Rhyfel Affganistan a Phacistan
Affganistan (oren) a Phacistan (gwyrdd). | |
| Enghraifft o: | rhyfel |
|---|---|
| Dyddiad | 21 Chwefror 2026 |
| Rhan o | Afghanistan–Pakistan skirmishes, Rhyfel Gogledd Orllewin Pacistan |
| Lleoliad | Durand Line |
| Gwladwriaeth | Affganistan, Pacistan |
| Dynodwyr | |
Cychwynnodd Rhyfel Affganistan a Phacistan yn Chwefror 2026. Rhagflaenwyd y rhyfel gan fisoedd o fân-wrthdrawiadau rhwng y ddwy wlad. Er iddynt gytuno ar gadoediad yn Hydref 2025, cyhuddodd y ddwy ochr ei gilydd o beidio â cheisio trafodaethau heddwch o ddifrif.[1] Ar 21 Chwefror 2026, lansiodd Awyrlu Pacistan (PAF) gyrchoedd awyr ar daleithiau Nangarhar, Paktika a Khost yn Affganistan yn targedu saith gwersyll milwriaethus honedig yn perthyn i'r Taliban Pacistanaidd (TTP) a'r Wladwriaeth Islamaidd yn Nhalaith Khorasan (ISIS–K), gyda'r nod o dalu'r pwyth yn ôl am ymosodiadau terfysgol diweddar yn Islamabad, Bajaur, a Bannu. Rhoddai llywodraeth Pacistan fai am y derfysgaeth ar y Taliban, sy'n rheoli Affganistan.
Yn ôl swyddogion y Taliban yn Affganistan, roedd y cyrchoedd awyr yn targedu sifiliaid a chanolfannau crefyddol, gan ladd 18 o sifiliaid yn Nhalaith Nangarhar.[2][3][4][5] Gwadodd swyddogion o Bacistan y cyhuddiad o dargedu sifiliaid, ac yn ôl The Express Tribune, yn dibynnu ar ffynonellau yn y lluoedd milwrol, bu farw 80 o filwyr yn Affganistan.[6][7] Cyhoeddodd Cenhadaeth Gynorthwyol y Cenhedloedd Unedig yn Affganistan (UNAMA) fod rhai o'r meirw a'r clwyfedigion yn sifiliaid.[8][9]
Ar 26 Chwefror, lansiodd Affganistan "ymgyrch ddialgar"[1] yn erbyn gorsafoedd milwrol Pacistan yn y gororau, gan arwain at ysgarmesau ar hyd Linell Durand a saethu ar draws y ffin rhwng milwyr y Taliban a lluoedd diogelwch Pacistan.[10] Ymatebodd Pacistan drwy gychwyn Ymgyrch Ghazab Lil Haq ("Digofaint Gwirionedd") yn erbyn y Taliban.[11][12] Trannoeth, datganodd Khawaja Muhammad Asif, Gweinidog Amddiffyn Pacistan, "ryfel agored" rhwng y ddwy wlad.[13][1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Hafsa Khalil, "Pakistan defence minister says country in 'open war' with Afghanistan after strikes", BBC (27 Chwefror 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 28 Chwefror 2026.
- ↑ Mohammadi, Habib (22 Chwefror 2026). "Victims of Pakistani airstrike buried as others remain under rubble". Amu TV.
- ↑ Mitchell, Ottilie; Bariz, Yama (22 Chwefror 2026). "Pakistan launches deadly strikes on Afghanistan". BBC News. Cyrchwyd 22 Chwefror 2026.
- ↑ Saifi, Sophia (22 Chwefror 2026). "Pakistan launches airstrikes against Afghan-based 'militants' it blames for cross-border attacks" (yn Saesneg). CNN. Cyrchwyd 22 Chwefror 2026.
- ↑ "Sources: 23 People Buried Under Rubble in Pakistan's Airstrikes on Nangarhar". Hasht-e Subh. 22 Chwefror 2026.
- ↑ Yousaf, Kamran (23 Chwefror 2026). "Air raids in Afghanistan destroy 7 terror camps". The Express Tribune (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Chwefror 2026. Cyrchwyd 23 Chwefror 2026.
- ↑ "Photos: The aftermath of Pakistan's air strikes in Afghanistan". Al Jazeera (yn Saesneg). Cyrchwyd 22 Chwefror 2026.
- ↑ Azizi, Ahmad (22 Chwefror 2026). "Taliban defense ministry vows 'calculated response' to Pakistani airstrikes". Amu TV.
- ↑ "Afghanistan promises 'appropriate response' after deadly Pakistani strikes". Al Jazeera. 22 Chwefror 2026. Cyrchwyd 22 Chwefror 2026.
- ↑ "Pakistan launches 'Operation Ghazab-ul-Haq' amid border tensions with Afghanistan". UrduPoint (yn Saesneg). Cyrchwyd 26 Chwefror 2026.
- ↑ "Pakistan and Afghanistan announce duelling military operations amid border clashes". Türkiye Today (yn Saesneg). Cyrchwyd 26 Chwefror 2026.
- ↑ "Pakistan's defense minister says that there is now 'open war' with Afghanistan after latest strikes". AP News (yn Saesneg). 27 Chwefror 2026. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Chwefror 2026. Cyrchwyd 27 Chwefror 2026.
- ↑ "Pakistan bombs Kabul, declares 'open war' with Afghanistan after months of border clashes" (yn Saesneg). France 24. 26 Chwefror 2026. Cyrchwyd 27 Chwefror 2026.