Neidio i'r cynnwys

Rheinallt ab Gruffydd (nofel)

Oddi ar Wicipedia
Rheinallt ab Gruffydd
Clawr argraffiad Melin Bapur (2025)
Enghraifft o:gwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurIsaac Foulkes
CyhoeddwrIsaac Foulkes (1874); Melin Bapur (2025)
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1874 Edit this on Wikidata
PwncNofelau Cymraeg
ArgaeleddMewn print
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Mae'r erthygl hon am y nofel. Am yr uchelwr hanesyddol sy'n ymddangos ynddi, gweler Rheinallt ap Gruffudd.

Nofel Gymraeg gan yr awdur o Gymro Isaac Foulkes yw Rheinallt ab Gruffydd. Ymddangosodd yn wreiddiol yn 1874. Fe'i cyhoeddwyd o'r newydd yn 2025 gan Melin Bapur o dan deitl wedi'i foderneiddio, sef Rheinallt ap Gruffydd.[1]

Crynodeb

[golygu | golygu cod]

Rhamant hanesyddol ac antur rhamantus yw'r nofel, sy'n ymdrin â hanes uchelwr o'r Wyddgrug, Rheinallt ap Gruffudd, yn y 15g. Mae'r hanes yn ymwneud â'r anghydfod rhwng y penadur Cymreig â Maer Caer. Mae Lewys Glyn Cothi yn gymeriad canolog yn y nofel ac yn fersiwn Foulkes o'r digwyddiad, ei ddial ef am gael ei gosbi gan ddynion Caer am briodi Saesnes yw testun yr anghydfod wreiddiol.[2] Fodd bynnag, nid oes dim i gyslltu Lewys Glyn Cothi â Rheinallt ap Gruffudd mewn gwirionedd.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ Rheinallt ap Gruffydd, Gwefan Melin Bapur
  2. ↑ Y Rhamant Hanesyddol Gymreig, Gwefan Melin Bapur