Rhaganadliad

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Mewn seineg, mae rhaganadliad yn golygu cyfnod o ddileisedd neu anadliad cyn cau cytsain argaeol ddi-lais,[1] sydd yn gyfwerth â sain fel [h] yn dod cyn y gytsain. Felly, pan gaiff cytsain ei rhaganadlu, mae'r glotis ar agor am gyfnod cyn ei chau.[2] Er mwyn nodi rhaganadliad yn yr Wyddor Seingol Ryngwladol, gellir rhoi ⟨ʰ⟩ o flan y gytsain raganadlog. Er hynny, mae'n well gan Ladefoged and Maddieson[3] nodi clwstwr o gytseiniaid, e.e. ⟨hk⟩ yn lle ⟨ʰk⟩.

Teipoleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae rhaganadlu yn weddol anghyffredin ymhlith ieithoedd y byd,[4] a honna rhai nad yw'n gyferbyniol yn ffonemig. Noda Ladefoged a Maddieson[3] fod, o leiaf yn achos yr Islandeg, yr anadliad gan ffrwydrolion rhaganadledig yn hwy na chan ffrwydrolion arferol ôl-raganadledig, sydd yn debyg i glystyrau o [h] + cytsain mewn ieithoedd â'r clystyrau hyn. O ganlyniad, maent yn gweld rhaganadliad fel nodwedd hollol ddosraniadol na ellir gwahaniaethu yn seinegol nac yn ffonolegol rhyngddi a chlystyrau â /h/, ac mae'n well ganddynt nodi ffrwydrolion rhaganadledig fel clystyrau, e.e. y gair Islandeg am "arwr" kappi fel /ˈkʰahpi/ yn hytrach na /ˈkʰaʰpi/.

Gwahaniaethir yn aml rhwng rhaganadliad normadol ac annormadol. Mewn iaith a chanddi raganadliad normadol ar rai ffrwydrolion di-lais, mae'n rhaid eu rhaganadlu er nad nodwedd gyferbyniol yw'r rhaganadliad hwn. Mewn iaith â rhaganadliad annormadol, gall defnyddwyr y rhaganadliad ei strwythuro'n seinegol ond nid yw'n angenrheidiol ac efallai na fydd yn digwydd yn iaith pob siaradwr.[5][6] Fel arfer, ymddengys cytseiniaid rhaganadledig mewn amrywiad rhydd â chlystyrau o ffrithiolion, er y gallai fod ganddynt berthynas syncronig a diacronig â llafariaid hirion neu glystyrau [s]-ffrithiolyn.[7]

Gall rhaganadliad ymddangos mewn sawl ffurf wahanol. Er mai ffrithiad glotol, sain megis [h], yw'r fwyaf arferol, gall y ffrithiolyn neu'r llafariad flaenorol effeithio ar yr union ansawdd ffonetig, gan droi'n [ç] ar ôl llafariaid caeedig.[8] Mae ynganiadau posibl eraill yn cynnwys [x][7] a hyd yn oed [f].[9]

Mae rhaganadlu yn ansefydlog iawn yn syncronig ac yn ddiacronig ac yn aml iawn y bydd ffrithiolyn neu hwyhau'r llafariad flaenorol yn cymryd ei le.[10]

Mynychter[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn yr ieithoedd Germanaidd Gogleddol y mae'r enghreifftiau enwocaf o raganadliad, yn Islandeg a Ffaröeg yn bennaf ond hefyd mewn rhai o dafodieithoedd Norwyeg a Swedeg. Nodwedd amlwg yng Ngaeleg yr Alban yw hi hefyd, dylanwad Llychlynnaidd ar yr iaith yn ôl pob sôn.[11] Ceir rhaganadlu hefyd yng ngogledd-orllewin Ewrop yn y mwyafrif o ieithoedd Samaidd. Nid oes rhaganadlu yn Sameg Inari, lle y'i disodlwyd gan ôl-anadlu.[12] Mae gwhaniaeth barn ynghylch y berthynas hanesyddol rhwng rhaganadliad mewn ieithoedd Samaidd a Llychlynnaidd: mae cytundeb bod cysylltiad rhyngddynt ond nid ar o ba un o'r ddau grŵp y daeth rhaganadlu yn wreiddiol.

