol Genedlaethol Llangefni. Gyda'i dad a'i frodyr sefydlodd busnes masnachu coed ym Mhorthaethwy yn y 1830au, yn ddiweddarach daeth y busnes teuluol yn berchnogion nifer o longau masnach, bu llewyrch ar y busnes a daeth a chyfoeth sylweddol i Richard Davies gan ei godi i safle o ddylanwad ym Môn ac Arfon.[1]

Bywyd gwleidyddol[golygu | golygu cod]

Safodd Davies fel ymgeisydd seneddol Rhyddfrydol am y tro cyntaf yn etholaeth Bwrdeistrefi Sir Gaernarfon yn etholiad 1859 ond fu'n aflwyddiannus. Safodd yn etholaeth Sir Fôn ym 1868 gan gadw'r sedd dros y Blaid Ryddfrydol ond gan ei gipio oddi wrth deulu Bulkeley, Baron Hill a oedd wedi cynrychioli'r sedd neu dethol ei gynrychiolydd ers cyn cof.

Er i'r anghydffurfiwr Walter Coffin cael ei ethol yn AS Rhyddfrydol dros Gaerdydd ym 1852, ystyrid ethol Davies ym Môn, David Williams (Monwysyn arall) ym Meirion a'r Parch Henry Richard ym Merthyr ym 1868 gan lawer fel egin troi'r Blaid Ryddfrydol yng Nghymru yn blaid yr anghydffurfwyr Cymreig a'r gwladgarwyr Cymraeg eu hiaith.

Bywyd cyhoeddus y tu allan i'r Senedd[golygu | golygu cod]

Davies oedd Ynad Heddwch anghydffurfiol cyntaf Môn, ei Siryf anghydffurfiol cyntaf (1858), a'i Harglwydd Raglaw anghydffurfiol cyntaf (1884).[2]

Bu yn frwdfrydig yn ei gefnogaeth i'r Coleg Normal, Bangor ac i'r ysgolion Brutanaidd, (ysgolion di enwad oedd yn cael eu ffafrio gan anghydffurfwyr dros yr Ysgolion Cenedlaethol Eglwysig).

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Priododd Anne, ferch Henry Rees un o weinidogion anghydffurfiol amlycaf y 19g, a bu iddynt nifer o blant. Bu farw o afiechyd ar y galon yn ei gartref yn Nhreborth ar 27 Hydref 1896.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Y Bywgraffiadur ar-lein DAVIES, RICHARD (1818-1896) http://wbo.llgc.org.uk/cy/c-DAVI-RIC-1818.html adalwyd 16 hyd 2013
  2. Debrett's House of Commons http://www.archive.org/stream/debrettshouseo1886londuoft#page/n91/mode/2up adalwyd 16 Hyd 2013
  3. Cambrian News and Merionethshire Standard 30 Hydref 1896 http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3315306/ART76 adalwyd 16 Hyd 2013
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Syr Richard Bulkeley Williams-Bulkeley
Aelod Seneddol dros Ynys Môn
18681886
Olynydd:
Thomas Lewis