Rhys Lewis (drama J. M. Edwards)
| Enghraifft o: | drama lwyfan Gymraeg |
|---|---|
| Dyddiad cynharaf | 1909 |
| Awdur | J. M. Edwards |
| Cyhoeddwr | Hughes a'i Fab |
| Gwlad | Cymru |
| Dyddiad cyhoeddi | 1909 |
| Cysylltir gyda | Daniel Owen |
| Dynodwyr | |
Drama lwyfan gan J. M. Edwards "wedi ei threfnu o ffug-chwedl adnabyddus Daniel Owen" yw Rhys Lewis a gyhoeddwyd gan Hughes a'i Fab ym 1909. Nodwyd ar glawr y ddrama mai hon oedd "yr unig drefniad awdurdodedig" o'r nofel Rhys Lewis gan y nofelydd o'r Wyddgrug.
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Rhys Lewis
- Mari Lewis, mam Rhys
- Bob, brawd Rhys
- Wil Bryan
- Marged Pitars, cymdoges
- Sergeant Williams
- Tomos Bartley, y crydd
- Barbara, gwraig Tomos Bartley
- Miss Hughes, chwaer Abel Hughes
- James, brawd tad Rhys
- Lletywraig Rhys a Williams
- Williams, myfyriwr yn y Coleg
- Athro a myfyriwr yng Ngholeg y Bala
- Sus, yr hon y mae Wil Bryan yn ei phriodi
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Yn ôl J. M. Edwards yn y Rhagair i'r ddrama, "Prin mae'r enw Drama yn cyfleu beth yw, - ymgom gegin, ysgwrs gartrefol heb ymgais at ddim byd mawr, - helyntion dyddiol y werin, heb un plot, ond dod a Wil Bryan yn ôl i'r seiat, ac i awyrgylch mwy dyrchafol nag y bu".[1] Ychwanega bod y "golygfeydd defosiynol" wedi ei cadw o'r neilltu, "ac nid oes ynddi ddim i frifo teimlad sant nac i lygru moes yr ieuanc".[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Yn ôl J. M. Edwards yn yr ail-gyhoeddiad [1910] "swynwyd miloedd yn nhrefi Gogledd Cymru a Lloegr gan y Ddrama hon, a chafwyd elw mawr at adgyweirio eglwysi, talu am gapelau, prynnu llyfrau i lyfrgelloedd, harddu cof-golofn Daniel Owen, ac achosion teilwng eraill."[1]