Yn ogystal ag yng ngogledd Ewrop, ceir rhaganadliad ym Mongoleg Halh ac mewn sawl un o ieithoedd brodorol America, gan gynnwys Cree, Ojibwe, Fox, Miami-Illinois, Hopi[13][14][15][16] a Purepecha.

Enghreifftiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Saesneg[golygu | golygu cod y dudalen]

Mewn rhai acenion, fel acen Newcastle ymhlith menywod ifanc[17], a chan rai o siaradwyr Saesneg Dulyn[18], gall /p, t, k/ ar ddiwedd gair neu ymadrodd gael eu rhaganadlu.[17][18]

Ffaröeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhai enghreifftiau o ffrwydrolion ac affrithiolion o'r iaith Ffaröeg, lle y maent yn ymddangos ar ôl llafariaid acennog yn unig:

  • klappa

[ˈkʰlaʰpːa], 'clapio'

  • hattur

[ˈhaʰtːʊɹ], 'het'

  • takka

[ˈtʰaʰkːa], 'diolch'

  • søkkja

[ˈsœʰt͡ʃːa], 'suddo' (berf anghyflawn)

Ar ben hyn, man gan dafodieithodd Vágar, gogledd Streymoy ac Eysturoy ffrwydrolion ac affrithiolion annybledig (heblaw am ar ôl llafariad/deuseiniaid caeedig):

  • apa

[ˈɛaːʰpa], 'epa', ond vípa [ˈvʊiːpa], 'cornchwiglen'

  • eta

[ˈeːʰta], 'bwyta', ond hiti [ˈhiːtɪ], 'gwres'

  • vøka

[ˈvøːʰka], 'deffro', ond húka [ˈhʉuːka], 'cyrcydu'

  • høkja

[ˈhøːʰt͡ʃa], 'ffon fagl', ond vitja [viːt͡ʃa], 'ymweld'

Islandeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhai enghreifftiau o ffrwydrolion o'r Islandeg, lle y maent yn ymddangos ar ôl llafariaid acennog yn unig:[19]

  • kappi

[ˈkʰaʰpi], 'arwr'

  • hattur

[ˈhaʰtʏr], 'het'

  • þakka [ˈθaʰka] 'diolch'

Mazateceg Huautla[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym Mazateceg Huautla, gall rhaganadliad ymddangos ar ddechrau gair, nodwedd unigryw, efallai, ymhlith ieithoedd sydd yn cynnwys rhaganadliad:[20]

[ʰti] - 'pysgodyn'

[ʰtse] - 'briw'

[ʰtʃi] - 'bach'

[ʰka] - 'sofl'

Ieithoedd Samaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn yr ieithoedd Samaidd, ceir rhaganadliad ar ffrithiolion ac affrithriolion di-lais ym mhob man ynganu ( /p/, /t̪/, /t͡s/, /t͡ɕ/, /k/) ynghanol geiriau. Yn yr ieithoedd gorllewinol (Sameg Deheuol, Ume, Pite, Lule a Gogleddol) ac yn Sameg Sgolt, mae rhaganadliad yn effeithio ar gytseiniaid hirion a lled-hirion. Yn yr ieithoedd dwyreiniol (Akkala, Kildin a Ter), dim ond cytseiniaid hirion a raganedlir. Mae'n debyg bod hyn yn cynrychioli dwy don o newid: cyfnod cynnar o raganadlu cytseiniaid hirion sydd yn dyddio'n ôl i Broto-Sameg, ac yna rhaganadlu eilaidd ar gytseiniaid lled-hirion sydd yn tarddu o ardal Sameg Gorllewinol ac a ymledodd tua'r dwyrain at Sameg Sgolt.[21]

Mewn sawl iaith Samaidd, mae ffrwydrolion ac affrithiolion rhaganadledig yn cyferbynnu â ffrwydrolion di-lais llac, oherwydd naill ai datrwynoli clystyrau cynharach (e.e. *[nt] > [d̥ː]) neu mewn cysylltiad â graddoliad cytseiniol.

