Rhywedd anneuaidd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Rhyngrywedd)
Y faner anneuaidd

Anneuaidd (hefyd sillafir aneuaidd) neu genderqueer yw term mantell sy'n disgrifio hunaniaethau rhywedd nad ydynt yn wrywaidd na fenywaidd—hunaniaethau sydd y tu allan i'r system rhywedd ddeuaidd.[1][2] Mae hunaniaethau anneuaidd yn dod o dan yr ymbarél trawsrywedd, gan fod pobl anneuaidd fel arfer yn uniaethu â rhywedd sy'n wahanol i'w rhyw a bennwyd adeg eu genedigaeth,[2] er nad yw rhai pobl anneuaidd yn ystyried eu hunain yn drawsryweddol.[3] Enby (o'r talfyriad Saesneg 'NB') yw enw arall ar gyfer anneuaidd.[4]

Symbol trawsryweddol
Symbol trawsryweddol
Trawsrywedd
Hunaniaethau
Androgynedd · Anneuaidd · Dau-Enaid · Dyn traws · Kathoey · Menyw draws · Trydydd rhywedd
Pynciau
Cwestiynu · Trawsrywioldeb
Agweddau clinigol a meddygol
Dysfforia rhywedd · Llawdriniaeth ailbennu rhyw · Therapi hormonau trawsryweddol
Agweddau cyfreithiol a chymdeithasol
Cydnabyddiaeth gyfreithiol · Symbolau · Trawsffobia · Deddf Cydnabod Rhywedd 2004
Rhestrau
Pobl
Categori
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Gall pobl anneuaidd uniaethu bod ganddynt ddau neu dri rhywedd (bod yn ddeuryweddol neu'n drirhyweddol);[5][6] nad yw ganddynt rywedd (anrhywedd/agender, di-rywedd/non-gendered); eu bod yn symud rhwng ryweddau neu fod ganddynt hunaniaeth rhywedd sy'n newid (rhywedd-hylif/genderfluid);[7] eu bod yn drydydd rhywedd neu wedi'u rhyweddu'n arall (categori sy'n cynnwys y rheini nad ydynt yn rhoi enw i'w rhywedd).[8]

Mae hunaniaeth rhywedd ar wahân i gyfeiriadedd rhywiol neu ramantaidd,[9] ac mae gan bobl anneuaidd amrywiaeth o gyfeiriadedd rhywiol, yn union fel pobl gydryweddol.[10]

Nid yw hunaniaethau rhywedd anneuaidd yn gysylltiedig â mynegiant rhywedd penodol, megis androgynedd. Mae gan bobl anneuaidd fel grŵp amrywiaeth eang o fynegiannau rhywedd, ac gall rhai wrthod "hunaniaethau" rhywedd yn gyfan gwbl.[11] Mae rhai pobl anneuaidd yn cael triniaeth feddygol ar gyfer dysfforia rhywedd gyda llawdriniaeth neu hormonau, fel y mae dynion traws a menywod traws yn aml.

Diffiniadau a hunaniaeth[golygu | golygu cod]

Baner balchder anneuaidd mewn gorymdaith balchder ym Mharis yn darllen "Mon genre est non-binaire" ("Mae fy rhywedd yn anneuaidd")

Dechreuodd y term genderqueer (rhyngrywedd/rhywedd-cwiar) yng nghylchgronau cwiar y 1980au fel rhagflaenydd i'r term anneuaidd.[12] Yn ogystal â bod yn derm mantell, defnyddir genderqueer fel ansoddair er mwyn cyfeirio at unrhyw bobl a ystyrir yn codi uwchlaw neu'n gwyro oddi wrth wahaniadau traddodiaddol o rywedd, beth bynnag fo'u hunaniaeth rhywedd hunan-ddiffiniedig. Gall unigolion fynegi rhywedd yn annormadol drwy beidio â chydymffurfio â'r categorïau rhywedd deuaidd o "ddyn" a "menyw".[13] Yn aml, defnyddir genderqueer er mwyn hunan-uniaethu gan bobl sy'n herio cystrawennau cymdeithasol deuaidd o rywedd.[14]

Cymhwyso'r term genderqueer hefyd gan reini yn disgrifio'r hyn maent yn gweld fel amwysedd rhywedd.[15] Defnyddir androgynaidd yn aml fel term disgrifiadol ar gyfer pobl yn y categori hwn. Mae hyn oherwydd bod y term androgynedd yn gysylltiedig â chymysgedd o nodweddion gwrywaidd a benwyaidd a ddiffiniwydd yn gymdeithasol.[16] Fodd bynnag, nid yw pob person genderqueer yn uniaethu'n androgynaidd. Mae rhai pobl genderqueer yn uniaethu'n fenyw wrywaidd neu'n ddyn benywaidd neu'n cyfuno genderqueer â dewisiad rhywedd arall.[17] Nid yw bod yn anneuaidd yn yr un peth â bod yn rhyngryw, ac mae'r rhan fwyaf o bobl ryngryw yn uniaethu y maent naill ai'n wryw neu'n fenyw.[18] Mae rhai pobl yn defnyddio enby (o'r acronym Saesneg 'NB') fel ffurf fyr o anneuaidd.[19][20]

Mae llawer o gyfeiriadau yn defnyddio'r term trawsrywedd er mwyn gynnwys pobl anneuaidd.[11][21][22] Mae Sefydliad Human Rights Campaign a Gender Spectrum yn defnyddio'r term gender-expansive (rhywedd-eang) er mwyn cyfleu "ystod ehangach, mwy hyblyg o hunaniaeth rhywedd ac/neu fynegiant rhywedd na chysylltu â'r system rhywedd ddeuaidd yn gyffredin".[23]

