Refferendwm y Deyrnas Unedig ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, 2016

Oddi ar Wicipedia
Refferendwm y Deyrnas Unedig ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd
Dydd Iau, 23 Mehefin 2016
A ddylai'r Deyrnas Unedig aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd neu adael yr Undeb Ewropeaidd?
LocationY Deyrnas Unedig a Gibraltar
Date23 Mehefin 2016 (2016-06-23)
Canlyniadau
Ie neu Na Pleidleisiau Canran
Ie 16,141,241 700148110000000000048.11%
Na 17,410,742 700151890000000000051.89%
Pleidl. dilys 33,551,983 700199920000000000099.92%
Annilys 26,033 69988000000000000000.08%
Cyfanswm y pleidleisiau 33,578,016 100.00%
Pleidleiswyr 700172210999999999972.21%
Etholaeth 46,501,241
Y canlyniadau yn ôl ardaloedd pleidleisio
     Ie     Na

Yn dilyn pasio yn Senedd y Deyrnas Unedig (DU) 'Ddeddf Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd' (UE), (European Union Referendum Act 2015) cynhaliwyd Refferendwm y Deyrnas Unedig ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, 2016 neu Brexit (British Exit) ar 23 Mehefin 2016, a oedd yn cynnwys gwledydd y DU a Gibraltar. Pwrpas y refferendwm oedd caffael barn dinasyddion y DU a Gibraltar ar aelodaeth y DU o fewn y Gymuned Ewropeaidd. Canlyniad y refferendwm oedd gadael Ewrop, gyda 17,410,742 (51.89%) o bleidleisiau'n cael eu bwrw dros adael ac 16,141,241 (48.11%) dros aros. Roedd y nifer a bleidleisiodd yn gymharol uchel: 72.21%. O fewn awr neu ddwy i'r holl ganlyniadau gael eu cyhoeddi dywedodd y Prif Weinidog David Cameron y byddai'n ymddiswyddo ar ôl "sadio a llonyddu'r cwch", ac y bwriada adael ei swydd cyn Hydref 2016.

Yr Alban
Yr Alban
Gogledd Iwerddon
Gogledd Iwerddon
Gogledd Iwerddon a'r Alban yn pleidleisio dros aros.
Canran y pleidleisiau.

Gorfodwyd y Prif weinidog David Cameron i gynnal refferendwm gan fwrlwm cyn-etholiadol UKIP yng ngwanwyn 2015, pan cyhoeddodd sawl pôl piniwn y byddai UKIP - sydd ag un nod yn unig, sef gadael yr UE - yn llwyddo i ddwyn seddi nifer o Aelodau Seneddol y Blaid Geidwadol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015. Fodd bynnag, canlyniad siomedig a gafodd UKIP: un AS (Mark Reckless), ond daliodd Cameron at ei air a threfnwyd Refferendwm yn goelbren democrataidd.

Yr unig gwestiwn a ofynwyd ar y papur pleidleisio oedd:

A ddylai'r Deyrnas Unedig aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd neu adael yr Undeb Ewropeaidd?

a'r unig ddau ddewis a roddwyd oedd:

Aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd
Gadael yr Undeb Ewropeaidd[1]

Canlyniad y bleidlais[golygu | golygu cod]

Canran o blaid Aros
Gwlad / Ardal %
Yr Alban
62.0
Llundain
59.9
Gogledd Iwerddon
55.7
Cymru
47.5
Lloegr
46.6

Adladd gwleidyddol ac ariannol i'r canlyniad[golygu | golygu cod]

Ariannol[golygu | golygu cod]

Gwerth y bunt yn erbyn y ddoler, gyda chwymp amlwg ar 23 Mehefin 2016, yn dilyn Brexit. Mae'r golofn ar y chwith yn nodi gwerth y bunt Sterling mewn Doleri (UDA).

