Rheilffordd Gwili
Gwili Railway | |
---|---|
4566 ym ymweld ym mis Hydref 2008 | |
Ardal leol | Cymru |
Terminws | Bronwydd Arms |
Gweithgaredd masnachol | |
Enw | Rheilffordd Ager y Gwili |
Maint gwreiddiol | 7 tr 0 1⁄4 modf (2,140 mm) |
Yr hyn a gadwyd | |
Gweithredir gan | Cwmni Reilffordd Ager y Gwili Cyf. |
Gorsafoedd | 3 |
Hyd | 3.5 milltir (5.6 km) |
Maint 'gauge' | 1,435 mm (4 ft 8 1⁄2 in) |
Hanes (diwydiannol) | |
1860 | Agorwyd |
1881 | Daethpwyd yn rhan o Reilffordd Great Western |
1973 | Caewyd |
Hanes (Cadwraeth) | |
1978 | Cymerwyd drosodd gan y gwmni, a dechreuwyd gwaith atgyfodi |
1987 | {{{events}}} |
1988 | Cyrhaeddwyd Llwyfan Cerrig |
2001 | Ail-agoriad yr estyniad at Danycoed |
2002 | Dechreuwyd estyniad at Gorsaf Reilffordd Gogledd Caerfyrddin |
2009 | Prynwyd safle'r orsaf Reilffordd Llanpumpsaint |
Pencadlys | Bronwydd Arms |
Mae Rheilffordd Gwili yn rheilffordd ager led safonol ym mhentref Bronwydd 3 milltir i’r gogledd o Gaerfyrddin. Enwyd y rheilffordd ar ôl Afon Gwili. Ei hyd yw 2½ milltir: rhwng Bronwydd Arms a Danycoed gan dramwyo drwy diroedd amaeth ac elltydd llethrog, coediog.
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae’r Rheilffordd yn dilyn y brif lein wreiddiol rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth a ffurfiai unwaith ran o gyswllt di-dor rhwng Gogledd a De Cymru. Wedi’i hadeiladu ar y dechrau gan y Carmarthen & Cardigan Railway Company, gyda’i led llydan 7'0¼", a’r Manchester & Milford Railway Company, fe brynwyd y lein ymhen amser gan y Great Western Railway. Cludai deithwyr a chynhyrchion lleol – gwlân, da byw, llaeth a choed – cyn iddi fynd yn ysglyfaeth i ddiwygiadau yr Arglwydd Beeching. Daeth trenau teithwyr i ben ym mis Rhagfyr, 1964, ac ymadawodd y trên llaeth olaf ym mis Medi, 1973.
Ffurfiwyd Cwmni Rheilffordd Gwili ym mis Ebrill, 1975, a phrynodd y cwmni 8 milltir o wely trac rhwng Cyffordd Abergwili a Llanpumpsaint. Rhedodd y trên teithwyr cyntaf yn 1978 i arhosfan newydd ei hadeiladu yng Nghwmdwyfran. Cymerwyd y trac dros Afon Gwili trwy ddau estyniad byr pellach i orsaf newydd o'r enw Llwyfan Cerrig.
Yn 2001 agorwyd estyniad pellach hyd at orsaf newydd Danycoed. Mae gwaith yn symud yn ei flaen i ymestyn y lein tua’r de i gyfeiriad cyn-Gyffordd Abergwili a hynny yw’r safle arfaethedig i orsaf newydd yn gyfagos i ffordd osgoi Dwyrain Caerfyrddin. Mae Cwmni Rheilffordd Gwili wedi prynu 3·6 erw o dir ar bwys y ffordd osgoi gyda’r bwriad o adeiladu maes parcio ar gyfer ceir a bysus. Cynllunir adeiladu caffi, amgueddfa fach a sied geotsis yn safle yr orsaf arfaethedig.
