Rhanbarth Ymreolaethol Bougainville
| Math | administrative territorial entity of Papua New Guinea, is-adran weinyddol gwlad lefel gyntaf, endidau tiriogaethol rheolaethol |
|---|---|
| Prifddinas | Buka |
| Poblogaeth | 367,093 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 9,384 km² |
| Cyfesurynnau | 6°S 155°E |
| PG-NSB | |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | President of the Autonomous Region of Bougainville |
![]() | |
| CMC y pen | $4,151 |

Rhanbarth ymreolaethol yn Papua Gini Newydd, Oceania, yw Bougainville, yn swyddogol y Rhanbarth Ymreolaethol Bougainville. Ynghyd â Ynys Bougainville ei hun, mae'r rhanbarth yn cynnwys Ynys Buka a nifer o ynysoedd ac atolau anghysbell.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd gan y rhanbarth boblogaeth o 249,358.[1] Tok Pisin yw lingua franca Bougainville, er bod amrywiaeth o ieithoedd Awstronesaidd ac ieithoedd eraill yn cael eu siarad yno.
Mae mudiad ymwahanol cryf wedi bodoli yn Bougainville ers y 1960au, a datganodd y rhanbarth ei hannibyniaeth ychydig cyn annibyniaeth Papua Gini Newydd yn 1975. Beth bynnag, ymgorfforwyd Bougainville yn Papua Newydd yn y flwyddyn ganlynol. Ar ôl ymgyrch dreisgar dros annibyniaeth cynhaliwyd refferendwm yn 2019; o'r 87.6% y poblogaeth a bleidleisiodd, roedd 98.3% o blaid annibyniaeth. Cytunodd y ddwy lywodraeth yn 2021 ar amserlen yn rhagweld datganoli pwerau pellach i Bougainville yn 2023 ac annibyniaeth lawn yn 2027 fan bellaf.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 10 Mehefin 2022
- ↑ "Bougainville: Nation Profile", Nationalia; adalwyd 12 Mehefin 2022