Anrhywedd

Pobl anrhyweddol, hefyd gelwir di-rywedd, genderless neu gender-free,[24][25] yw'r rheini sy'n uniaethu nad yw ganddynt unrhyw rywedd neu hunaniaeth rhywedd.[26][27][28] Er bod y categori hwn yn cynnwys ystod eang o hunaniaethau nad ydynt yn cydymffurfio â normau rhywedd traddodiadol, mae'r ysgolhaig Finn Enke yn dweud nad yw pobl sy'n uniaethu â unrhyw un o'r hunaniaethau hyn yn uniaethu eu hunain yn drawsryweddol o reidrwydd.[29] Nid oes gan bobl anrhyweddol un rhagenw penodol; defnyddir "nhw" unigol (benthyciad o'r "singular they" yn Saesneg) fel arfer, ond nid y rhagosod yw e.[30]

Deurywedd

Mae gan bobl ddeuryweddol ddwy hunaniaeth ac ymddygiad rhywedd. Fel rheol, gwyddys bod uniaethu'n ddeuryweddol yn golygu bod rhywun yn uniaethu'n wryw a benyw neu'n symud rhwng mynegiant gwrywaidd a mynegiant benywaidd o ran rhywedd, bod ganddynt ddwy hunaniaeth rhywedd wahanol ar yr un pryd.[31][32][33] Mae hyn yn wahanol i uniaethu'n rhywedd-hylif, gan efallai nad yw'r rheini sy'n uniaethu'n rhywedd-hylif yn synud yn ôl ac ymlaen rhwng unrhyw hunaniaethau rhywedd sefydlog a gallant brofi ystod neu sbectrwm cyfan o hunaniaethau dros amser.[34][35] Mae'r American Psychological Association yn disgrifio hunaniaeth deurywedd fel rhan o ymbarél hunaniaethau trawsrywedd.[36] Mae rhai unigolion deuryweddol yn mynegi dau bersona gwahanol, a all fod yn fenywaidd, gwrywaidd, anrhyweddol, androgynaidd neu hunaniaethau rhywedd eraill; mae eraill yn darganfod eu bod yn uniaethu'n ddau rywedd ar yr un pryd. Sylwodd arolwg 1999 a gynhaliwyd gan Adran Iechyd y Cyhoedd San Ffransisco fod, ymhlith y gymuned drawsryweddol, 3% o'r rheini a bennwyd yn wryw ar eu genedigaeth a 8% a bennwyd yn fenyw ar eu genedigaeth yn uniaethu naill ai fel "trawswisgwr, croes-wisgwr, drag queen, neu berson deuryweddol".[37] Darganfu Harris poll 2016 a gynhaliwyd ar ran GLAAD fod 1% o fileniaid yn uniaethu'n ddeuryweddol.[38][39] Mae pobl tri-rhyweddol yn symud ymhlith gwryw, benyw a thrydydd rhywedd.[40]

Demi-rywedd

Mae pobl ddemi-ryweddol yn uniaethu'n rhannol neu'n bennaf ag un rhywedd ac ar yr un pryd â rhywedd arall.[41][42] Ceir sawl is-gategori o'r hunaniaeth. Er enghraifft, mae demi-fachgen neu ddemi-ddyn yn uniaethu o leiaf yn rhannol â bod yn fachgen neu ddyn (pa rhyw neu rywedd bynnag a bennwyd ar eu genedigaeth) ac yn rhannol â rhyweddau eraill neu heb unrhyw rywedd arall (anrhyweddol). Mae person demi-fflwcs yn teimlo bod rhan sefydlog eu hunaniaeth yn anneuaidd.[42]

Holl-rywedd

Mae gan bobl holl-ryweddol (hefyd pangender, polygender or omnigender) hunaniaethau rhywedd lluosog.[43] Mae rhai yn uniaethu'n bob rhywedd ar yr un pryd[44]

Rhywedd-hylif

Yn aml, mae pobl rywedd-hylif yn mynegi dymuniad i aros yn hyblyg am eu hunaniaeth rhywedd yn hytrach nag ymrwymo i un diffiniad yn unig.[45] Gallant symud ymhlith mynegiannau rhywedd gwahanol drwy eu bywyd, neu fynegi agweddau lluosog o nodwyr rhywedd amrywiol ar yr un pryd.[45][46] Gall unigolyn rhywedd-hylif hefyd uniaethu'n ddeuryweddol, tri-rhyweddol neu holl-ryweddol.[5][6][47]

Trawsfenywaidd a thrawswrywaidd

Term ar gyfer unrhyw berson, deuaidd neu anneuaidd, a bennwyd gwryw ar eu genedigaeth ac sydd â hunaniaeth neu gyflwyniad benywaidd yn bennaf yw trawsfenywaidd; y term cyfweth ar gyfer rhywun a bennwyd benyw ar eu genedigaeth ac sydd â hunaniaeth neu gyflwyndiad gwrywaidd yw trawswrywaidd.[48]

Hanes[golygu | golygu cod]

Ym 1992, ar ôl cyhoeddi Transgender Liberation: A Movement Whose Time Has Come gan Leslie Feinberg, ehangwyd y term trawsrywedd i ddod yn derm ar gyfer amrywiad mewn rhywedd yn gyffredinol.[49] Pwysleisir hyn ym 1994, pan ysgrifennodd yr ymgyrchydd Kate Bornstein "mae'r holl gategorïau o drawsrywedd yn dod o hyd i dir cyffredin o ran y ffaith eu bod hwy i gyd yn torri un neu fwy o'r rheolau rhywedd. Yr hyn sydd gennym yn gyffredin yw taw herwyr rhywedd ydym, pob un ohonom ni."[50]

Dechreuwyd defnyddio y term genderqueer yn ystod canol y 1990au ymhlith ymgyrchyddion gwleidyddol.[49] Cysylltir Riki Anne Wilchins yn aml â'r gair ac yn honni eu bod wedi'i fathu.[51] Defnyddiodd Wilchins y term mewn ysgrif 1995 a gyhoeddwyd yn rhifyn cyntaf In Your Face er mwyn disgrifio unrhyw un sy'n anghydffurfiol o ran rhywedd.[52][53] Hefyd, un o'r prif-gyfranwyr i'r antholeg Genderqueer: Voices Beyond the Sexual Binary a gyhoeddwyd yn 2002.[54] Dywedodd Wilchins eu bod yn uniaethu'n genderqueer yn eu hunangofiant 1997.[52]

