Rhaeadrau Clud
Gwedd
| Math | rhaeadr, wildlife reserve |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Afon Clud, The Falls of Clyde |
| Lleoliad | New Lanark |
| Sir | De Swydd Lanark |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 55.6547°N 3.7715°W |
| Cod OS | NS881423 |
| Rheolir gan | Scottish Wildlife Trust |
![]() | |

Mae Rhaeadrau Clud yn rhaeadrau ar Afon Clud tua milltir i’r de o dref Lanark, yn Ne Swydd Lanark. Cyraeddir y rhaeadrau trwy safle hanesyddol New Lanark. Mae’r rhaeadrau’n cynnwys 4 rhaeadr; Bonnington Linn, Corra Linn, Dundaff Linn, sydd yn rhan o warchodfa natur Rhaeadrau Clud, a Stonebyres Linn, sydd sawl milltir pellach i lawr afon Clud.[1]
Roedd pŵer y rhaeadrau’n allweddol i lwyddiant melinau cotwm New Lanark.
Dros 100 math o adar wedi cael eu gweld yno, a hefyd ystlymod, moch daear a dwrgwn.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Gwefan newlanark.org". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-12. Cyrchwyd 2019-10-12.
- ↑ Gwefan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt yr Alban
