Rheilffordd Midland (Butterley)
| Enghraifft o: | rheilffordd dreftadaeth |
|---|---|
![]() | |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Rhanbarth | Swydd Derby |
| Gwefan | https://www.midlandrailway-butterley.co.uk |
| Dynodwyr | |
| Rheilffordd Midland (Butterley) | |
|---|---|

Mae Rheilffordd Midland – Butterley yn rheilffordd dreftadaeth yn Swydd Derby. Mae'r lein yn 3.5 milltir o hyd ac o led safonol rhwng Butterley a Chyffordd Swanwick, lle maeAmgueddfa Matthew Kirtley.[1] Mae hefyd rheilffordd led 2 droedfedd ar yr un safle.[2]
Crëwyd y Rheilffordd Midland ym 1844 gan uno Rheilffordd Siroedd y Canolbarth, Rheilffordd Gogledd Midland a Rheilffordd Birmingham a Chyffordd Derby.
Dechreuwyd prosiect i ddathlu'r rheilffordd ym 1969, a dewiswyd lein rhwng Ambergate a Pye Bridge a chauwyd ar 23 Rhagfyr 1968. Roedd y cledrau i gyd wedi mynd. Symudwyd ac ailadeiladwyd adeilad o Whitwell a dechreuodd gwasanaeth ar filltir o drac ar 22 Awst 1981. Estynnwyd y lein yn raddol i Ironville, Hammersmith a Riddings. Adeiladwyd gorsafoedd newydd yn Swanwick a Hammersmith.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Gwefan y Derby Telegraph". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-12-14. Cyrchwyd 2016-03-27.
- ↑ Gwefan steamheritage[dolen farw]
- ↑ "Gwefan steamrailwaylines". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-06. Cyrchwyd 2016-05-05.