Poblogeiddiodd y rhyngrwyd y term genderqueer, gan y gallwyd cyrraedd cynulleidfa eang.[49] Yn 2008, defnyddiodd The New York Times y gair genderqueer.[55][49] Yn y 2010au, daeth y term hwn yn fwy poblogaidd gan fod llawer o enwogion yn uniaethu eu bod yn anghydffurfiol o ran rhywedd.[56] Yn 2012, dechreuwyd Intersex & Genderqueer Recognition Project er mwyn dadlau dros ehangu opsiynau rhywedd mewn dogfennaeth swyddogol.[57] Yn 2016, James Shupe oedd y person cyntaf i gael rhywedd anneuaidd mewn dogfennau swyddogol yn yr Unol Daleithiau.[58]

Rhagenwau a theitlau[golygu | golygu cod]

Mae rhai pobl anneuaidd yn defnyddio rhagenwau niwtral o ran rhywedd. Yn Gymraeg, defnydd o 'nhw/hwy', 'hwyntau' ac 'eu' unigol yw'r mwyaf cyffredinol, sy'n fenthyciad o'r defnydd Saesneg o they;[60][59][61] defnyddir rhagenwau ansafonol – cyfeirir atynt yn gyffredin fel neopronouns[62] – megis xe, ze, sie, co a ey hefyd, ond nid oes unrhyw neopronouns cyffredin yn Gymraeg. Mae rhai erail yn defnyddio rhagenwau penodol o ran rhywedd confensiynol 'ef' neu 'hi', fel arall defnyddio 'ef' a 'hi', neu ddefnyddio eu henw yn unig a pheidio â defnyddio rhagenwau o gwbl.[63] Mae llawer yn defnyddio iaith niwtral ychwanegol, megis y teitl 'Mx'.[64]

Bathodynnau pin rhagenw o ŵyl celf a thechnoleg 2016

Cydnabyddiaeth gyfreithiol[golygu | golygu cod]

Mae llawer o bobl anneuaidd/generqueer yn defnyddio'r rhywedd a roddwyd ar eu genedigaeth er mwyn cynnal busnes pob dydd, gan fod llawer o sefydliadau a ffurfiau o adnabyddiaeth – fel pasbortau a thwydded yrru – yn derbyn, yn yr ystyr o adnabyddiaeth ar gof a chadw, hunaniaethau rhywedd deuaidd. Fodd bynnag, gyda'r cynnydd o dderbyn hunaniaethau rhywedd anneuaidd a'r codiad mewn adnabyddiaeth cymdeithasol ehangaf, mae hyn yn newid yn araf, wrth i nifer fwy o lywodraethau a sefydliadau gydnabod a chaniatáu hunaniaethau anneuaidd.[1]

Mae nifer o wledydd yn cydnabod dosbarthiadau anneuaidd neu drydydd rhywedd. Mae rhai cymdeithasau anorllewinol yn cydnabod pobl drawsryweddol fel trydydd rhywedd ers amser maith, er efallai nad yw hyn (neu'n ddiweddar yn unig)[65] yn cynnwys cydnabyddiaeth gyfreithiol ffurfiol. Mewn cymdeithasau gorllewinol, efallai taw'r wlad gyntaf i gyfnabod yn gyfreithiol dosbarthiad rhyw'r tu allan i 'gwryw' a 'benyw' ar ddogfennaeth gyfreithiol oedd Awstralia, ar ôl y gydnabyddiaeth o statws rhyngryw Alex MacFarlane yn 2003.[66] Dilynodd cydnabyddiaeth gyfreithiol ehangach pobl anneuaidd – ar ôl cydnabyddiaeth pobl ryngryw yn 2003 – yng nghyfraith Awstralia rhwng 2010 a 2014, gyda chamau cyfreithiol a gymerwyd yn erbyn Cofrestrfa Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau Llywodraeth De Cymru Newydd gan ymgyrchydd trawsryweddol Norrie May-Welby i gydnabod hunaniaeth rhywedd cyfreithiol Norrie fel 'amhenodol'. Cydnabu Goruchaf Lys India bobl drawsryweddol ac anneuaidd fel trydydd rhywedd yn ffurfiol yn 2014, yn dilyn camau cyfreithiol a gymerwyd gan ymgyrchydd trawsryweddol Laxmi Narayan Tripathi.[67] Ym mis Gorffennaf, ymgorfforodd yr Ariannin rywedd anneuaidd yn ei cherdyn adnabod gwladol, dod yn wlad gyntaf yn Ne America i gydnabod rhywedd anneuaidd yn gyfreithiol ar ei holl ddogfennaeth swyddogol; gall pobl anneuaidd yn y wlad cael y dewisiad i adnewyddu eu cerdiau adnabod gyda'r llythyren 'X' o dan rywedd.[68][69]

Tra nad yw'r Unol Daleithiau yn cydnabod rhywedd anneuaidd yn ffederal, yn 2016 daeth Oregon yn y dalaith gyntaf i gydnabod hunaniaeth rhywedd anneuaidd.[70] Yn dilyn Oregon, yn 2017 pasiodd Califfornia ddeddf yn caniatáu i ddinasyddion uniaethu'n 'anneuaidd' ar ddogfennau swyddogol.[70] Erbyn 2019, mae wyth talaith wedi pasio deddfau sy'n caniatáu dynodiadau 'anneuaidd' neu 'X' ar rai dogfennau adnabod.[70] Un o'r prif ddadleuon yn erbyn cynnwys trydydd dynodiad rhywedd yn yr UD yw y byddai'n gwneud gorfodi'r gyfraith a gwyliadwriaeth yn anos, ond nid yw gwledydd sydd wedi cydnabod trydydd marciwr rhywedd yn swyddogol wedi adrodd y problemau hyn.[70] Yn yr Unol Daleithiau, nid oes unrhyw ddeddfau penodol i amddiffyn pobl anneuaidd rhag gwahaniaethu, ond mae'n anghyfreithlon i gyflogwr orfodi cyflogeion i gydymffurfio â stereoteipiau rhyw.[71]

