Reticwlwm endoplasmig

Oddi ar Wicipedia
Delwedd o niwclews, reticwlwm endoplasmig ac organigyn Golgi.
1 Niwclews     2 Mandwll niwclear     3 Reticwlwm endoplasmig garw     4 Reticwlwm endoplasmig llyfn     5 Ribosom ar yr RE garw     6 Proteinau sy'n cael eu cludo     7 Fesiglau cludiant     8 Organigyn Golgi     9 Ochr cis yr organigyn Golgi     10 Ochr trans yr organigyn Golgi     11 Cisternae yr organigyn Golgi    

Organyn isgellog a ddarganfyddir mewn cell fiolegol ewcaryotig yw reticwlwm endoplasmig (a elwir yn RE yn fyr). Mae’n rhwydwaith bilen estynnol o cisternae (strwythurau codennol) o fewn cytoplasm y gell sydd wedi’i uno gyda’r amlen niwclear. Mae pilen ffosffolipid y reticwlwm yn amgáu gwagle o’r cytosol, a elwir yn waglyn cisternol neu lwmen. Mae swyddogaethau’r reticwlwm endoplasmig yn ddibynnol ar y fath o reticwlwm a'r fath o gell. Mae yna dair ffurf i'r reticwlwm endoplasmig sy’n weladwy yn y rhan fwyaf o gelloedd: reticwlwm endoplasmig llyfn, reticwlwm endoplasmig garw a reticwlwm sarcoplasmig.[1]

Mae’r reticwlwm endoplasmig llyfn yn cynnwys nifer o ensymau pilennog, yn cynnwys nifer o ensymau sydd yn cymryd rhan yn synthesis lipidau, ocsidiad a dadwenwyno cyfansoddion estron (senobiotigion) fel cyffuriau. Mae ganddynt nifer o swyddogaethau metabolaidd eraill, fel rheoli crynodiad Calsiwm y gell, cymryd rhan yn metabolaeth carbohydradau a glynu derbynnyddion wrth broteinau cellbilennau. Darganfyddir RE llyfn yn nifer o wahanol fathau o gell a maent â pwrpasau gwahanol ym mhob un. Mae RE llyfn yn cynnwys tiwbynnau a fesiglau sy'n canghennu i ffurfio rhwydwaith sy’n cynyddu arwynebedd ar gyfer prosesau metabolaidd ac ar gyfer storio ensymau.
Enwyd y reticwlwm endoplasmig garw oherwydd presenoldeb nifer o ribosomau ar bilen allanol y reticwlwm. Mae hyn yn rhoi ymddangosiad garw i'r RE. Mae'r ribosomau yma yn benodol yn syntheseiddio proteinau sy'n cael eu secretu gan y gell neu proteinau i'w defnyddio yn y bilen blasma a rhai organynnau cellog. Mae'r RE garw yn barhaol gyda haen allanol yr amlen niwclear, ac felly mae modd i drosglwyddo deunyddiau rhwng cnewyllyn y gell a'r rhwydwaith Reticwlwm Endoplasmig. Er nad oes pilen ddi-dor rhwng yr RE garw a'r organigyn Golgi, bydd fesiglau pilennog yn trosglwyddo proteinau rhwng y ddau. Mae'r RE garw yn cydweithio â’r organigyn Golgi i gyfeirio proteinau newydd i'r llefydd cywir.[2]
Mae’r reticwlwm sarcoplasmig yn fath arbennig o RE llyfn a ddarganfyddir mewn cyhyr rhesog. Yr unig wahaniaeth strwythurol rhwng reticwlwm sarcoplasmig a RE llyfn yw'r gymysgedd o broteinau sydd ynddynt. Oherwydd hyn, mae'r reticwlwm sarcoplasmig yn fwy addas ar gyfer storio a pwmpio ionau Calsiwm, sy'n bwysig ar gyfer ysgogi cyfangiad cyhyrol.[3] Yn gyferbynniol, mae RE llyfn yn fwy addas ar gyfer syntheseiddio molecylau.

Swyddogaethau[golygu | golygu cod]

Hanes[golygu | golygu cod]

Arsylwyd retiwclwm endoplasmig yn gyntaf gan Keith R. Porter o dan ficrosgôp electron yn ystod ei waith ar feithriniad meinweoedd yn athrofa ymchwil meddygaeth Rockerfeller yn Efrog Newydd yn 1944.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Endoplasmic reticulum: Structure and function. Prifysgol Meddygol Texas. (Saesneg) http://cellbio.utmb.edu/cellbio/rer1.htm Archifwyd 2006-11-10 yn y Peiriant Wayback.
  2. Campbell, Neil A. (1996) Biology Fourth Edition. Benjamin/Cummings Publishing, pp. 120-121 ISBN 0-8053-1940-9
  3. Toyoshima C, Nakasako M, Nomura H, Ogawa H. (2000, June 8). (Saesneg) Crystal structure of the calcium pump of sarcoplasmic reticulum at 2.6 A resolution. Nature. 405(6787):647-55.
  4. A study of tissue culture cells by electron microscopy., Keith R. Porter, Albert Claude a Ernest F. Fullam. (derbynwyd ar gyfer cyhoeddiad yn Nhachwedd 1944)
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: