Rhanbarthau Denmarc
Gwedd
Map o ranbarthau Denmarc. | |
Enghraifft o'r canlynol | ffurf gyfreithiol |
---|---|
Math | administrative territorial entity of Denmark, is-adran weinyddol gwlad lefel gyntaf, NUTS 2 statistical territorial entity |
Pennaeth y sefydliad | chairman of the regional council |
Gwladwriaeth | Denmarc |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rhennir Denmarc yn bum rhanbarth gweinyddol, a rhain ydy'r prif israniadau yn y wlad, yn ddarostyngedig i'r llywodraeth genedlaethol ond yn uwch na'r bwrdeistrefi. Ffurfiwyd y rhanbarthau yn sgil diwygiadau i lywodraeth leol Denmarc yn 2007, pan diddymwyd yr hen siroedd. Llywodraethir pob rhanbarth gan gyngor etholedig gyda 41 o aelodau.
Y rhanbarthau yw:
- Rhanbarth y Brifddinas, sy'n cynnwys gogledd-ddwyrain ynys Sjælland ac ynys Amager (gan gynnwys Copenhagen, prifddinas Denmarc), ac ynysoedd Saltholm a Bornholm;
- Rhanbarth Sjælland, sy'n cynnwys y rhan fwyaf o ynys Sjælland, ac ynysoedd Møn, Falster, a Lolland;
- Rhanbarth De Denmarc, sy'n cynnwys de gorynys Jylland, ynysoedd Fanø a Rømø i dde-orllewin Jylland, ac ynysoedd Funen, Als, Tåsinge, Ærø, a Langeland i dde-ddwyrain Jylland;
- Rhanbarth Canol Jylland, sy'n cynnwys canolbarth Jylland, ac ynysoedd Samsø, Anholt, a Fur;
- a Rhanbarth Gogledd Jylland, sy'n cynnwys gogledd Jylland, ac ynysoedd Vendsyssel-Thy, Mors, a Læsø.