Mae’r Rheilffordd yn gweithredu gwasanaethau rhwng 80-90 diwrnod y flwyddyn ac yn cludo dros 20,000 o deithwyr bob blwyddyn ac yn ogystal â’i gwasanaethau teithwyr arferol mae’n trefnu digwyddiadau arbennig poblogaidd iawn fel ‘Diwrnod Allan Gyda Tomos’, Trenau Hudol Siôn Corn, trenau cinio dydd Sul, trenau noson jazz, siartrau ffotograffig a chyrsiau sy’n cynnig y profiad o yrru injan stêm.
Rheilffordd Gwili | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Locomotifau
[golygu | golygu cod]Stêm
[golygu | golygu cod]Rhif ac enw | Disgrifiad | Hanes a statws presennol | Lifrai | Perchennog | Llun |
---|---|---|---|---|---|
2201 Victory | 0-4-0ST Cwmni Andrew Barclay | Adeiladwyd ym 1945. Atgyweirir. | |||
3879 Haulwen | 0-6-0ST 'Austerity' Cwmni Hunslet | Adeiladwyd yn Ffowndri Vulcan ym 1945. Ailadeiladwyd gan Gwmni Hunslet ym 1961. Gweithredol.[1] | ~ | ||
7058 Olwen | 0-4-0ST Cwmni Robert Stephenson a Hawthorns | Adeiladwyd ym 1942. Atgyweirir boeler. | lliwiau GWR. Defnyddir fel 'Percy'r injan bach' yn nigwyddiadau Tomos y Tanc.[2] | ||
71516 Welsh Guardsman | 0-6-0ST Adran Rhyfel | Adeiladwyd gan Gwmni Robert Stephenson a Hawthorns ym 1944 | |||
Phoenix | 0-6-0ST Adran Rhyfel | Adeiladwyd gan Gwmni Robert Stephenson a Hawthorns ym 1944. Yn storfa, yn disgwyl am atgyweirio. | ~ | ||
3829 | Locomotif 'Austerity' | Adeiladwyd ym 1955 gan Gwmni Hunslet. Cynt o Reilffordd Cwm Tawe. Yn storfa yn Bronwydd Arms, disgwyl am atgyweirio boeler. | ~ | ||
1345; Mond Nickel Rhif 1. | Cynt o Reilffordd Cwm Tawe. | Yn storfa yn Bronwydd Arms, disgwyl am atgyweirio blwch tân. | ~ | ||
450 | Dosbarth O1 0-6-2T Rheilffordd Cwm Taf | Adeiladwyd ym 1897. Ar fenthyg o Amgueddfa Genedlaethol Rheilffordd, Efrog. Arddangosir. | ~ |
Diesel
[golygu | golygu cod]Rhif ac enw | Disgrifiad | Hanes a statws presennol | Lifrai | Perchennog | Llun |
---|---|---|---|---|---|
61347,59508,51401 | Dosbarth 117 BR uned 3 cerbyd | ||||
D2178 | Dosbarth 03 BR | Gweithredol | |||
27658 | Adeiladwyd gan Gwmni North British ar gyfer British Steel, Glandŵr. | ~ | |||
27878 | Adeiladwyd gan Gwmni North British ar gyfer British Steel, East Moor, ac wedyn gwaith tun Felindre. | ~ | |||
207103 | Adeiladwyd gan Cwmni Ruston a Hornsby. Defnyddiwyd gan British Benzol wrth eu ffyrnau golosg. | ~ | |||
393302 | Adeiladwyd gan Cwmni Ruston a Hornsby ym 1955. Defnyddiwyd gan Gwmni Aluminium Wire a Cable, Abertawe. | ~ |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Phil Trotter (2008-04-05). "0-6-0ST 'Haulwen', adeiladwyd yn Ffowndri Vulcan, wrth Lwyfan Cerrig". Cyrchwyd 2008-05-04.[dolen farw]
- ↑ Phil Trotter (2008-04-05). "RSH 0-4-0ST (rhif 7058/1942) 'Olwen'". Cyrchwyd 2008-05-04.[dolen farw]
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Rheilffordd Gwili
- (Saesneg) Cymdeithas Cadwraeth Rheilffordd Gwili Archifwyd 2011-08-17 yn y Peiriant Wayback