Rhydlys brych

Oddi ar Wicipedia
Rhydlys brych
Marsupella sphacelata

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Jungermanniales
Teulu: Gymnomitriaceae
Genws: Marsupella
Rhywogaeth: M. sphacelata
Enw deuenwol
Marsupella sphacelata

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Rhydlys brych (enw gwyddonol: Marsupella sphacelata; enw Saesneg: speckled rustwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida. Ystyr y gair 'brych' yn y cyd-destun hwn yw 'gydag ysmotiau', fel yn y gair 'brech'.

Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod mewn dau le yng Ngwynedd, ac mae hefyd yn brin iawn yng Nghernyw, Lloegr ac Iwerddon; yn yr Alban, mae'n eitha cyffredin.

Mae M. sphacelata yn tyfu mewn matiau eithaf rhydd, weithiau ar eu cyllell, ond yn amlach yn llorwedd, yn amrywio o ran lliw o frown-gwyrdd i frown tywyll neu bron yn ddu, gyda rhai planhigion o welyau eira yn felynfrown gydag ymylon cras. Mae'r egin yn 0.5–3 mm o led, a gallant dyfu i 8 cm o hyd.[1]

Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Safonwyd yr enw Rhydlys brych gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. rbg-web2.rbge.org.uk; adalwyd 23 Hydref 2019.
  2. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.