Rheilffordd Knox a Kane

Oddi ar Wicipedia
Pont Kinzua
Y locomotif Tsieiniaidd

Aeth Rheilffordd Knox a Kane (K&K) o Knox, Pennsylvania i Kane, Pennsylvania ac wedyn i Mount Jewett, yn Swydd McKean, Pennsylvania.

Hanes[golygu | golygu cod]

Prynwyd y lein o Rheilffordd Baltimore ac Ohio ym 1982. Yn wreiddiol oedd y lein yn gledrau cul (3 troedfedd o hyd), ac yn eiddo'r Rheilffordd Pittsburgh a'r Gorllewin. Defnyddiwyd y lein ar gyfer nwyddau, yn benodol poteli o Knox a glo o Lucinda, Pennsylvania ond erbyn hyn mae'r cwmnïau gwydr a glo wedi cau.

Trenau twristiaid[golygu | golygu cod]

Aeth trenau'r Knox a Kane rhwng Kane a Marienville, a phrynwyd rhan o Reilffordd Erie, yn cynnwys Pont Kinzua[1][2]. Prynwyd locomotif 2-8-2 newydd o Waith Tangshan, Tsieina ym 1989 ar gyfer y trenau i deithwyr.Roedd ganddynt locomotif 2-8-0 Baldwin hefyd[3], ond doedd o ddim wedi gweithio ers y 1980au. Defnyddiwyd hen gerbydau'r Rheilffordd Long Island.

Niweidiwyd Pont Kinzua gan gorwynt yn 2003 a phenderfynwyd Talaith Pennsylvania peidio ei thrwsio, oherwydd problemau ariannol.Caewyd y rheilffordd yn 2006 a gwerthwyd ei cherbydau yn 2008[4].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gwefan tourstrailways.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-09. Cyrchwyd 2015-04-22.
  2. Pittsburgh Press, 2 Awst 1987
  3. "Gwefan Rheilffordd Everett". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-19. Cyrchwyd 2015-04-22.
  4. Gwefan abandoned rails