Rhif negatif

Oddi ar Wicipedia
Mae'r Thermomedr hwn yn dangos tymheredd negyddol gan ei bod yn rhewiL −4°F Fahrenheit.

Mewn mathemateg, rhif negatif yw rhif real sy'n llai na sero.

Mae rhifau negatif yn rhan o ddau beth sy'n cwbwl groes i'w gilydd: y positif a'r negatif (hefyd 'negyddol' neu 'minws'). Os yw positif yn cynrychioli symud i'r dde, mae'r negydd yn cynrychioli symud i'r chwith. Os yw positif yn cynrychioli lefel uwch y môr, yna mae negatif yn cynrychioli lefel islaw'r môr. Fe'u defnyddir yn aml i gynrychioli maint colledion ariannol neu ddiffyg arian. Gellir ystyried bod swm o arian sy'n ddyledus yn 'ased negatif', a bod gostyngiad o hyn-a-hyn yn cael ei ystyried fel 'cynnydd negatif'.

Yn y diagram a ganlyn, mae'r rhifau negatif mewn coch, i'r chwith o'r sero (0), yn dynodi minws

The number line
The number line

Mae dau beth gwahanol yn aml yn cael ei ystyried fel positif a negatif. Yn y cyd-destun meddygol o ymladd tiwmor, gellid ystyried twf y tiwmor fel 'crebachu negatif'. Defnyddir niferoedd negatif i ddisgrifio gwerthoedd ar raddfa sy'n mynd islaw sero, megis graddfeydd Celsius a Fahrenheit ar thermomedr. Mae cyfreithiau rhifyddeg ar gyfer rhifau negatif yn sicrhau bod y cysyniad o synnwyr cyffredin yn cael ei adlewyrchu mewn rhifyddeg. Er enghraifft, - (- 3) = 3 oherwydd y gwrthwyneb y gwrthwyneb yw'r rhif gwreiddiol.

Terminoleg[golygu | golygu cod]

Defnyddir y gair negatif yn hytrach na 'negyddol' gan Eiriadur Termau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. colegcymraeg.ac.uk; Archifwyd 2017-07-29 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 20 Awst 2018.