Rhyfel Israel a'r Unol Daleithiau yn erbyn Iran
| Mae'r erthygl hon yn cofnodi mater cyfoes. Gall y wybodaeth sydd ynddi newid o ddydd i ddydd. |
| Enghraifft o: | gweithrediad milwrol, air offensive, warfare and armed conflicts, crime of aggression |
|---|---|
| Dyddiad | 2026 |
| Lladdwyd | 4,859, 1,444, 15, 13, 687 |
| Rhan o | Argyfwng y Dwyrain Canol (2023-presennol), Iran–Israel conflict |
| Dechreuwyd | 28 Chwefror 2026 |
| Daeth i ben | 8 Ebrill 2026 |
| Rhagflaenwyd gan | Y Rhyfel Deuddeng Niwrnod |
| Lleoliad | Tehran, Qom, Kermanshah, Isfahan, Karaj, Bushehr, Minab, Unol Daleithiau America, Israel, Iran, Ray |
| Yn cynnwys | assassination of Ali Khamenei, Cyrch Minab, 2026 drone strikes on Akrotiri and Dhekelia, 2026 Iranian strikes on Kuwait, 2026 Iranian strikes on Saudi Arabia, 2026 Iranian strikes on the United Arab Emirates, 2026 Iranian strikes on Bahrain, 2026 Lebanon war, 2026 Iranian strikes on Qatar, 2026 alleged Iranian strikes on Azerbaijan |
| Gwladwriaeth | Iran |
| Rhanbarth | Tehran, Qom, Talaith Kermanshah, Karaj, Isfahan, Tabriz, Talaith Ilam, Lorestān (talaith) |
| Dynodwyr | |
Cychwynnodd Rhyfel Iran ar 28 Chwefror 2026, pan lansiodd Israel ac Unol Daleithiau America gyrchoedd awyr annisgwyl yn erbyn dinasoedd a thargedau ar draws Iran, gan ladd y Goruchaf Arweinydd Ali Khamenei a nifer o wleidyddion a swyddogion milwrol eraill. Ymatebodd Iran gyda chyrchoedd taflegrau a dronau yn erbyn Israel, canolfannau milwrol yr Unol Daleithiau yn y Dwyrain Canol, a gwladwriaethau Arabaidd y Gwlff.
Rhagflaenwyd y rhyfel hwn gan ryfel trwy ddirprwy rhwng Iran ac Israel a barodd ers 1985, ac a drodd yn "rhyfel poeth" yn y Rhyfel Deuddeng Niwrnod ym Mehefin 2025. Cynyddodd tensiynau eto yn 2026 yn sgil protestiadau yn erbyn llywodraeth Iran, a chyflafanau o wrthdystwyr a gondemniwyd gan yr Unol Daleithiau a gwledydd eraill. Ar 28 Chwefror, lansiwyd cyrchoedd awyr gan Luoedd Amddiffyn Israel (IDF) a Lluoedd Arfog yr Unol Daleithiau yn erbyn targedau ar draws Iran. Cyhoeddodd Israel Katz, Gweinidog Amddiffyn Israel, bod Israel bellach mewn "cyflwr o argyfwng arbennig a pharhaol", a datganodd Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau, mai bwriad yr ymgyrch filwrol oedd i amddiffyn pobl ei wlad rhag bygythiad Iran.[1] Lansiodd Iran ymosodiadau ar Israel i dalu'r pwyth yn ôl, ac hefyd ar canolfan Pumed Fflyd Llynges yr Unol Daleithiau ym Mahrain a thargedau eraill yn yr Emiradau Arabaidd Unedig, Catar, Gwlad Iorddonen, a Choweit.[2]
Datblygodd ffrynt ychwanegol yn y rhyfel wedi i Hezbollah, grŵp milwriaethus yn Libanus sy'n cael ei gefnogi gan Iran, danio taflegrau at ogledd Israel i ddial am farwolaeth Ali Khamenei. Ymatebodd Israel ar unwaith gan anfon lluoedd dros y ffin i Libanus.[3] Ar 9 Mawrth, penodwyd Mojtaba Khamenei, mab Ali, yn arweinydd newydd y wlad.[4]
Mae union niferoedd y meirw a'r clwyfedigion yn ansicr, ond mae'n debyg bod miloedd wedi marw ar draws y Dwyrain Canol. Mae'r rhyfel wedi effeithio'n sylweddol ar bris olew, o ganlyniad i rwystrau Iran ar longai yn llifo drwy Gulfor Hormuz. Ar 12 Mawrth, cynnyddodd pris olew crai i dros $100 y gasgen am yr eildro ers cychwyn y rhyfel yn sgil ymosodiadau gan Iran ar danceri olew yn y Gwlff.[5]