Gaeleg yr Alban[golygu | golygu cod y dudalen]

Serch hynny, yng Ngaeleg yr Alban, oherwydd colled hanesyddol y ffrwydrolion, mae rhaganadlu yn ffonemig mewn safleoedd canolog ac olaf ar ôl llafariaid acennog.[22]

Bras amcan o fynychter rhaganadliad yn nhafodieithoedd Gaeleg yr Alban

Mae ei gryfder yn amrwyio o ardal i ardal a gall ymddangos fel [ʰ] neu [h], neu mewn ardaloedd lle y mae rhaganadlu cryf, fel [ç] neu [x]. Mae ymddangosiad rhaganadlu yn dilyn hierarchiaeth o /k/ > /t/ > /p/. Felly os oes gan dafodiaith raganadlu ar /pʰ/, bydd ganddi ymhob man ynganu arall. Ymddengys rhaganadliad fel a ganlyn:[23]

  • Ardal 1 fel

[xk xt xp] a [çkʲ çtʲ çp]

  • Ardal 2 fel

[xk xt hp] a [çkʲ çtʲ hp]

  • Ardal 3 fel

[xk ht hp] a [çkʲ htʲ hp]

  • Ardal 4 fel

[ʰk ʰt ʰp]

  • Ardal 5 fel

[xk] a [çkʲ] (dim rhaganadlu ar /t/ a /p/)

  • Ardal 6 heb raganadlu

Ceir nifer o barau cyferbyniol:

  • glag [klˠ̪ak] "cloc" a glac [klˠ̪axk] "cydia"
  • ad [at̪] "het" ac at [aht̪] "cornwyd"
  • leag [ʎɛk] "tafla i lawr" a leac [ʎɛxk] "carreg llorio"
  • aba [apə] "abad" ac apa [ahpə] "epa"

Clystyrau h[golygu | golygu cod y dudalen]

Er ein bod yn anodd gwahaniaethu rhwng cytseiniaid rhaganadlog a chlystyrau o /h/ a chytsain ddi-lais, nid yw'r gwrthwyneb yn wir. Ceir sawl iaith fel yr Arabeg a'r Ffinneg lle y mae pawb yn ystyried y fath glystyrau yn rhai cytseiniol.

Nodiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Nodyn:Harvcoltxt
  2. Nodyn:Harvcoltxt
  3. 3.0 3.1 Nodyn:Harvcoltxt
  4. Nodyn:Harvcoltxt
  5. Nodyn:Harvcoltxt
  6. Nodyn:Harvcoltxt
  7. 7.0 7.1 Nodyn:Harvcoltxt
  8. Nodyn:Harvcoltxt
  9. Nodyn:Harvcoltxt
  10. Nodyn:Harvcoltxt
  11. Oskar Bandle, Gun Widmark. The Nordic Languages. p. 2059. 
  12. Nodyn:Harvcoltxt
  13. Nodyn:Harvcoltxt
  14. Nodyn:Harvcoltxt
  15. Nodyn:Harvcoltxt
  16. Nodyn:Harvcoltxt
  17. 17.0 17.1 Nodyn:Harvcoltxt
  18. 18.0 18.1 "Glossary". https://www.uni-due.de/vcde/VCDE_Glossary.htm#GlossE. Adalwyd 11 February 2015.
  19. Nodyn:Harvcoltxt
  20. Nodyn:Harvcoltxt
  21. Nodyn:Harvcoltxt
  22. Borgstrøm, C. The Dialects of the Outer Hebrides (1940) Norsk Tidskrift for Sprogvidenskap
  23. Ó Dochartaigh, C. Survey of the Gaelic Dialects of Scotland I-V Dublin Institute for Advanced Studies (1997) ISBN 1-85500-165-9

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]