Rheilffordd y Meysydd Aur, Seland Newydd

Oddi ar Wicipedia
Rheilffordd y Meysydd Aur, Seland Newydd
Mathrheilffordd dreftadaeth Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolEast Coast Main Trunk Edit this on Wikidata
GwladBaner Seland Newydd Seland Newydd
Cyfesurynnau37.3831°S 175.8331°E Edit this on Wikidata
Hyd6.5 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Mae’r Rheilffordd y Meysydd Aur yn rheilffordd dreftadaeth, yn mynd o Waihi i Waikino ar Ynys y Gogledd, Seland Newydd.

Hanes y rheilffordd wreiddiol[golygu | golygu cod]

Adeiladwyd y rheilffordd ym 1905 o Fwynglawdd Martha i Waihi gan y cwmnii cloddio, ac wedyn o Waihi i weddill y rhwydwaith cenedlaethol gan y llywodraeth gyda changen o Frankton i Taneatua, trwy Waihi; gweithredodd y lein wreiddiol hyd at 1927, a’r gangen i Taneatua hyd at 1979.[1] Sefydlwyd Cymdeithas Rheilffordd y Meysydd Aur ym 1980 i warchod etifeddiaeth y rheilffyrdd o gwmpas Waihi.[2]

Mae pedair taith ddyddiol rhwng y Nadolig a diwedd mis Ebrill, a 3 gweddill y flwyddyn. Mae siwrnai un ffordd yn cymryd hanner awr.[3]

Oriel[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]