Reticulum (cytser)
Gwedd
| Enghraifft o: | cytser |
|---|---|
| Dyddiad darganfod | 1750s |
| Rhan o | hemisffer wybrennol y de |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01f170 |
Cytser pŵl bach a welir yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y de yw Reticulum. "Reticulum" yw'r gair Lladin am "rwyd fach", sy'n cyfeirio at batrwm llinellau mân yn sylladur telesgop. Fe'i henwyd yn "Reticule Romboide" yn 1756 gan y seryddwr o Ffrancwr Nicolas Louis de Lacaille. Yn ddiweddarach newidiodd Lacaille yr enw i'r gair Lladin, Reticulus, enw a newidiwyd yn "Reticulum" yn y 19g.[1] Mae'n un o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol ym 1922.

Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Reticulum", Ian Ridpath's Star Tales; adalwyd 24 Mawrth 2025