Regulus (seren)

Oddi ar Wicipedia
Regulus
Enghraifft o'r canlynoltriple star system, navigational star Edit this on Wikidata
Màs3.8 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysRegulus, HD 87884, Regulus C Edit this on Wikidata
CytserLeo Edit this on Wikidata
Pellter o'r Ddaear24 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Regulus (llun digidol)
Lleoliad Regulus yng nghytser y Llew

Seren yw Regulus (Alpha Leonis), a leolir yng nghytser y Llew (Leo). Mae'n un o'r gwrthrychau disgleiriaf yn awyr y nos yn hemisffer y gogledd, sy'n gorwedd tua 77.5 blwyddyn golau i ffwrdd o'r Ddaear. System aml-serol o bedair seren wedi'u trefnu yn ddau bâr (binari) yw Regulus. Mae prif seren sêr binari sbectroscopig Regulus A yn seren brif-gyfres (main-sequence) las-gwyn ac mae ei gydymaith yn seren gorrach wen, yn ôl pob tebyg, er na ellir ei gweld. Yn bellach i ffwrdd ceir Regulus B a Regulus C, sy'n sêr prif-gyfres gwan.

Mae Regulus yn seren gyfarwydd ers cyfnod yr Henfyd. Ystyr y gair Lladin Rēgulus yw 'tywysog' neu 'mân frenin'. Roedd y Groegiaid yn ei hadnabod fel Basiliscus a defnyddir yr enw o hyd gan rai. Yn Arabeg fe'i hadnabyddir fel Qalb Al Asad (قلب لأسد) neu Qalb[u] Al-´asad, sef 'Calon y Llew'. Trwy'r ffurf Kabelaced rhoddodd hyn yr enw Lladin canoloesol Cor Leōnis. Ei henw Tsieinëeg yw 轩辕十四, Pedwaredd Seren ar Ddeg Xuanyuan, yr Ymerodr Melyn. Yn seryddiaeth y traddodiad Hindw, mae Regulus yn cyfateb i Nakshatra Magha.