Yn y Deyrnas Unedig, nid oes cydnabyddiaeth gyfreithiol o rywedd anneuaidd ar ddogfennau swyddogol. Ym mis Mawrth 2020, dyfarnodd barnwr fod diffyg o farciwr rhywedd anneuaidd ar basbortau a gyhoeddir gan y DU yn gyfreithlon "am y tro", ond nododd "pebai'r duedd ryngwladol tuag at gynabyddiaeth sywddogol ehangach o "anneuaidd" yn parhau, yna rywbryd yn y dyfodol, gallai gwadiad dorri hawliau dynol."[72] Ar 14 Medi 2020, dyfarnodd tribiwnlys cyflogaeth yr amddiffynnir cyflogai anneuaidd rhag gwahaniaethu yn Neddf Cydraddoldeb 2010.[73] Ym mis Mai, gwrthododd Llywodraeth y DU ddeiseb yn galw am gydnabyddiaeth gyfreithiol o anneuaidd fel hunaniaeth rhywedd, dywedodd y llywodraeth yn eu hymateb nad oedd bwriad i ehangu Deddf Cydnabod Rhywedd 2004, yn dweud y byddai gwneud hynny yn arwain at "ganlyniadau ymarferol cymhleth".[74]

Gwahaniaethu[golygu | golygu cod]

Mae amryw o wledydd drwy hanes wedi anghyfreithloni hunaniaethau trawsrywedd ac anneuaidd.[75] Yn India, anghyfreithlonwyd hijras a hunaniaethau anneuaidd eraill o dan Ddeddf Llwythau Troseddol 1871 ymlaen, yn cyfeirio at unigolion o'r fath fel "castiau troseddol".[76]

Yn yr Unol Daleithiau, dewisodd y mwyafrif o'r ymatebwyr i Arolwg Gwahaniaethu Trawsrywedd Cenedlaethol "rywedd na restrwyd yma". Roedd ymatebwyr "rhywedd na restrwyd yma" yn naw pwynt canran yn fwy tebygol i dweud mynd heb ofal iechyd oherwydd ofni gwahaniaethu na'r sampl gyffredinol (36 y cant o gamharu â 27 y cant). Dywedodd naw deg y cant eu bod yn profi rhagfarn wrth-draws yn y gweithle, a 43 y cant eu bod wedi ceisio eu lladd eu hunain.[77]

Dywedodd y rhan fwyaf fod y gwahanieathu a wynebwyd gan bobl anneuaidd yn aml yn cynnwys diystyriaeth, anghrediniaeth, rhyngweithiadau nawddoglyd ac amharch.[70] Hefyd, gwelwyd pobl anneuaidd yn aml fel y maent yn cymryd rhan mewn trend ac felly fe'u bernir yn annidwyll neu fynnu sylw.[70]

Hefyd, problem bod llawer o unigolion yn ei hwynebu yw camryweddu, boed yn fwriadol neu'n anfwriadol. Yn achos camryweddu bwriadol, trawsffobia yw'r grym y tu ôl iddo. Hefyd, trinnir defnydd rhagenwau nhw/eu fel rhan o'r pwnc, mwy a dadleuol, am leoedd diogel a chywirdeb gwleidyddol,[78] yn achosi i rai unigolion wrthio yn ôl a chamryweddu yn fwriadol. Yn achos camryweddu anfwriadol, disgwylir i'r person a gamryweddwyd gysuro a maddau'r person a wnaeth y camgymeriad.[79]

Symbolau a dathliadau[golygu | golygu cod]

Anjali Gopalan a Gopi Shankar Madurai yn agor Gorymdaith Balchder Genderqueer cyntaf Asia ym Madurai gyda baner enfys a genderqueer[80][81]

Defnyddiwyd llawer o faneri mewn cymunedau anneuaidd a genderqueer er mwyn cynrychioli amryw o hunaniaethau. Ceir baneri anneuaidd a genderqueer gwahanol. Dyluniwyd baner balchder genderqueer yn 2011 gan Marilyn Roxie. Mae lafant yn cynrychioli androgynedd neu gwiarwydd, mae gwyn yn cynrychioli hunaniaeth anrhywedd, ac mae gwyrdd yn cynrychioli'r rheini sydd â hunaniaethau a ddiffinir y tu allan i'r deuaidd.[82][83][84] Crëwyd baner balchder anneuaidd yn 2014 gan Kye Rowan.[85] Mae melyn yn cynrychioli pobl sydd â rhywedd y tu allan i'r deuaidd, mae porffor yn cynrychioli'r rheini sydd â rhywedd sy'n gymysgedd o – neu rwng – wryw a benyw, mae du yn cynrychioli pobl nad yw â rhywedd, ac mae gwyn yn cynrychioli'r rheini sy'n cofleidio llawer neu bob rhywedd.[86]

Mae gan bobl genderfluid, sydd hefyd yn dod o dan yr ymbarél anneuaidd, eu baner eu hunain hefy. Mae pinc yn cynrychioli benyweidd-dra, mae porffor yn cynrychioli rhywedd cymysg neu androgynedd, mae du yn cynrychioli pob rhywedd arall, ac mae glas yn cynrychioli gwryweidd-dra.[83][87]

Mae pobl anrhyweddol, sydd weithiau yn uniaethu'n anneuaidd neu genderqueer, eu baner eu hunain. Mae'r faner hon yn defnyddio streipiau du a gwyn i gynrychioli absenoldeb rhywedd, ac mae gwyrdd yn cynrychioli rhyweddau anneuaidd.[88]

Dathlir Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anneuaidd ar 14 Gorffennaf.[89][90][91][92]