Wedi i lond dwrn o ganlyniadau ddod i'r fei, disgynodd gwerth y bunt yn erbyn y ddoler oddeutu 9%. O fewn deg munud i'r farchnad stoc agor ar ddiwrnod canlyniad y Refferendwm, gwelwyd gwerth £137bn yn cael ei ddileu a disgynodd FTSE 250 11.7%. Disgynodd gwerth cyfraddau banciau a chwmniau tai yn fwy na siars eraill, ac ym mhlith y gwaethaf roedd: Taylor Wimpey (-42%), Persimmon (-40%), RBS (-34%), IAG (-33%), Barclays (-29%) a Lloyds (-29%).[2]

Erbyn Hydref 2016 roedd gwerth y bunt yn erbyn y ddoler wedi gostwng ei werth i'r gwerth lleiaf am dros 130 o flynyddoedd.

Golwg fanylach ar ganran y pleidleisiau.

Gwleidyddion y byd[golygu | golygu cod]

Un o'r cyntaf i wneud sylw oedd Jean-Marie Le Pen, arweinydd Ffrynt Cenedlaethol Ffrainc, a gymharodd canlyniad y Refferendwm i "wal Berlin yn cwympo".[3] Mynegodd Prif Weinidog Y Weriniaeth Tsiec, Bohuslav Sobotka, y bydd ei wlad yntau, o ganlyniad i hyn, yn cynnal Refferendwm debyg.[4]

Rhybuddiodd Gweinidog Tramor Sbaen, José García-Margallo, y bydd Sbaen yn hawlio Gibraltar yn ôl i'w corlan pe bai'r DU yn gadael yr UE.[5]

Y gwledydd Celtaidd[golygu | golygu cod]

Pleidleisiodd yr Alban a Gogledd Iwerddon dros aros. Ddwy flynedd ynghynt, yn dilyn Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014, mynegodd arweinyddion yr SNP, Alex Salmond a Nicola Sturgeon, y byddai pobl yr Alban yn mynnu ail Refferendwm ar Annibyniaeth, pe bai Lloegr a Chymru yn pleidleisio i adael yr UE a'r Alban dros aros. Ar fore diwrnod y canlyniad, cyhoeddodd Sturgeon fod ail Refferendwm yn gwbwl debygol. Yng Ngogledd Iwerddon, galwodd arweinydd Sinn Fein, Gerry Adams, hefyd am Refferedwm dros Annibyniaeth. Ym Mai 2016, cyn y Refferendwm, rhybuddiodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, "y gallai gadael Ewrop chwalu'r DU".[6] Ar ddiwrnod cyhoeddi canlyniad y Refferendwm, dywedodd: "Rwyf yn hynod siomedig gyda'r canlyniad. Dyma refferendwm na ddylai, yn fy marn i, fod wedi digwydd, nid oherwydd fy mod yn gwrthwynebu'r penderfyniad democrataidd a gymerwyd heddiw, ond oherwydd ei amseriad mor fuan ar ôl etholiadau'r cynulliad. Roeddwn yn teimlo nad oedd y ddadl hon am yr UE mewn gwirionedd."[7]

Cymru[golygu | golygu cod]

Fe bleidleisiodd 854,572 (52.5%) o drigolion Cymru o blaid gadael yr UE, o'i gymharu â 772,347 (47.5%) a oedd am aros. Er gwaethaf galwad y Blaid Lafur, mae nifer o ardaloedd traddodiadol Llafur fel Caerffili, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Casnewydd ac Abertawe wedi pleidleisio i anwybyddu'r alwad honno, gan droi eu cefn ar Ewrop. Allan o 22 awdurdod lleol, 5 yn unig a bleidleisiodd dros aros o fewn Ewrop: Gwynedd, Ceredigion, Bro Morgannwg, Sir Fynwy a Chaerdydd.