Ar 8 Ebrill cytunodd Iran, yr Unol Daleithiau, ac Israel i gadoediad, wedi ei gyflafareddu gan Bacistan, am bythefnos.[6]
Hynt y rhyfel
[golygu | golygu cod]Yr wythnos gyntaf (28 Chwefror – 6 Mawrth)
[golygu | golygu cod]Ar 27 Chwefror, 20:38Z,[7] wrth deithio ar awyren Air Force One i Corpus Christi, Texas, gorchmynnodd Donald Trump i Luoedd Arfog yr Unol Daleithiau cychwyn ar Operation Epic Fury. Trannoeth, oddeutu 06:15Z[8] (canol bore yn Iran), dechreuodd lluoedd yr Unol Daleithiau ac Israel gynnal ymosodiadau ar y cyd yn erbyn Iran.[9] Digwyddodd y cyrchoedd yn ystod negodiadau ynglŷn â rhaglen niwclear Iran, ac yng nghanol mis sanctaidd Ramadan, pan fydd Mwslimiaid yn ymprydio o wawr hyd fachlud haul.[10]
Rhoddwyd yr enw Ymgyrch Rhuo'r Llew ar yr ymosodiadau gan Israel (cymharer ag Ymgyrch Codi'r Llew yn 2025). Cyhoeddodd Awyrlu Israel (IAF) ei fod wedi taro 500 o dargedau milwrol yng ngorllewin a chanolbarth Iran, y sortie fwyaf o'i math yn hanes y llu.[11] Targedwyd hefyd llongau o Lynges Iran. Yn ôl Israel, defnyddiwyd uwch na 1,200 o fomiau o fewn 24 awr gyntaf yr ymosodiadau. Cyhoeddodd swyddog o'r Unol Daleithiau fod degau o gyrchoedd wedi eu cyflawni gan awyrennau o ganolfannau milwrol y wlad yn y Dwyrain Canol ac o leiaf un cludydd awyrennau.
Roedd yr ymosodiadau'n targedu cyfleusterau taflegrau ac amddiffynfeydd awyr, seilwaith milwrol arall, ac arweinwyr Iran. Yn ôl swyddogion yr Unol Daleithiau ac Israel, roedd amseriad yr ymosodiad cychwynnol yn rhannol gysylltiedig â'r gallu i dargedu Ali Khamenei, Goruchaf Arweinydd Iran, cyn iddo fynd i guddio. Lladdwyd Khamenei yn y don gyntaf o ymosodiadau ar 28 Chwefror, gan gyrch awyr o Israel, ynghyd â degau o swyddogion uchaf eraill y wlad.[12] Creodd yr ymosodiadau ddadlau ar unwaith pan adroddwyd bod ysgol i ferched ym Minab, tref i'r dwyrain o Bandar Abbas, wedi'i tharo, gan ladd 156 o bobl, y mwyafrif ohonynt yn blant. Credir mai lluoedd yr Unol Daleithiau a gynhaliodd y cyrchoedd, yn ôl ymchwiliad rhagarweiniol gan fyddin yr Unol Daleithiau, tra'n targedu adeiladau cyfagos a oedd yn perthyn i ganolfan lyngesol yr IRGC.
Ymatebodd Iran gan lansio taflegrau a dronau yn erbyn Israel a chanolfannau milwrol yr Unol Daleithiau yn y Dwyrain Canol, gan gynnnwys Catar, Coweit, a'r Emiradau Arabaidd Unedig. Ar 1 Mawrth bu farw chwe milwr wedi cyrch drôn ym Mhorthladd Shuaiba, Coweit, y lluoedd Americanaidd cyntaf i farw yn y rhyfel.
Ar 4 Mawrth, cafodd y ffrigad IRIS Dena ei suddo gan dorpido o'r USS Charlotte mewn dyfroedd rhyngwladol ger arfordir deheuol Sri Lanca, gan ladd o leiaf 87 o aelodau Llynges Iran. Dyma'r llong gyntaf i gael ei suddo gan long danfor niwclear mewn rhyfel ers 1982.
Wrth i wythnos gyntaf y rhyfel ddod i ben, bu'r Arlywydd Trump yn ymorchestu mewn y brwydro, ac yn honni bod lluoedd yr Unol Daleithiau ac Israel yn "llwyr ddinistrio" Iran. Ar 6 Mawrth datganodd Pete Hegseth, Ysgrifennydd Amddiffyn yr Unol Daleithiau, y bydd ymgyrch filwrol ei wlad yn erbyn Iran yn "tyfu'n sylweddol" ac yn "dwysáu yn gyflym".[13]
Yr ail wythnos (7–13 Mawrth)
[golygu | golygu cod]Ar 8 Mawrth, cyhoeddwyd Mojtaba Khamenei yn oruchaf arweinydd newydd Iran.
