Rhwydo/Vangst
| Enghraifft o: | theatr arbrofol tairieithog |
|---|---|
| Gwlad | Cymru, Yr Iseldiroedd |
| Iaith | Cymraeg, Iseldireg, Saesneg |
| Dynodwyr | |
Darn o theatr arbrofol teir ieithog wedi ei greu gan Roos van Geffen, ac yn gyd gynhyrchiad rhwng Stichting Immens a Theatr Genedlaethol Cymru yn 2013, oedd Rhwydo/Vangst. Cyfunwyd yr ieithoedd Iseldireg, Cymraeg a Saesneg i greu'r sioe, gydag Angharad Price yn gyfrifol am y cyfieithiad Cymraeg a Leisa Mererid yng ngofal y lleisiau Cymraeg a Saesneg. Roos van Geffen oedd yng ngofal y cysyniad, y cyfarwyddo a chynllunio, gyda Yvonne Franquinet yng ngofal y dramatwrgiaeth.[1]
Cynnwys
[golygu | golygu cod]Disgrifir y cynhyrchiad ar wefan Theatr Genedlaethol Cymru fel "Cynhyrchiad theatr gorfforol amlieithog"[2]
"Bu Roos yn nodi dyheadau ac ofnau pobl ar draws Ewrop, gan ddefnyddio’r straeon personol hyn i greu darn o waith didwyll a thelynegol sy’n treiddio i hanfod y bod dynol. Bydd yn gwau iddo ddyheadau ac ofnau a gesglir ar hyd a lled Cymru yn ystod y daith."[2]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Cyflwynwyd y gwaith o dan gyfnod Arwel Gruffydd fel arweinydd artistig Theatr Genedlaethol Cymru.[1] Ariannwyd y prosiect gan Gyngor Celfyddydau Cymru a'r Loteri Genedlaethol ynghyd â Fonds Podiumm Kunsten o'r Iseldiroedd.[1] Roedd y cynhyrchiad yn gyd-gynhyrchiad cyntaf i Theatr Genedlaethol Cymru gyda chwmni o Ewrop, wedi i Gruffydd brofi'r sioe wreiddiol yng Ngwyl Oerol rhanbarth Friesland yr Iseldiroedd, gan benderfynu y gallai’r darn gael ei addasu’n rhwydd i’r Gymraeg.[3]
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]Llwyfannwyd y cynhyrchiad deirgwaith yng Nghymru, ar Yr Hen Lawnt Fowlio ym Mangor a Chanolfan y Mileniwm, Caerdydd, cyn perfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych yn 2013.[2]
"Ces fy nenu a nieithrio gan Rhwydo/Vangst" yn ôl yr adolygydd theatr Lowri Haf Cooke, "...a nid drwg o beth mo hynny. Alla i ddim dweud yn onest i mi “joio mas draw” ond ces fy nghyffwrdd yn bur annisgwyl. Fel gwaith celf gain neu atgof prudd, ceir yma le i aflonyddu’r enaid," ychwanegodd.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 3 Rhaglen y cyhyrchiad Rhwydo/Vangst. Theatr Genedlaethol Cymru.
- 1 2 3 "Rhwydo / Vangst". theatr.cymru. Cyrchwyd 2026-06-26.
- 1 2 TheatrGenCymru (2013-08-14). "Adolygiad Rhwydo gan Lowri Cooke". Blog Theatr Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 2026-06-26.