Neidio i'r cynnwys

Rhyfel Cyntaf y Carliaid

Oddi ar Wicipedia
Rhyfel Cyntaf y Carliaid
Darluniad o Frwydr Mendigorría ar 16 Gorffennaf 1835.
Enghraifft o:rhyfel cartref Edit this on Wikidata
AchosPragmatic sanction of 1830 edit this on wikidata
Rhan oCarlist Wars Edit this on Wikidata
Dechreuwyd2 Hydref 1833 Edit this on Wikidata
Daeth i ben6 Gorffennaf 1840 Edit this on Wikidata
LleoliadTeyrnas Sbaen Edit this on Wikidata
Yn cynnwysSecond Battle of Arlaban Edit this on Wikidata
GwladwriaethSbaen Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/043d9v edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Rhyfel cartref dros olyniaeth y goron Sbaenaidd oedd Rhyfel Cyntaf y Carliaid (Sbaeneg: la primera guerra carlista) a barodd o 1833 i 1840. Sbardunwyd y gwrthdaro wedi marwolaeth y Brenin Fernando VII ac esgyniad ei ferch Isabella II i'r orsedd. Gwrthwynebwyd hynny gan y Carliaid a gefnogodd hawl y Don Carlos, brawd iau Fernando, i flaenoriaethu merched Fernando yn unol â'r hen gyfraith Salig. Cychwynnodd y Carliaid ryfel yn erbyn llywodraeth ryddfrydol y Rhaglyw Frenhines Maria Christina, mam Isabella, a'i dilynwyr a elwid liberales, cristinos, neu isabelinos. Mae'n bosib taw hwn oedd rhyfel cartref mwyaf gwaedlyd yr oes.[1]

Rhennid prif luoedd y Carliaid yn dair byddin ar wahân a leolwyd yn y rhanbarthau lle'r oedd cefnogaeth dros achos Don Carlos ar ei chryfaf: y Gogledd (Gwlad y Basg), Maestrazgo, a Chatalwnia.[2] Brwydrodd hefyd sawl llu herwfilwrol o Garliaid yn y mynyddoedd, mewn ardaloedd pelled â La Mancha ac Andalucía, a ystyriwyd yn bandoleros (banditiaid) gan lywodraeth y rhaglyw.[3][4] Derbyniodd y rhaglywiaeth gefnogaeth o Bortiwgal, Ffrainc, a'r Deyrnas Unedig.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Bullón de Mendoza y Gómez de Valugera, Alfonso (1992). La primera Guerra Carlista. Madrid. tt. 3–7. ISBN 8487863086.
  2. Bullón de Mendoza y Gómez de Valugera, Alfonso (2019). "La Primera Guerra Carlista en el tomo IV de la Historia militar de España: un error de enfoque". Aportes XXXIV (100): 288. ISSN 0213-5868. https://dialnet.unirioja.es/servlet/articulo?codigo=7192296&orden=0&info=link.
  3. La partida de Palillos y su estandarte, 1833-1840 Archifwyd 2023-05-29 yn y Peiriant Wayback
  4. Partidas carlistas y bandidos en el Marmolejo del siglo XIX