Trans pride flag, made up of horizontal stripes of (from top to bottom) light blue, pink, white (which represents nonbinary people), pink and light blue.
Baner balchder trawsrywedd, lle mae gwyn yn cynrychioli pobl anneuaidd[93][94]
Baner balchder trawsrywedd, lle mae gwyn yn cynrychioli pobl anneuaidd[93][94] 
Agender pride flag, made up of horizontal stripes of, from top to bottom, black, grey, white, green, white, grey, and black.
Baner balchder anrhywedd
Baner balchder anrhywedd 
Bigender pride flag, made up of horizontal stripes of, from top to bottom, pink, light pink, lavender, white, light blue, and blue.
Baner balcher deurywedd
Baner balcher deurywedd 
Genderfluid pride flag, made up of horizontal stripes of, from top to bottom, pink, white, purple, black, and blue.
Baner balchder genderfluid
Baner balchder genderfluid 
Genderqueer pride flag, made up of three horizontal stripes, which are, from top to bottom, purple, white, and green.
Baner balchder genderqueer
Baner balchder genderqueer 
Non-binary pride flag, made up of four horizontal stripes, which are, from top to bottom, yellow, white, purple, and black.
Baner balchder anneuaidd
Baner balchder anneuaidd 
Upside down female symbol with an x instead of a cross.
Symbol rhywedd anneuaidd
Symbol rhywedd anneuaidd 

Ffigurau poblogaeth[golygu | golygu cod]

Yn ôl astudiaeth 2021 gan y Williams Institute, amcangyfrifir bod 1.2 miliwn o Americanwyr yn uniaethu'n anneuaidd, yn ffurfio 11% o'r boblogaeth oedolion LHDT yn yr Unol Daleithiau.[95]

Dangosodd arolwg 2019 o'r boblogaeth ddau-enaid ac LHDTC+ yn ninas Ganadaidd Hamilton, Ontario, o'r enw Mapping the Void: Two-Spirit and LGBTQ+ Experiences in Hamilton, bod 19% o'r ymatebwyr yn uniaethu'n anneuaidd.[96]

Darganfu arolwg 2017 o Ganadiaid LHDT+ o'r enw LGBT+ Realities Survey fod 4% o'r 1,897 o ymatebwyr yn uniaethu'n drawsryweddol anneuaidd a bod 1% yn uniaethu'n anneuaidd y tu allan i ymbarél trawsrywedd.[97]

Yn ôl Report of the 2015 U.S. Transgender Survey, mae 35% o blith bron i 28,000 o ymatebwyr trawsrwyedd i'r arolwg dienw ar lein yn uniaethu'n anneuaidd.[98][99]

Darganfu arolwg 2011 a gynhaliwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn y DU fod 0.4% o'r 10,039 o ymatebwyr yn uniaethu'n anneuaidd. Ni chaniateir casglu am gyfran pobl anneuaidd yn y boblogaeth gyfan, gan nad yw sampl yr arolwg yn gynrychiadol o reidrwydd. Profi a yw ymatebwyr yn fodlon ateb cwestiynau am eu statws trawsrywiol oedd y pwrpas[100]

See also[golygu | golygu cod]