Yn ôl Emyr Lewis, cyfreithiwr sy'n arbenigo ar gyfraith Ewrop, "O ran Cymru yn benodol, bydd tipyn o waith cymhleth a manwl i'w wneud i ystyried sut y bydd yr ariannu Ewropeaidd cyfredol (sydd i fod i bara nes 2020) yn cael ei drin. A fydd yn cael ei gwtogi, neu hyd yn oed ei ddiddymu? A fydd yr Undeb yn caniatáu i Lywodraeth Cymru ddod i gytundeb dros Gymru ar wahân i Lywodraeth Prydain, fel y mae Carwyn Jones wedi ei awgrymu?"[8]

Dywedodd Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, Elin Jones fod "gan y bleidlais i adael yn Refferendwm yr UE "oblygiadau eang" i gyfeiriad Cymru a'i chynulliad... Bydd angen llais cryf, a bydd angen bod o amgylch y bwrdd wrth gynnal unrhyw drafodaethau ynglŷn â dyfodol y DU."

Hanes[golygu | golygu cod]

Ymunodd y Deyrnas Unedig (DU) gyda'r Undeb Ewropeaidd (a adnaybddwyd yr adeg honno fel 'y Farchnad Gyffredin', neu'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd - EEC yn Saesneg) ar 1 Ionawr 1973.[9] Y Blaid Geindwadol oedd uchaf eu cloch dros ymuno â nhw oedd yn y Llywodraeth, gydag Edward Heath yn brif weinidog. Erbyn Etholiad 1974 roedd y Blaid Lafur, dan arweinyddiaeth Harold Wilson, yn uchel eu cloch fod angen newid termau aelodaeth y DU o fewn Ewrop a chynnal refferendwm. Lloriwyd y cynnig a daeth Margaret Thatcher (Ceidwadwr) yn Brif weinidog.[9] Newiddiodd y Blaid Lafur ei pholisiau.[9]

Y ddwy ochr[golygu | golygu cod]

O blaid aros
Theresa May
"Oherwydd diogelwch, er mwyn ein hamddiffyn rhag terfysgaeth ac oherwydd marchnata gydag Ewrop a marchnadoedd y byd, mae o ddiddordeb cenedlaethol i ni barhau yn aelod."[10]
Theresa May
"Oherwydd diogelwch, er mwyn ein hamddiffyn rhag terfysgaeth ac oherwydd marchnata gydag Ewrop a marchnadoedd y byd, mae o ddiddordeb cenedlaethol i ni barhau yn aelod."[10] 
Nicola Sturgeon
"Bluntly, I believe the groundswell of anger among ordinary people in Scotland in these circumstances could produce a clamour for another independence referendum which may well be unstoppable"[11]
Nicola Sturgeon
"Bluntly, I believe the groundswell of anger among ordinary people in Scotland in these circumstances could produce a clamour for another independence referendum which may well be unstoppable"[11] 
Richard Branson
"Byddai'n hynod o niwediol i Brydain... a chredaf mai dyma fyddai dechrau y diwedd i'r Undeb Ewropeaidd."
Richard Branson
"Byddai'n hynod o niwediol i Brydain... a chredaf mai dyma fyddai dechrau y diwedd i'r Undeb Ewropeaidd." 
Emma Thompson
"Britain is a tiny little cloud-bolted, rain corner of sort-of Europe, a cake-filled misery-laden grey old island."
Emma Thompson
"Britain is a tiny little cloud-bolted, rain corner of sort-of Europe, a cake-filled misery-laden grey old island." 
George Osborne
"'Da ni'n well, yn saffach ac yn gryfach oddi fewn i Ewrop; y dewis arall ydy naid anferthol i'r tywyllwch."
George Osborne
"'Da ni'n well, yn saffach ac yn gryfach oddi fewn i Ewrop; y dewis arall ydy naid anferthol i'r tywyllwch." 
Yn erbyn aros
Iain Duncan Smith
"Yn y byd, rydym yn werthwr global yn barod."
Iain Duncan Smith
"Yn y byd, rydym yn werthwr global yn barod." 
Michael Caine
"Ddylech chi byth cael miloedd o weision sifil diwyneb yn dweud wrthych chi beth i'w wneud."
Michael Caine
"Ddylech chi byth cael miloedd o weision sifil diwyneb yn dweud wrthych chi beth i'w wneud." 
Nigel Farage
"We must break up the eurozone. We must set those Mediterranean countries free."[12]
Nigel Farage
"We must break up the eurozone. We must set those Mediterranean countries free."[12] 
Priti Patel
"Mae barnwyr Ewrop yn chwerthin am ben hawliau dynol."
Priti Patel
"Mae barnwyr Ewrop yn chwerthin am ben hawliau dynol." 
Michael Gove
"Mae'n bwysig fod pobl yn sylweddoli fod Llys Hawliau Ewrop yn sefyll yn uwch na phob cenedl sofran."[13]
Michael Gove
"Mae'n bwysig fod pobl yn sylweddoli fod Llys Hawliau Ewrop yn sefyll yn uwch na phob cenedl sofran."[13] 

