Rhywogaeth glofaen

Oddi ar Wicipedia
Rhywogaeth glofaen
Mathorganeb byw Edit this on Wikidata

Mae'r cysyniad o rywogaeth glofaen (keystone species) yn cyfateb i garreg clo mewn bwa o gerrig (neu i raddau llai, y conglfaen sy’n cloi dau fur ar gornel adeilad), sef y garreg sydd yn rhoi y nerth i’r holl adeiladwaith. Mae’n rywogaeth sydd yn cael effaith anghymesur ar ei gynefin o ystyried ei niferoedd. Cyflwynwyd y cysyniad yn wreiddiol gan y sẅolegydd Robert T Paine yn 1969[1][2] Mae rhywogaethau o’r fath yn chwarae rôl critigol yn cynnal strwythur cymuned ecolegol, yn effeithio ar lawer o organebau mewn ecosystem ac yn rheoli maint poblogaeth rhywogaethau eraill yn y gymuned honno. Heb rywogaethau clofaen, byddai natur yr ecosystem yn sylfaenol wahanol, neu hyd yn oed yn peidio a bod o gwbl. Mae rhai rhywogaethau clofaen, fel blaidd, hefyd yn ysglyfaethwyr apigol, sef rheibwyr ar ben eu cadwyn fwyd, ond mae eraill, fel yr afanc, yn saernïo ei gynefin ar lefel îs yn y we fwyd.

Er mai anifeiliaid yw’r rhywogaethau clofaen gan fwyaf, fe all hefyd gynnwys planhigion. Er enghraifft, mae yna gyfnod pob blwyddyn mewn ardal o Orllewin Awstralia pan fo’r unig ffynhonnell o neithdar i grwp o felysorion [1] yw’r planhigyn Banksia prionotes. Mae’r melysorion ar adegau erall o’r flwyddyn yn chwarae rôl hanfodol yn peillio llawer o rywogaethau eraill yn y gymuned honno. Felly heb y bancsia byddai’r gymyned yn dymchwel.

Gellir targedu rhywogaethau clofaen mewn prosiectau cadwraeth trwy eu monitro a'u rheoli nid yn unig er lles y rhywogaeth ei hun ond hefyd er lles y gymuned gyfan.

Estynnwyd y cysyniad gan Sergio Cristancho a Joanne Vining[3] i gynnwys rhywogaethau clofaen diwylliannol, sef rhywogaethau sydd yn hanfodol y ddiwylliant cyfan o bobl.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Paine, R. T. (1969). "A Note on Trophic Complexity and Community Stability". The American Naturalist 103 (929): 91–93. doi:10.1086/282586. JSTOR 2459472.
  2. "Keystone Species Hypothesis". University of Washington. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-01-10. Cyrchwyd 2011-02-03.
  3. International Symposium on Society and Resource Management Bellingham, W. (2000). Book of abstracts: 8th International Symposium on Society and Resource Management : June 17-22, 2000, Bellingham, Washington, USA. Portland, Or. U.S. Dept. of Agriculture, Forest Service, Pacific Northwest Research Station.