Rhyfela athreuliol
Jump to navigation
Jump to search
Eginyn erthygl sydd uchod am ryfel neu wrthdaro milwrol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Mae "rhyfel athreuliol" yn ailgyfeirio i'r erthygl hon. Am y rhyfel rhwng Israel a'r Aifft, gweler Y Rhyfel Athreuliol.

Criw o filwyr Prydeinig wrth wn peiriant Vickers ar Ffrynt y Gorllewin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Bu dwy ochr y ffrynt hwn yn aros mewn ffosydd ar naill ochr tir neb, heb y gallu i fanwfro. Mabwysiadodd y cadfridogion strategaeth o mynd dros ben y ffosydd ac ymosod yn benben, er bu'r ochr arall yn barod i beri nifer o golledigion ag artileri.
Strategaeth filwrol yw rhyfela athreuliol[1] sydd yn defnyddio athreuliad er mwyn ceisio gorchfygu'r gelyn. Mae'r ochr sy'n defnyddio'r strategaeth hon yn brwydro'r ochr arall yn raddol nes iddynt methu o ganlyniad i golledigion parhaol o luoedd ac adnoddau milwrol. Yn ôl damcaniaethwyr milwrol clasurol megis Sun Tzu mae rhyfela athreuliol yn groes i egwyddorion traddodiadol "celfyddyd y cadfridog", sydd yn pwysleisio manwfro, crynhoi lluoedd, cudd-ymosod, twyll ac ati. Er hyn ceir athreuliad trwy gydol hanes rhyfel, yn aml er mwyn niwtralu gelyn sydd â mantais dactegol.
Enghreifftiau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Strategaeth Ffabaidd Fabius Maximus yn erbyn Hannibal yn ystod yr Ail Ryfel Pwnig
- Goresgyniad Rwsia gan Ffrainc
- Ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf
- Rhyfel Fietnam, yn enwedig strategaeth chwilio a dinistrio
- Y Rhyfel Athreuliol
- Rhyfel yr Undeb Sofietaidd yn Afghanistan
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
- Buddugoliaeth Byrrhig
- Cyfrif cyrff
- Cyfwynebiad Mecsicanaidd
- Rhyfela herwfilwrol
- Ymosodiad ton ddynol
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 84 [war of attrition].