Y polau piniwn[golygu | golygu cod]

Poliau piniwn cyn y pleidleisio.

Cymru[golygu | golygu cod]

Dyddiad Aros Gadael Ansicr Sampl Canlyniad
7–11 Ebrill 2016 38% 39% 16% 1,011 YouGov
9–11 Chwefror 2016 37% 45% 18% 1,024 YouGov
21–24 Medi 2015 42% 38% 21% 1,010 YouGov
4–6 Mai 2015 47% 33% 16% 1,202 YouGov/ITV Wales
24–27 Medi 2015 44% 38% 14% 1,189 YouGov/ITV Wales
5–9 Medi 2015 43% 36% 17% 1,279 YouGov/ITV Wales
19–26 Chwefror 2015 63% 33% 4% 1,000 ICM/BBC Archifwyd 2015-09-24 yn y Peiriant Wayback.
19–21 Ionawr 2015 44% 36% 16% 1,036 YouGov/ITV Wales
2–5 Rhagfyr 2014 42% 39% 15% 1,131 YouGov/ITV Wales
8–11 Medi 2014 43% 37% 15% 1,025 YouGov/ITV Wales
26 Mehefin–1 Gorffennaf 2014 41% 36% 18% 1,035 YouGov/ITV Wales
21–24 Chwefror 2014 54% 40% 6% 1,000 ICM/BBC
14–25 Mehefin 2013 29% 37% 35% 1,015 Beaufort Research

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Referendum on membership of the European Union: Assessment of the Electoral Commission on the proposed referendum question" (PDF). Y Comisiwn Etholiadol. Medi 2015. Cyrchwyd 5 Medi 2015.
  2. www.telegraph.co.uk; papur y Telegraph; adalwyd 24 Mehefin 2016.
  3. Verhofstadt, Guy (5 Ionawr 2016). "Putin will be rubbing his hands at the prospect of Brexit". The Guardian. Cyrchwyd 29 Tachwedd 2015. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  4. M. Holehouse, "Czech Republic 'will follow Britain out of EU'", The Daily Telegraph, 23 Chwefror 2016
  5. "Spanish PM's anger at David Cameron over Gibraltar". BBC News. 16 Mehefin 2016.
  6. Gwefan BBC Cymru; adalwyd 24 Mehefin 2016.
  7. Gwefan BBC Cymru; adalwyd 24 Mehefin 2016.
  8. Gwefan Cymru Fyw; adalwyd 24 Mehefin 2016.
  9. 9.0 9.1 9.2 Vaidyanathan, Rajini (4 Mawrth 2010). "Michael Foot: What did the 'longest suicide note' say?". BBC News Magazine. BBC. Cyrchwyd 21 Hydref 2015.
  10. Daw'r dyfyniadau hyn, oni nodir yn wahanol allan o bapur newydd yr Independent; 21 Chwefror 2016
  11. independent.co.uk; 26 Chwefror 2016
  12. brainyquote.com; adalwyd Chwefror 2016
  13. reuters.com; adalwyd Chwefror 2016.