Ar 11 Mawrth, cynnyddodd Iran ei hymgyrch yng Nghulfor Hormuz, a thrannoeth, cyhoeddodd Khamenei ei ddatganiad ysgrifenedig cyntaf fel goruchaf arweinydd, gan gyfarwyddo'r lluoedd arfog i rwystro Culfor Hormuz.
Ar 13 Mawrth, cafwyd cyrchoedd i fomio Ynys Kharg gan luoedd yr Unol Daleithiau.
Y drydedd wythnos (14–20 Mawrth)
[golygu | golygu cod]Ar 17 Mawrth lladdwyd dau arall o brif arweinwyr Iran: Ali Larijani, pennaeth ar y Cyngor Diogelwch Cenedlaethol, a Gholamreza Soleimani, arweinydd y Basij, rhan o'r IRGC.
Y bedwaredd wythnos (21–27 Mawrth)
[golygu | golygu cod]
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Y bumed wythnos (28 Mawrth – 3 Ebrill)
[golygu | golygu cod]
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Y chweched wythnos (4–7 Ebrill)
[golygu | golygu cod]
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Cadoediad (ers 7 Ebrill)
[golygu | golygu cod]Ar 7 Ebrill, 39ain ddiwrnod y rhyfel, datganodd Trump y bydd cadoediad am bythefnos, gyda chadarnhâd Cyngor Diogelwch Cenedlaethol Iran. Fodd bynnag, parhaodd Israel i lansio cyrchoedd yn Libanus, gan honni nad oedd y wlad honno yn rhan o'r cadoediad.
Erbyn 12 Ebrill, bygythiodd yr Arlywydd Trump y bydd Llynges yr Unol Daleithiau yn rhwystro llongau rhag cyrraedd neu adael Culfor Hormuz, os yw Iran yn gosod tollau er mwyn penderfynu pwy all deithio drwy'r llwybr. Dywedodd gweinyddiaeth dramor Iran fod telerau tîm negodi'r Americanwyr yn "ormodol ac afresymol".[14]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Israel ag America'n cynnal ymosodiad milwrol 'sylweddol' yn erbyn Iran", S4C (28 Chwefror 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 12 Mawrth 2026.
- ↑ "Iran yn taro'n ôl yn dilyn ymosodiadau Israel a'r UDA ar y wlad", S4C (1 Mawrth 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 12 Mawrth 2026.
- ↑ Gwyn Loader, "'Mae'n hollol ddryslyd beth sy'n digwydd': Adroddiad arbennig ar ryfel UDA-Israel ag Iran", S4C (4 Mawrth 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 12 Mawrth 2026.
- ↑ "Iran yn dewis Mojtaba Khamenei yn arweinydd newydd", S4C (9 Mawrth 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 12 Mawrth 2026.
- ↑ "Pris olew crai'n codi eto wedi ymosodiadau ar danceri olew yn y Gwlff", S4C (12 Mawrth 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 12 Mawrth 2026.
- ↑ "America ac Iran yn dod i gadoediad", S4C (7 Ebrill 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 9 Ebrill 2026.
- ↑ 15:38 yn Amser Safonol Dwyrain America (EST), 23:08 yn Amser Safonol Iran (IRST), 22:38 yn Amser Safonol Israel (IST), 20:38 yn Amser Safonol Greenwich (GMT).
- ↑ 01:15 EST, 09:45 IRST, 08:15 IST, 06:15 GMT.
- ↑ (Saesneg) Lucia Stein, "How the US and Israel struck Iran in Operation Epic Fury", ABC News (3 Mawrth 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 4 Mawrth 2026.
- ↑ (Almaeneg) Jacqueline Haddadian, "Angriff mitten im Ramadan – war das Absicht?", Stern (5 Mawrth 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 6 Mawrth 2026.
- ↑ (Saesneg) Emanuel Fabian, "IDF says 200 jets involved in Air Force’s largest-ever attack sortie", The Times of Israel (28 Chwefror 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 21 Ebrill 2026.
- ↑ (Saesneg) Mehul Srivastava, James Shotter, Neri Zilber a Steff Chávez, "Inside the plan to kill Ali Khamenei", Financial Times (2 Mawrth 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 8 Mawrth 2026.
- ↑ "Ymgyrch filwrol America yn erbyn Iran i 'dyfu'n sylweddol'", S4C (6 Mawrth 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 11 Ebrill 2026.
- ↑ "America ac Iran yn methu dod i gytundeb dros heddwch", S4C (12 Ebrill 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 12 Ebrill 2026.