Neidio i'r cynnwys

Rhodio

Oddi ar Wicipedia

Rhodio yw'r gair am yr arfer o grwydro mewn ardal benodol yn chwilio am ryw. Mae'n rhan o ddiwylliant hoyw a'i wreiddiau mewn cyfnod pan oedd bod yn hoyw yn anghyfreithlon a'r cyfle i gwrdd â chymar o'r herwydd yn gyfyngedig.[1] Daw'r term gwreiddiol (cruising yn Saesneg) o slang hoyw a'r awydd ar y pryd i ddefnyddio gair fyddai'n ddealledig i'r rhai oedd yn rhan o'r diwylliant, ond yn gudd i bawb arall. Mae'r term Cymraeg mwy diweddar rhodio yn defnyddio'r un syniad o ailbwrpasu gair diniwed, ond mewn ffordd fwy chwareus mewn oes fwy rhyddfrydig.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Kilgannon, Corey (2005). "A Sex Stop on the Way Home". New York Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 25 Ionawr 2025.