Neidio i'r cynnwys

Richard Chamberlain

Oddi ar Wicipedia
Richard Chamberlain
GanwydGeorge Richard Chamberlain Edit this on Wikidata
31 Mawrth 1934 Edit this on Wikidata
Beverly Hills Edit this on Wikidata
Bu farw29 Mawrth 2025 Edit this on Wikidata
o strôc Edit this on Wikidata
Waimānalo Edit this on Wikidata
Label recordioMGM Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Alma mater
  • Ysgol Uwchradd Beverly Hills
  • Coleg Pomona, California Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr, actor teledu, actor ffilm, cynhyrchydd ffilm, actor llwyfan, cyfarwyddwr theatr, hunangofiannydd, artist recordio, actor Edit this on Wikidata
MamElsa Winnifred von Fisher von Benzon-Matthews Edit this on Wikidata
PartnerWesley Eure, Martin Rabbet Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Steiger, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Sitges Film Festival Best Actor award Edit this on Wikidata
llofnod

Actor a chanwr o'r o'r Unol Daleithiau oedd George Richard Chamberlain (31 Mawrth 193429 Mawrth 2025). Daeth yn boblogaidd yn rôl deitl y sioe deledu Dr. Kildare (1961–1966). Wedyn, enillodd y teitl “Brenin y gyfres fach” am ei waith mewn sawl cyfres deledu, fel Centennial (1978), Shōgun (1980), a The Thorn Birds (1983). Ef oedd y cyntaf i chwarae rhan Jason Bourne yn y ffilm deledu The Bourne Identity ym 1988. Perfformiodd Chamberlain rannau clasurol ar lwyfan hefyd, a gweithiodd ym myd theatr gerdd.

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Cafodd Chamberlain ei eni yn Beverly Hills, Califfornia,[1] yn ail fab i Elsa Winnifred (née von Benzon; Matthews yn ddiweddarach) a Charles Axion "Chuck" Chamberlain; roedd Chuck yn werthwr offer siop o Indiana.[2][3][4] Roedd ei fam o dras Almaenig rhannol.

Roedd gan Chamberlain frawd William, a oedd yn gweithio ochr yn ochr â'u tad yn y busnes teuluol.[5] Ym 1952, graddiodd Chamberlain o Ysgol Uwchradd Beverly Hills,[1] ac yn ddiweddarach mynychodd Goleg Pomona, lle derbyniodd radd baglor mewn hanes celf a phaentio.[6][7][8] Cafodd Chamberlain ei ddrafftio i Fyddin yr Unol Daleithiau a gwasanaethodd o 1956 i 1958. Cyrhaeddodd reng rhingyll.[1]

Ffilmiau

[golygu | golygu cod]
  • The Music Lovers (1970),[9]
  • Lady Caroline Lamb (fel Arglwydd Byron; 1973),[9]
  • The Three Musketeers (1973)
  • The Four Musketeers (1974)
  • The Towering Inferno (1974)
  • The Count of Monte Cristo (1975).[10]
  • The Slipper and the Rose (1976)
  • The Last Wave (1977)
  • King Solomon's Mines (1985)
  • The Return of the Musketeers (1989);
  • Lost City of Gold (1986)

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Chamberlain, Richard (3 Mehefin 2003). Shattered Love: A Memoir. New York: Regan Books. ISBN 0-06-008743-9. OCLC 52178565.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 "Chamberlain, Richard 1934–". Encyclopedia.com. Cengage. Cyrchwyd 29 Mawrth 2022.
  2. Reitwiesner, William Addams. "Ancestry of William Shattuck". Wargs.com. Cyrchwyd 5 Mai 2012.
  3. "Richard Chamberlain Online Article 139". Richard Chamberlain Online. Richard-chamberlain.co.uk. 31 Mawrth 1935. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-08-18. Cyrchwyd 5 Mai 2012.
  4. Foote, Abraham W. (1932). "Foote family, comprising the genealogy and history of Nathaniel Foote, of Wethersfield, Conn., and his descendants; also a partial record of descendants of Pasco Foote of Salem, Mass., Richard Foote of Stafford County, Va., and John Foote of New York City". Burlington, Vt.: Free Press Printing Co. t. 33. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-06. Cyrchwyd 2025-03-31.
  5. Bush, G. M. (1985-01-02). "Laguna Beach : Richard Chamberlain's Father Dies at 82". Los Angeles Times (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Mawrth 2025. Cyrchwyd 30 Mawrth 2025.
  6. "Richard Chamberlain". Biography (yn Saesneg). 17 Ebrill 2019. Cyrchwyd 11 Mawrth 2020.
  7. Rognlien, Gretchen (3 Awst 2015). "Celebrate!". Pomona College Alumni Magazine: 46. https://magazine.pomona.edu/2015/summer/celebrate/. Adalwyd 11 Mawrth 2020.
  8. Gates, Anita (2025-03-30). "Richard Chamberlain, Actor in 'Shogun' and 'Dr. Kildare,' Dies at 90". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 30 Mawrth 2025.
  9. 9.0 9.1 "Richard Chamberlain". Golden Globe Awards. Cyrchwyd 28 Hydref 2023.
  10. "Richard Chamberlain − Emmy Awards". emmys.com. Academy of Television Arts & Sciences. Cyrchwyd 28 Hydref 2023.