Rheilffordd Zig Zag

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:19, 25 Ionawr 2020 gan Lesbardd (sgwrs | cyfraniadau)

Mae’r Rheilffordd Zig Zag yn Rheilffordd Dreftadaeth yn Awstralia, ger Lithgow yn Ne Cymru Newydd. Mae’r rheilffordd yn defnyddio ‘zig zags’ er mwyn dringo llethrau gorllewinol y Mynyddoedd Glas. Disodlwyd y rheilffordd fel rhan o o reilffordd y dalaith gan dwnel trwy’r mynyddoedd, ond ail-agorwyd y rheilffordd fel rheilffordd dreftadaeth ym mis Hydref 1975 gan gwmni cydweithiol, sef Zig Zag Railway Co-op. Ltd

Caewyd y rheilffordd yn 2012 oherwydd problemau gweinyddol, ond cyn ail-agoriad y rheilffordd, difrodwyd y rheilffordd gan dân yn 2013 ac wedyn gan lifogydd. Roedd tân arall yn 2015 ac dydy’r rheilffordd ddim wedi ail-agor hyd yn hyn.[1][2][3]


Cyfeiriadau

  1. Holliday, Rebekah. "Fire tears through iconic Zig Zag Railway". Sydney Morning Herald. Cyrchwyd 19 Hydref 2013.
  2. Zig Zag Railway Zig Zag Railway adalwyd 13 Ionawr 2015
  3. Zig Zag Railway battling adversity to finally get itself back on track Blue Mountains gazette 20 Ionawr 2015


Dolen allanol