Rhythm circadaidd

Oddi ar Wicipedia
Coeden gysgu yn y dydd a'r nos

Mae unrhyw broses biolegol sy'n arddangos osgiliad mewndarddol addasadwy o tua 24 awr yn cael ei ddehongli fel rhythm circadaidd. Mae'r rhythmau 24 awr hyn yn cael eu gyrru gan 'gloc circadaidd', ac maent i'w gweld mewn planhigion, anifeiliaid, ffwng, a cyanobacteria.[1]

Daw'r term circadaidd o'r Lladin circa, sy'n golygu "o amgylch" (neu "oddeutu"), a diēm, sy'n golygu "diwrnod". Mae'r astudiaeth o rhythmau biolegol amserol, fel y dyddiol, llanwol, wythnosol, tymhorol, a'r blynyddol, yn cael ei alw'n 'cronobioleg'. Mae prosesau gydag osgiliadau 24 awr fel arfer yn cael eu galw yn rhythmau dyddiol (Saesneg: diurnal rhythms). Nid ydynt yn rhythmau circadaidd yng ngwir ystyr y gair oni bai bod eu natur mewndarddol wedi'i chadarnhau.[2]

Er bod rhythmau circadaidd yn fewndarddol, maent yn cael eu haddasu i'r amgylchedd leol trwy giw allanol sy'n cael ei alw'n "zeitgeber" (o'r Almaeneg, "rhoddwr amser"). Er enghraifft, gall zeitgeber fod yn gylch golau, tymheredd neu rhydocs. Mewn gwyddoniaeth feddygol, mae rhythm circadaidd anarferol mewn bodau dynol yn cael ei alw'n 'anhwylder rhythm circadaidd'.[3]

Yn 2017, rhoddwyd Gwobr Nobel mewn Ffisioleg neu Feddygaeth i Jeffrey C. Hall, Michael Rosbash a Michael W. Young "am eu darganfyddiadau ym mecanweithiau molecwlaidd sy'n rheoli'r rhythm circadaidd" mewn pryfed ffrwythau.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Peroxiredoxins are conserved markers of circadian rhythms". Nature 485 (7399): 459–64. May 2012. Bibcode 2012Natur.485..459E. doi:10.1038/nature11088. PMC 3398137. PMID 22622569. http://www.nature.com/nature/journal/v485/n7399/full/nature11088.html.
  2. "Overview of circadian rhythms". Alcohol Research & Health 25 (2): 85–93. 2001. PMID 11584554. http://pubs.niaaa.nih.gov/publications/arh25-2/85-93.htm. Adalwyd 2018-12-30.
  3. "Circadian topology of metabolism". Nature 491 (7424): 348–56. November 2012. Bibcode 2012Natur.491..348B. doi:10.1038/nature11704. PMID 23151577. http://www.nature.com/nature/journal/v491/n7424/full/nature11704.html.
  4. "The Nobel Prize in Physiology or Medicine 2017". www.nobelprize.org. Cyrchwyd 2017-10-06.