Chwiliwch am anneuaidd
yn Wiciadur.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Richards, Christina; Bouman, Walter Pierre; Seal, Leighton; Barker, Meg John; Nieder, Timo O.; T'Sjoen, Guy (2016). "Non-binary or genderqueer genders" (yn Saesneg). International Review of Psychiatry 28 (1): 95–102. doi:10.3109/09540261.2015.1106446. PMID 26753630. https://biblio.ugent.be/publication/7279758. Adalwyd 9 June 2019.
  2. 2.0 2.1 "Supporting & Caring for Transgender Children" (PDF) (yn Saesneg). Ymgyrch Hawliau Dynol. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-07-24. Cyrchwyd 8 Ebrill 2021.
  3. "Trans + Gender Identity". The Trevor Project (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 July 2018. Cyrchwyd Hydref 11, 2019.
  4. Bergman, S. Bear; Barker, Meg-John (2017). "Non-binary Activism". In Richards, Christina; Bouman, Walter Pierre; Barker, Meg-John (gol.). Genderqueer and Non-Binary Genders. Critical and Applied Approaches in Sexuality, Gender and Identity (yn Saesneg). Palgrave Macmillan. t. 43. ISBN 978-1-137-51052-5.
  5. 5.0 5.1 Bosson, Jennifer K.; Vandello, Joseph A.; Buckner, Camille E. (2018). The Psychology of Sex and Gender (yn Saesneg). Thousand Oaks, California: Sage Publications. t. 54. ISBN 978-1-5063-3134-8. OCLC 1038755742. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 May 2020. Cyrchwyd 4 August 2019.
  6. 6.0 6.1 Whyte, Stephen; Brooks, Robert C.; Torgler, Benno (25 September 2018). "Man, Woman, "Other": Factors Associated with Nonbinary Gender Identification" (yn en). Archives of Sexual Behavior (Heidelberg, Germany: Springer Science+Business Media) 47 (8): 2397–2406. doi:10.1007/s10508-018-1307-3. PMID 30255409. "2 out of 7479 (0.03 percent) of respondents to the Australian Sex Survey, a 2016 online research survey, self-identified as trigender."
  7. Winter, Claire Ruth (2010). Understanding Transgender Diversity: A Sensible Explanation of Sexual and Gender Identities (yn Saesneg). Scotts Valley, California: CreateSpace. ISBN 978-1-4563-1490-3. OCLC 703235508.
  8. Beemyn, Brett Genny (2008). "Genderqueer". glbtq: An Encyclopedia of Gay, Lesbian, Bisexual, Transgender, and Queer Culture (yn Saesneg). Chicago, Illinois: glbtq, Inc. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 April 2012. Cyrchwyd 3 May 2012.
  9. "Transgender Glossary of Terms". GLAAD Media Reference Guide (yn Saesneg). Gay & Lesbian Alliance Against Defamation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 June 2012. Cyrchwyd 25 May 2011.
  10. Stryker, Susan (2008). Transgender History (yn Saesneg). Berkeley, California: Seal Press. ISBN 978-1-58005-224-5. OCLC 183914566.
  11. 11.0 11.1 Schorn, Johanna. "Taking the "Sex" out of Transsexual: Representations of Trans Identities in Popular Media" (PDF). Inter-Disciplinary.Net. Cologne, Germany: University of Cologne. t. 1. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 25 Hydref 2014. Cyrchwyd 23 Hydref 2014. The term transgender is an umbrella term "and generally refers to any and all kinds of variation from gender norms and expectations" (Stryker 19). Most often, the term transgender is used for someone who feels that the sex assigned to them at birth does not reflect their own gender identity. They may identify as the gender ‘opposite’ to their assigned gender, or they may feel that their gender identity is fluid, or they may reject all gender categorizations and identify as agender or genderqueer.
  12. Hendrie, Theo, gol. (2019). X Marks the Spot: An Anthology of Nonbinary Experiences. t. 238. ISBN 978-1-0809-6803-9.
  13. Dahir, Mubarak (25 May 1999). "Whose Movement Is It?". The Advocate. San Francisco, California: Here Media. t. 52.
  14. Shaw, Susan; Lee, Janet (April 23, 2014). Women's voices, feminist visions : classic and contemporary readings (arg. Sixth). New York. ISBN 978-0-07-802700-0. OCLC 862041473.
  15. Girshick, Lori B. (2008). Transgender Voices: Beyond Women and Men. Hanover, New Hampshire: University Press of New England. ISBN 978-1-58465-645-6. OCLC 183162406.
  16. Shaw, Susan M.; Lee, Janet (2015). Women's Voices, Feminist Visions (arg. 6). New York City: McGraw-Hill Education.
  17. Walsh, Reuben (December 2010). "More T, vicar? My experiences as a genderqueer person of faith". All God's Children. Cyf. 2 rhif. 3. Lesbian and Gay Christian Movement.
  18. "Understanding Non-Binary People: How to Be Respectful and Supportive". National Center for Transgender Equality. July 9, 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 April 2020. Cyrchwyd 2020-06-17.
  19. Sheridan, Vanessa (2018). Transgender in the Workplace: The Complete Guide. t. 11. ISBN 978-1440858062.
  20. Hope, Sam (2019). Person-Centred Counselling for Trans and Gender Diverse People. London, England: Jessica Kingsley Publishers. t. 218. ISBN 978-1784509378.
  21. Vargo, Marc E. (30 November 2011). "A Review of Please select your gender: From the invention of hysteria to the democratizing of transgenderism". Journal of GLBT Family Studies 7 (5): 2 (493). doi:10.1080/1550428X.2011.623982. ISSN 1550-4298. "up to three million U. S. citizens regard themselves as transgender, a term referring to those whose gender identities are at odds with their biological sex. The term is an expansive one, however, and may apply to other individuals as well, from the person whose behavior purposely and dramatically diverges from society's traditional male/female roles to the "agender", "bigender" or "third gender" person whose self-definition lies outside of the male/female binary altogether. In short, those counted under this term constitute a wide array of people who do not conform to, and may actively challenge, conventional gender norms."
  22. Cronn-Mills, Kirstin (2014). "IV. Trans*spectrum. Identities". Transgender Lives: Complex Stories, Complex Voices. Minneapolis, Minnesota: Twenty-First Century Books. t. 24. ISBN 978-1-4677-4796-7. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 April 2019. Cyrchwyd 23 October 2014. Many different individuals fall under what experts call the trans* spectrum, or the trans* umbrella."I'm trans*" and "I'm transgender" are ways these individuals might refer to themselves. But there are distinctions among different trans* identities. [...] Androgynous individuals may not identify with either side of the gender binary. Other individuals consider themselves agender, and they may feel they have no gender at all.
  23. "Supporting and Caring for our Gender-Expansive Youth" (PDF). Human Rights Campaign. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar January 29, 2016. Cyrchwyd May 21, 2021.
  24. "LGBTQ Needs Assessment" (PDF). Encompass Network. April 2013. tt. 52–53. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 24 October 2014. Cyrchwyd 18 October 2014.
