Rheilffordd danddaearol Glasgow
Mae Rheilffordd danddaearol Glasgow yn rheilffordd yn Glasgow, Yr Alban. Agorwyd y rheilffordd ar 14 Rhagfyr 1896,[1] un o reilffyrdd tanddaearol hynal y byd. Mae'r rheilffordd yn ffurfio cylch ynghanol y ddinas, ac mae ei drenau'n mynd yn y 2 gyfeiriad. Mae 15 o orsafoedd, ac mae’r cylch yn cymryd 24 munud.[2] Lled y traciau yw 4 troedfedd ac mae hyd y cylch 9.5 milltir.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Adeiladwyd y rheilffordd dros gyfnod o pum mlynedd, yn costio £1.5 miliwn. Roedd gan ddim ond Llundain a Budapest reilffyrdd tanddaearol cyn 1896. Caewyd y rheilffordd ar y diwrnod cyntaf oherwydd damwain; ail-agorwyd y rheilffordd ym mis Ionawr 1897. Defnyddiwyd y rheilffordd gan dros 9 miliwn o deithwyr yn ystod ei blwyddyn gyntaf.[1]
Tynnwyd ei cherbydau gan gablen hyd at 1935 pan ddaeth y rheilffordd yn un drydanol.
Dyma fap y rheilffordd yn 1965. Erbyn hyn, Mae 'Merkland Street' wedi dod yn 'Kelvinhall', a 'Copland Road' yn 'Ibrox'
Gorsafoedd[3][golygu | golygu cod y dudalen]
Heol y Bont[golygu | golygu cod y dudalen]
Agos at Academi 02, Citizen’s Theatre
Heol Buchanan[golygu | golygu cod y dudalen]
Agos at orsaf reilffordd Heol y Frenhines, Gorsaf bws Buchanan, Galeriau Buchanan.
Cessnock[golygu | golygu cod y dudalen]
Agos at Ganolfan Gwyddoniaeth Glasgow, IMAX Glasgow, Canolfan SEC.
Cowcaddens[golygu | golygu cod y dudalen]
Agos at Ysgol y Celfydyddau Glasgow,, Theatr Ffilm Glasgow, Plas Tenement.
Govan[golygu | golygu cod y dudalen]
Agos at Ysbytai Prifysgol Brenhines Elizabeth, Hen Eglwys Plwyf Govan.
Hillhead[golygu | golygu cod y dudalen]
Agos at erddi Botaneg Glasgow, Prifysgol Glasgow.
Ibrox[golygu | golygu cod y dudalen]
Agos at Stadiwm Ibrox, Canolfan Dringo Glasgow, Parc Bellahouston.
Kelvinbridge[golygu | golygu cod y dudalen]
Agos at Parc Kelvingrove, Clwb Comedi The Stand.
Kelvinhall[golygu | golygu cod y dudalen]
Agos at Arena Rhwngwladol Kelvinhall, Amgueddfa Kelvingrove.
Parc Kinning[golygu | golygu cod y dudalen]
Partick[golygu | golygu cod y dudalen]
Agos at orsaf reilffordd Partick, Gorsaf Bws Partick, Amgueddfa Riverside.
Heol Shields[golygu | golygu cod y dudalen]
Agos at Amgueddfa Ysgol Heol Scotland.
St. Enoch[golygu | golygu cod y dudalen]
Agos at orsaf reilffordd Canolog , Canolfan Sant Enoch.
St. George’s Cross[golygu | golygu cod y dudalen]
Agos at Lyfrgell Mitchell.