  25. "Gender alphabet" (PDF). Safe Homes. t. 1. Archifwyd (PDF) o'r gwreiddiol ar 15 April 2015. Cyrchwyd 18 October 2014.
  26. Vargo, Marc E. (2011). "A Review of "Please select your gender: From the invention of hysteria to the democratizing of transgenderism"". Journal of GLBT Family Studies 7 (5): 493–494. doi:10.1080/1550428x.2011.623982.
  27. Cronn-Mills, Kirstin (2014). Transgender Lives: Complex Stories, Complex Voices. Twenty-First Century Books. ISBN 978-1-4677-4796-7. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 December 2016. Cyrchwyd 3 February 2016.
  28. Schorn, Johanna (22 February 2016). Taking the "Sex" out of Transsexual: Representations of Trans Identities in Popular Media.
  29. Anne Enke, gol. (2012). "Note on terms and concepts". Transfeminist Perspectives In and Beyond Transgender and Gender Studies. Temple University Press. tt. 16–20 [18–19]. ISBN 978-1-4399-0748-1.
  30. Sojwal, Senti (16 September 2015). "What Does "Agender" Mean? 6 Things To Know About People With Non-Binary Identities". Bustle. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 February 2016. Cyrchwyd 22 February 2016.
  31. Edwards, Ruth Dudley (August 17, 2014). "Asexual, bigender, transexual or cis, can't we all just be kind to each other?". The Independent. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 December 2019. Cyrchwyd December 18, 2019.
  32. Persio, Sofia Lotto (June 16, 2017). "Oregon becomes first state to allow option "X" to end gender binary". Newsweek. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 December 2019. Cyrchwyd December 18, 2019.
  33. "Everything you ever wanted to know about being nonbinary". The Daily Dot. September 28, 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 September 2019. Cyrchwyd December 18, 2019.
  34. "Billy Dee Williams: What is gender fluid?". Monsters and Critics. December 2, 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 December 2019. Cyrchwyd December 18, 2019.
  35. "This is the term for people who aren't exclusively male or female". PinkNews. April 26, 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 December 2019. Cyrchwyd December 18, 2019.
  36. "Sexual orientation and gender identity". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 January 2020. Cyrchwyd 2019-12-18.
  37. Clements, K. San Francisco Department of Public Health Archifwyd 15 September 2006 yn y Peiriant Wayback., 1999
  38. "EEOC now gives nonbinary people a way to be counted in workplace". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 December 2019. Cyrchwyd December 18, 2019.
  39. "Accelerating Acceptance 2017" (PDF). GLAAD. Archifwyd (PDF) o'r gwreiddiol ar 6 January 2020. Cyrchwyd 27 December 2019.
  40. Bosson, Jennifer K.; Vandello, Joseph A.; Buckner, Camille E. (2018-01-17). The Psychology of Sex and Gender (yn Saesneg). SAGE Publications. ISBN 978-1-5063-3134-8.
  41. Gibson, Sarah; Fernandez, J. (2018). Gender Diversity and Non-Binary Inclusion in the Workplace: The Essential Guide for Employers. London: Jessica Kingsley Publishers. t. 25. ISBN 978-1-78450-523-3.
  42. 42.0 42.1 Brill, Stephanie; Kenney, Lisa (2016). The Transgender Teen. Berkeley, California: Cleis Press. ISBN 978-1627781749.
  43. Ginicola, Misty M.; Smith, Cheri; Filmore, Joel M. (2017-02-10). Affirmative Counseling with LGBTQI+ People (yn Saesneg). John Wiley & Sons. t. 366. ISBN 978-1-119-37549-4.
  44. "Queer Undefined". Queer Undefined. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 January 2021. Cyrchwyd October 10, 2020.
  45. 45.0 45.1 Cronn-Mills, Kirstin (2015). Transgender Lives: Complex Stories, Complex Voices. Minneapolis, Minnesota: Twenty-First Century Books. t. 24. ISBN 978-0-7613-9022-0.
  46. McGuire, Peter (9 November 2015). "Beyond the binary: what does it mean to be genderfluid?". The Irish Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 November 2015. Cyrchwyd 1 December 2015.
  47. Ferguson, Sian (11 June 2020). "What Does It Mean to Be Gender Fluid?". Healthline (yn Saesneg). Cyrchwyd 23 June 2021.
  48. Mardell, Ashley (2016). The ABC's of LGBT+. Coral Gables, Florida: Mango Media Inc. t. 96. ISBN 978-1-63353-408-7. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 August 2020. Cyrchwyd 14 December 2019.
  49. 49.0 49.1 49.2 49.3 Tobia, Jacob (7 November 2018). "InQueery: The History of the Word 'Genderqueer' As We Know It". them (yn Saesneg). Condé Nast. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 April 2020. Cyrchwyd 18 February 2020.
  50. Bornstein, Kate (2013). Gender Outlaw: On Men, Women and the Rest of Us (yn Saesneg). Abingdon, England: Routledge. ISBN 978-1-136-60373-0. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 March 2021. Cyrchwyd 19 October 2020.
  51. Wilchins, Riki (14 March 2017). "Get to Know the New Pronouns: They, Theirs, and Them". Pride (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 February 2020. Cyrchwyd 18 February 2020.
  52. 52.0 52.1 "Genderqueer History". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 November 2018. Cyrchwyd 2 November 2018.
  53. Wilchins, Riki (Spring 1995). "A Note from your Editrix". In Your Face (1): 4. http://www.gendertalk.com/pubs/InYourFace1.pdf. Adalwyd 18 February 2020.
  54. Nestle, Joan; Howell, Clare; Wilchins, Riki Anne, gol. (2002). GenderQueer : voices from beyond the sexual binary (arg. 1st). New York: Alyson Books. ISBN 978-1-55583-730-3. OCLC 50389309.
  55. Quart, Alissa (March 16, 2008). "When Girls Will Be Boys". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 December 2019. Cyrchwyd December 9, 2019.
  56. Nast, Condé. "Do You Know What It Means to Be Genderqueer?". them. (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 April 2020. Cyrchwyd December 9, 2019.
  57. "About Us – Intersex & Genderqueer Recognition Project (IGRP)". igrp (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 April 2020. Cyrchwyd December 9, 2019.
  58. O'Hara, Mary Emily (December 16, 2016). "Movement for third gender option 'exploding' in U.S." NBC News (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 October 2019. Cyrchwyd December 9, 2019.
  59. 59.0 59.1 "Gender Census 2021: Worldwide Report". Gender Census. 1 April 2021. Cyrchwyd 16 April 2021.
  60. "Geirfa Stonewall Cymru". Cymru. 2016-10-18. Cyrchwyd 2021-07-22.
  61. Nodyn:Cite thesis
  62. Marcus, Ezra (2021-04-08). "A Guide to Neopronouns". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2021-04-30.
  63. Feinberg, Leslie (1996). Transgender Warriors: Making History from Joan of Arc to Dennis Rodman. Boston, Massachusetts: Beacon Press. ISBN 978-0-8070-7940-9. OCLC 33014093.
  64. Pearce, Ruth (21 July 2011). "Non-gendered titles see increased recognition". Lesbilicious. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 September 2019. Cyrchwyd 29 August 2012.
  65. "Pakistani eunuchs to have distinct gender". BBC News. December 23, 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 May 2020. Cyrchwyd 2009-12-23.
  66. "Newsletter of the Sociology of Sexualities Section of the American Sociological Association". American Sociological Association Sexualities News 6 (1). Summer 2003. http://www.asanet.org/sectionsex/documents/SUMMER03sexnews.pdf. Adalwyd 9 December 2013.
  67. "In India, Landmark Ruling Recognizes Transgender Citizens". NPR.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-30.
  68. "Alberto Fernández pone en marcha el DNI para personas no binarias en un paso más por la igualdad de género". www.clarin.com (yn Sbaeneg). Cyrchwyd 2021-07-26.
  69. Westfall, Sammy (22 July 2021). "Argentina rolls out gender-neutral ID". The Washington Post (yn Saesneg). Cyrchwyd 27 July 2021.
  70. 70.0 70.1 70.2 70.3 70.4 70.5 "They, Them, and Theirs". harvardlawreview.org (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 December 2019. Cyrchwyd 2019-12-09.
  71. Cecka, Dale Margolin; Chamallas, Martha (2016). "Price Waterhouse v. Hopkins, 490 U.S. 228 (1989)". Feminist Judgments. Feminist Judgments: Rewritten Opinions of the United States Supreme Court (yn Saesneg). tt. 341–360. doi:10.1017/cbo9781316411254.020. ISBN 978-1-107-12662-6.
  72. Bowcott, Owen (10 March 2020). "Lack of gender-neutral passports is lawful for now, says appeal court". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 14 July 2020.
  73. "Gender is a Spectrum: Landmark UK Ruling Expands the Equality Act". JD Supra (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-07-31.
  74. "Non-binary legal recognition too 'complex' to introduce, government says" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-07-31.
  75. Wareham, Jamie. "New Report Shows Where It's Illegal To Be Transgender In 2020". Forbes (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-30.
  76. Reddy, Gayatri (2005). With respect to sex : negotiating hijra identity in South India. Chicago: University of Chicago Press. tt. 26–27. ISBN 0-226-70755-5. OCLC 55887296.
  77. Harrison, Jack; Grant, Jaime; Herman, Jody L. "A Gender Not Listed Here: Genderqueers, Gender Rebels, and OtherWise in the National Transgender Discrimination Survey" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 25 Gorffennaf 2012. Cyrchwyd 29 Ebrill 2013.
  78. Richards, Christina; Bouman, Walter Pierre; Barker, Meg-John (2017). Genderqueer and Non-Binary Genders (yn Saesneg). Springer. ISBN 978-1-137-51053-2. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 March 2021. Cyrchwyd 19 October 2020.
  79. "Introducing myself as 'they/them/their' at my workplace". Public Radio International (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 December 2019. Cyrchwyd 2019-12-09.
  80. "One Who Fights For an Other". The New Indian Express. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 September 2016. Cyrchwyd 11 May 2015.
  81. "Worldwide gay rights as a social movement picks up". merinews.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 August 2017. Cyrchwyd 2017-05-12.
  82. Deater, Lynn (April 29, 2015). "He, She or They? » The Commuter". ncccommuter.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 December 2016. Cyrchwyd December 20, 2016.
  83. 83.0 83.1 "Flags and Symbols" (PDF). www.amherst.edu. Amherst, Massachusetts: Amherst University. Archifwyd (PDF) o'r gwreiddiol ar 10 May 2017. Cyrchwyd December 20, 2016.
  84. "Gender and Sexuality Awareness Flags". David Mariner (yn Saesneg). 2015-10-26. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 February 2017. Cyrchwyd 2016-12-20.
  85. "8 Things Non-Binary People Need to Know". Let's Queer Things Up!. 2015-03-15. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 December 2016. Cyrchwyd 2016-12-20.
  86. "After counting up all the 'votes' for each variation of my nonbinary flag (to be separate from the genderqueer flag), it seems this is the most loved! Yay!". genderweird. Tumblr. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 June 2018. Cyrchwyd 24 June 2018.
  87. "Gender-fluid added to the Oxford English Dictionary". LGBTQ Nation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 October 2016. Cyrchwyd 2016-12-20.
  88. Manzella, Samantha (2017-10-07). "Beyond The Rainbow: Your Guide To LGBT Flags". NewNowNext. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Mehefin 2018. Cyrchwyd 2018-06-25.
  89. Mathers, Charlie (2018-07-13). "Prepare for International Non-binary Day by learning how to be a better ally". Gay Star News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 July 2018. Cyrchwyd 14 July 2018.
  90. Hirst, Jordan (2018-07-10). "Inclusive Brisbane Party To Mark International Non-Binary Day". QNEWS Magazine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 July 2018. Cyrchwyd 14 July 2018.
  91. "Important LGBT Dates". LGBT LifeWestchester. White Plains, NY. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 June 2019. Cyrchwyd 12 June 2019.
  92. "International Non-Binary People's Day". Pride Inclusion Programs (yn Saesneg). acon. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 August 2019. Cyrchwyd 12 June 2019.
  93. Gray, Emma; Vagianos, Alanna (July 27, 2017). "We Have A Navy Veteran To Thank For The Transgender Pride Flag". Huffington Post. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 September 2018. Cyrchwyd 2017-08-31.
  94. LB, Branson (July 26, 2017). "The Veteran Who Created The Trans Pride Flag Reacts To Trump's Trans Military Ban". Buzzfeed. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 September 2018. Cyrchwyd 2018-08-31.
  95. Wilson, Bianca D.M.; Meyer, Ilan H. (June 2021). "Nonbinary LGBTQ Adults in the United States". Williams Institute. Cyrchwyd 25 June 2021.
  96. "Mapping the Void: Two-Spirit and LGBTQ+ Experiences in Hamilton" (PDF). 11 Jun 2019. Archifwyd (PDF) o'r gwreiddiol ar 3 July 2019. Cyrchwyd 19 July 2019.
  97. "The values, needs and realities of LGBT people in Canada in 2017". 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 July 2019. Cyrchwyd 27 July 2019.
  98. Cummings, William (June 21, 2017). "When asked their sex, some are going with option 'X'". USA Today (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 February 2019. Cyrchwyd January 30, 2019.
  99. "The Report of the 2015 U.S. Transgender Survey" (PDF). National Center for Transgender Equality. 2016. t. 45. Archifwyd (PDF) o'r gwreiddiol ar 9 May 2018. Cyrchwyd 30 May 2019.
  100. Glen, Fiona; Hurrell, Karen (2012). "Technical note: Measuring Gender Identity" (PDF). Equality and Human Rights Commission. Archifwyd (PDF) o'r gwreiddiol ar 2 August 2019. Cyrchwyd 30 May 2019.